Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd yn cymryd camau i amddiffyn darpariaeth iechyd a gofal ar gyfer y rhai difrifol wael

Mae gwasanaethau iechyd a gofal ledled Gorllewin Cymru yn ymateb i effeithiau'r amrywiad Omicron o COVID-19 er mwyn darparu gofal brys a gofal mewn argyfwng i gleifion yn y ffordd fwyaf diogel posib yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cymryd nifer o gamau heddiw, ac yn apelio am gefnogaeth barhaus ein staff a'n cymunedau i gadw Hywel Dda yn ddiogel wrth i ni wynebu'r cyfnod newydd hwn o'r pandemig.

Mae camau'n cael eu cymryd mewn ffordd gynlluniedig oherwydd y galw mawr rydyn ni'n ei weld am ofal nad yw ar gyfer COVID yn ystod yr adeg hon o'r flwyddyn, ynghyd â niferoedd uchel o COVID-19 yn ein hardal, fel gweddill y DU.

Mae hyn yn dechrau arwain at niferoedd uwch o dderbyniadau a digwyddiadau COVID yn ein hysbytai a'n cymunedau.

Mae hefyd yn cael effaith uniongyrchol ar ein lefelau staffio ar draws gwasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol ac ysbytai. Ar hyn o bryd rydym yn amcangyfrif bod o leiaf 10 y cant o'n gweithlu yn absennol am resymau COVID a rhesymau nad ydynt yn gysylltiedig â COVID. Mae'r ffigwr hwn yn uwch mewn rhai timau ac rydym yn disgwyl iddo godi yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae angen i ni gynllunio sut rydyn ni'n darparu'r gwasanaethau clinigol mwyaf hanfodol gyda'r staff sydd ar gael gennym.

Ymhlith y camau sy'n cael eu cymryd:

  • Mae'r bwrdd iechyd yn atgoffa staff o'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt yn fewnol i'w cefnogi ar yr adeg anodd hon. Mae'r bwrdd Iechyd yn rhoi rhywfaint o waith llai brys o’r neilltu er mwyn adleoli staff lle bo hynny'n bosib.
  • Er mwyn cynnal y llawdriniaethau canser mwyaf brys yn y tymor byr, cynhelir hyn ar gyfer poblogaeth Hywel Dda o Ysbyty Tywysog Philip, yn Llanelli, ac eithrio llawfeddygaeth canser frys y Pen a'r Gwddf, a fydd yn parhau yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili , yng Nghaerfyrddin. Mae ein clinigwyr yn credu mai canolbwyntio mwyafrif ein hadnoddau gofal brys ar un safle yn ystod yr wythnosau nesaf yw'r ffordd orau i amddiffyn y feddygfa hon a allai achub bywyd. Bydd y sefyllfa hon yn cael ei hadolygu'n barhaus a byddwn yn ceisio ailsefydlu llawfeddygaeth canser frys yn ein prif ysbytai eraill cyn gynted ag y gallwn wneud hynny'n ddiogel. Gofynnwn i gleifion a theuluoedd ein cefnogi a theithio am eu llawdriniaeth. Os nad oes gennych fodd i deithio am eich llawdriniaeth, yna cysylltwch â ni ar ein llinell ymholiadau COVID ar 0300 303 8322 neu e-bostiwch COVIDEnquiries.hdd@wales.nhs.uk 
  • Bydd apwyntiadau a chlinigau cleifion allanol a therapïau yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer y cleifion mwyaf brys dros yr wythnosau nesaf. Ac eithrio nifer fach o achosion brys a rhai apwyntiadau plant, byddwn yn aildrefnu apwyntiadau cleifion allanol yr wythnos nesaf. Bydd apwyntiadau cleifion yn cael eu hail-drefnu yn ôl brys clinigol yn ystod yr wythnosau dilynol. Oni bai bod y bwrdd iechyd yn cysylltu'n uniongyrchol â chi, dewch i unrhyw apwyntiad fel y trefnwyd. Os oes gan unrhyw un bryderon am yr oedi yn eu hapwyntiad claf allanol, o ganlyniad i'r mesur tymor byr hwn, gallant gysylltu â'r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 neu e-bostiwch COVIDEnquiries.hdd@wales.nhs.uk 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Andrew Carruthers: “Mae'r DU gyfan yn wynebu her gan Omicron a'r effaith anuniongyrchol ar staffio. Mae hyn yn ein heffeithio yma yn BIP Hywel Dda ar draws ein holl wasanaethau p'un ai yn y gymuned, gofal sylfaenol neu yn ein hysbytai, ond i wahanol raddau, ac mae'n sefyllfa gyfnewidiol iawn. Er mwyn sicrhau y darperir gofal ar gyfer y rhai mwyaf difrifol wael, ac i sicrhau ein bod yn amddiffyn gallu ein staff i ddarparu'r gofal hwn, rydym wedi rhoi camau ar waith a fydd yn rhoi rhywfaint o gapasiti ychwanegol inni. Ymddiheurwn i unrhyw un y mae'r gweithredoedd hyn yn effeithio'n andwyol arno ac mae'n parhau'n uchelgais, bob amser, i ailsefydlu ein gwasanaethau gofal cynlluniedig cyn gynted ag y gallwn, gan wybod yr effaith y mae hyn yn ei chael ar fywydau pobl."

