Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd a phartneriaid yn apelio am gefnogaeth y cyhoedd i helpu i gadw ein cymunedau yn ddiogel

23 Awst 2022

Ar hyn o bryd mae galw digynsail ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, sy’n arwain at oedi sylweddol yn ddarpariaeth gofal. Mae’r anhawster i ryddhau cleifion sy’n ddigon iach yn feddygol o’r ysbyty – y mae gan lawer ohonynt amgylchiadau ac anghenion personol cymhleth – yn arwain at brinder sylweddol o welyau, ac o ganlyniad, ambiwlansys yn aros am amser hir wrth ‘drws ffrynt’ adrannau damweiniau ac achosion brys, sy’n golygu ni all parafeddygon ymateb i alwadau 999 eraill yn y gymuned. 

Mae timau gofal cymdeithasol ac iechyd yn gwneud popeth posibl i gefnogi pobl sy'n ddigon gwell i adael yr ysbyty ond sydd angen gofal parhaus. Rhoddir blaenoriaeth i'r rhai mwyaf agored i niwed, ac mae pecynnau iechyd a gofal amgen yn cael eu cynnig fel mesur tymor byr. Mae mwy o ofalwyr a staff iechyd hefyd yn cael eu recriwtio i gefnogi pobl mewn angen.

Os oes gennych berthynas neu rywun sy’n annwyl i chi yn yr ysbyty sy’n ddigon iach i fynd adref, ond sy’n aros i gael eu rhyddhau â gofal cartref a chymorth iechyd cymunedol, efallai y gallwch eu helpu i gyrraedd adref yn gyflymach os ydych chi a’ch teulu mewn sefyllfa i gefnogi nhw gartref. Os yw’ch perthynas yn aros am becyn gofal ffurfiol, efallai y gallwch gynnig cefnogaeth a gofal ar drefniant tymor byr, dros dro neu efallai yr hoffech ystyried a ellid cefnogi’ch anwylyn mewn lleoliad gofal preswyl neu nyrsio dros dro. Os ydych chi’n teimlo bod hwn yn opsiwn y gallech chi ei ystyried, siaradwch â rheolwr y ward neu’ch gweithiwr cymdeithasol i archwilio ymhellach.

Mae treulio cyn lleied o amser yn yr ysbyty yn well i gleifion ac mae’n golygu y gellir rhyddhau gwelyau’r GIG i eraill ag anghenion gofal brys. Mae cefnogi cleifion hŷn i gyrraedd adref o’r ysbyty yn effeithlon yn rhan bwysig o’u hadferiad ac mae hefyd yn eu hamddiffyn rhag canlyniadau negyddol derbyn i'r ysbyty, fel haint a gafwyd yn yr ysbyty, cwympiadau a cholli annibyniaeth. Gallwch ddarganfod mwy am y broses rhyddhau o’r ysbyty ac arweiniad yma: Gwybodaeth i gleifion mewnol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)

Er mwyn helpu i liniaru’r pwysau ar safleoedd ein hysbytai, rydym wedi agor nifer o unedau Gofal Brys yr Un Diwrnod (SDEC), y gallech gael eich atgyfeirio iddynt os oes gennych gyflwr y gellir ei weld a’i drin yn gyflym, heb fod angen derbyniad i’r ysbyty o reidrwydd.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn delio â chyfuniad o niferoedd uchel o bresenoldebau, yn enwedig yn ein Hadrannau Achosion Brys, a heriau o ran staffio gweithwyr iechyd proffesiynol.

“Mae ein practisau meddygon teulu a’n hysbytai yn brysur ac er bod llawer o’r rheoliadau COVID-19 wedi’u dileu, mae angen i ni ddilyn gofynion penodol o hyd ar gyfer trin y cleifion hynny â COVID-19 a’r rhai heb COVID-19 yn ddiogel.

 

“Rydym yn gweithio gyda’n hawdurdodau lleol gan fod anawsterau rhyddhau rhai cleifion oherwydd heriau staffio tebyg y mae’r sector gofal cymdeithasol yn eu hwynebu. Mae hyn yn golygu bod gennym nifer cyfyngedig iawn o welyau ar gael i ddarparu ar gyfer cleifion sydd angen eu derbyn. 

Mae ein timau’n helpu cleifion yn nhrefn eu blaenoriaeth glinigol, ond mae hyn yn golygu, mewn rhai achosion, bod amseroedd aros yn ein Hadrannau Achosion Brys yn hir iawn ac yn llawer mwy na’r hyn y byddem yn ymdrechu i’w gyflawni.

“Os oes angen cymorth meddygol arnoch, meddyliwch yn ofalus am y gwasanaethau a ddewiswch.” 

Os ydych chi'n sâl ac yn ansicr beth i'w wneud, gallwch ymweld â'r gwiriwr symptomau ar-lein i groeswirio'ch symptomau yn erbyn nifer o anhwylderau cyffredin ac, os cewch gyfarwyddyd, ffoniwch GIG 111.

Mynychwch Adran Achosion Brys dim ond os oes gennych salwch sy’n peryglu bywyd neu anaf difrifol, megis: 

  • Anawsterau anadlu difrifol 
  • Poen difrifol neu waedu 
  • Poen yn y frest neu amheuaeth o strôc 
  • Anafiadau trawma difrifol (ee o ddamwain car) 

Os oes gennych anaf llai difrifol, ewch i un o'n Hunedau Mân Anafiadau. Gallant drin oedolion a phlant dros 12 mis oed, gydag anafiadau fel: 

  • Mân glwyfau 
  • Mân losgiadau neu sgaldiadau 
  • Brathiadau pryfed 
  • Mân anafiadau i'r goes, y pen neu'r wyneb  
  • Corffyn estron yn y trwyn neu'r glust 

Mae gennym ni fân anafiadau neu wasanaethau cerdded i mewn yng Nhanolfan Gofal Integredig Aberteifi, ac Ysbyty Dinbych-y-pysgod, yn ogystal ag yn ein prif ysbytai acíwt. Am oriau agor, edrychwch ar ein gwefan.

Gall llawer o fferyllfeydd cymunedol hefyd ddarparu gwasanaethau cerdded i mewn, anhwylderau cyffredin neu frysbennu a thrin heb apwyntiad. Gallwch ddarganfod mwy yma: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/ 

Helpwch ni i wneud ein gwasanaeth yn fwy diogel trwy rannu'r wybodaeth hon gyda ffrindiau a theulu, diolch. 

Mae eich cefnogaeth nid yn unig yn helpu’ch anwylyd, ond mae’n gefnogaeth enfawr i'r GIG a’r gwasanaethau gofal cymdeithasol hefyd. 

Helpwch ni i wneud ein gwasanaeth yn fwy diogel trwy rannu'r wybodaeth hon gyda ffrindiau a theulu. 

Diolch.