27 Medi 2026
Oherwydd achos o scabies, mae cyfyngiadau ymweld yn Ysbyty Tywysog Philip o heddiw, ddydd Sul 27 Medi.
Mae scabies yn gyflwr croen cyffredin a achosir gan widdon microsgopig, a gall effeithio ar bobl o bob oed. Er ei fod yn heintus iawn trwy gyswllt croen i groen am gyfnod estynedig neu drwy rannu dillad gwely neu ddillad, gyda phartneriaid a phobl sy’n rhannu’r un cartref, nid yw fel arfer yn gysylltiedig â salwch difrifol a gellir ei drin yn effeithiol. Mae'n bwysig nodi nad yw scabies yn gysylltiedig â hylendid personol gwael, a gall unrhyw un gael ei effeithio.
Mae nifer o achosion o scabies yn cael eu rheoli mewn lleoliadau gofal iechyd a chymunedol ar draws ardal Hywel Dda ar hyn o bryd. Mae'r risg i'r cyhoedd ehangach yn parhau i fod yn isel.
Esboniodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rydym wedi gwneud y penderfyniad i gyfyngu ar ymwelwyr ag Ysbyty Tywysog Philip heddiw i gyfyngu ar ledaeniad scabies ar ein safle ac yn ein cymuned. Mae nifer o wardiau ar gau ar hyn o bryd oherwydd haint, ac mae angen cefnogaeth a dealltwriaeth ein cymunedau arnom i gyfyngu ar ledaeniad pellach.
"Rydym yn cymryd camau uniongyrchol i drin cleifion, staff a chysylltiadau, ac yn cynnal glanhau trylwyr o'n wardiau, yn unol â mesurau rheoli ac atal heintiau. Mae scabies yn heintus iawn ac yn anodd ei ddileu, ac rydym yn ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth barhaus.
"Byddwn yn cysylltu ag unigolion y gallai hyn effeithio ar eu hapwyntiadau gofal a drefnwyd, cyn gynted â phosib. Nid yw hyn yn effeithio ar wasanaethau a ddarperir gan yr Uned Mân Anafiadau."
Mae rhagor o wybodaeth am scabies a sut i'w adnabod a'i drin ar gael ar wefan Hywel Dda yn: https://biphdd.gig.cymru/newyddion/datganiadau-ir-wasg/y-clefyd-crafu-yr-hyn-sydd-angen-i-chi-ei-wybod/ (agor mewn ffenest newydd)
Mae'r sefyllfa'n cael ei hadolygu'n barhaus a bydd diweddariadau'n cael eu rhannu ar wefan y Bwrdd Iechyd.