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf, Mandy Rayani: “Rydyn ni mor ddiolchgar i’n staff sy’n parhau i weithio mewn amgylchiadau anodd ac syddbob amser yn cael eu sbarduno gan yr awydd i ddarparu’r gofal gorau posib i’n poblogaeth. Rydym yn gofyn i'n staff fod yn wyliadwrus ynghylch yr ymddygiadau rydyn ni'n gwybod sy'n lleihau trosglwyddiad COVID-19 yn y gwaith ac yn y cartref; a gall y cyhoedd hefyd chwarae rhan sylweddol wrth gefnogi'r Gwasanaeth Iechyd, a'i gilydd, trwy gadw at yr egwyddorion hyn hefyd. Yn anffodus rydym yn gweld mwy o gamdriniaeth yn cael ei dargedu at ein staff ac ni fyddwn yn goddef hyn. Mae staff iechyd a gofal - o'r clinigwyr i'r timau cymorth a thrinwyr galwadau mewn timau gofal sylfaenol, cymunedol ac ysbyty - yn darparu gwasanaeth i helpu ein cleifion a'n cymunedau ac ni ddylent fyth ddioddef camdriniaeth, corfforol neu ar lafar. Helpwch ni i'ch helpu chi.”

Ymhlith y camau y gallwch eu cymryd i amddiffyn mwy o fywydau, ein Gwasanaeth Iechyd a'n gilydd, mae:

  • Sicrhau eich cwrs llawn o frechiadau (agor mewn dolen newydd)
  • Dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar hunan-ynysu a phrofi, gan gynnwys cynnal Profion Llif Ochrol yn rheolaidd (mae gan staff iechyd a gofal ganllawiau penodol a gwahanol yn fewnol)
  • Gwisgo gorchudd wyneb, neu os gofynnir amdanynt mewn lleoliad iechyd, mwgwd wyneb llawfeddygol
  • Cadw pellter o 2 fetr oddi wrth eraill pan allwch chi
  • Golchi eich dwylo'n rheolaidd a bod yn barod i weithiwr gofal iechyd proffesiynol ofyn i chi olchi dwylo neu ddefnyddio diheuntydd p'un ai yn yr ysbyty neu yn eich cartref eich hun
  • Peidio â mynd gydag eraill i'r ysbyty, meddygfa neu leoliad gofal arall oni bai eu bod yn agored i niwed a bod angen eich cymorth arnynt
  • Byddwch yn ymwybodol y gall eich meddygfa gynnig apwyntiadau i chi mewn gwahanol ffyrdd lle bo hynny'n briodol, megis dros y ffôn neu ar-lein. Caniatewch amser ychwanegol wrth archebu presgripsiynau yn ystod yr amser prysur hwn. Mae fferyllfeydd cymunedol hefyd yn hynod o brysur felly efallai y bydd angen i chi aros yn hirach na'r arfer.
  • Trefnu ymweliad ysbyty ymlaen llaw gyda phrif nyrs y ward a deall os nad yw'n bosib ar hyn o bryd oherwydd diogelwch

Mae'r bwrdd iechyd yn parhau i weithio'n agos gydag eraill gan gynnwys Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i gyd-weithio yn yr amseroedd heriol hyn.

Os ydych chi neu rywun annwyl i chi yn sâl, cofiwch:

  • Mae cefnogaeth ar gael i chi ofalu amdanoch chi'ch hun pan fo hynny'n briodol, er enghraifft yn (agor mewn dolen newydd) a thrwy’r gwiriwr symptomau ar-lein.
  • Gall ein fferyllfeydd cymunedol ddarparu rhywfaint o ofal galw-heibio, a rhai triniaethau ar gyfer anhwylderau cyffredin, dewch o hyd i’ch gwasanaeth agosaf yma (agor mewn dolen newydd); yn ogystal â’n hunedau mân anafiadau (agor mewn dolen newydd) 
  • Os oes gennych argyfwng difrifol sy'n peryglu bywyd, parhewch i ffonio 999.  Os yw'n fater brys (ond nid yn argyfwng), trowch at wiriwr symptomau GIG 111 Cymru, deialwch 111, neu ceisiwch ofal brys trwy eich meddyg teulu.
  • Os oes gennych berthynas neu rywun annwyl yn yr ysbyty sy'n ffit yn feddygol ond sy'n aros i gael ei ryddhau, efallai y gallwch ein helpu trwy ddarparu gofal tymor byr neu ystyried lleoliadau dros dro mewn cartref gofal.