Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd yn cytuno i sicrhau darparwr newydd ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol Cross Hands a'r Tymbl

14 Rhagfyr 2023

Mewn cyfarfod eithriadol o’r Bwrdd heddiw (dydd Iau 14 Rhagfyr), cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda y dylid cynnal ymarfer caffael ffurfiol i sicrhau darparwr Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol newydd i ddarparu gofal i boblogaeth gofrestredig bresennol meddygfeydd Cross Hands a’r Tymbl.

Mae hyn yn dilyn y penderfyniad gan bartneriaid Partneriaeth Feddygol Cross Hands a’r Tymbl i ddychwelyd y contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, a daw hyn i rym ddiwedd mis Mawrth 2024.

Bu'r Bwrdd yn ystyried adborth gan y cyhoedd a rhanddeiliaid ac argymhellion y Panel Practis Gwag, y mae ei aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr Llais a'r Pwyllgor Meddygol Lleol, ynghyd â swyddogion y bwrdd iechyd.

Cytunodd y Bwrdd hefyd, pe na bai’r ymarfer caffael yn nodi darparwr unigol addas ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o fis Mawrth 2024, y bydd ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i’r opsiynau eraill, gan gynnwys y posibilrwydd o symud cleifion cofrestredig i feddygfeydd cyfagos, neu i gymryd poblogaeth gofrestredig Cross Hands a'r Tymbl fel meddygfa a reolir gan y Bwrdd Iechyd.

Dywedodd Judith Hardisty, Cadeirydd Dros Dro BIP Hywel Dda: “Rydym wedi gwrando ar gleifion meddygfeydd Cross Hands a’r Tymbl a’n rhanddeiliaid lleol, gan gynnwys meddygfeydd cyfagos. Bydd ymarfer caffael ffurfiol nawr yn cael ei gynnal i sicrhau darparwr Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol newydd i ddarparu gofal i gleifion cofrestredig.

“Ar ran y Bwrdd, hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y broses hon a phawb a roddodd o’u hamser i roi eu hadborth. Mae’n bwysig bod ein cymunedau’n cael cyfle i ymgysylltu a bod yn rhan o’r broses.”

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch i bawb a roddodd o’u hamser i rannu eu barn gyda ni. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i wrando ar ein poblogaethau lleol ac ymgysylltu â nhw a hoffem ddiolch i gleifion a rhanddeiliaid am eu rhan yn y broses.

“Fel sy’n arferol, gofynnodd y Bwrdd Iechyd, cyn y Panel Practis Gwag, am ddatganiadau o ddiddordeb i helpu i lywio’r broses y mae’r panel yn ei chyflawni. Daeth dau fynegiad o ddiddordeb i law’r Bwrdd Iechyd gan feddygfeydd cyfagos mewn derbyn y boblogaeth gofrestredig. Dyma hefyd yr opsiwn a ffafrir gan gleifion yn ôl yr adborth a gawsom.

“Bydd y bwrdd iechyd nawr yn symud ymlaen gyda phroses gaffael ffurfiol yn dilyn penderfyniad heddiw gan y Bwrdd. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid a staff Partneriaeth Feddygol Cross Hands a’r Tymbl i gynnal gwasanaethau diogel ac effeithiol i gleifion ac rydym yn ddiolchgar iddynt am eu hymdrechion parhaus yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd.

“Byddwn yn ysgrifennu at gleifion cofrestredig i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y penderfyniad a wnaed gan y Bwrdd heddiw a byddwn yn sicrhau bod ein cymuned yn cael gwybod am y broses barhaus hon.”

I weld papur y Bwrdd a gwylio’r cyfarfod bwrdd eithriadol, ewch i https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/eich-bwrdd-iechyd/cyfarfodydd-y-bwrdd-2023/cyfarfod-bwrdd-cyhoeddus-eithriadol-14-rhagfyr-2023/