Neidio i'r prif gynnwy

Busnesau bach yn chwarae rhan fawr ym Margen Ddinesig Bae Abertawe

Gyda bron pob un o raglenni a phrosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe (agor mewn dolen newydd) bellach wedi'u cymeradwyo ac yn cael eu cyflawni, bydd cyfraniad busnesau bach at lwyddiant y fargen yn sylweddol. Mae dydd Sadwrn 4 Rhagfyr yn cael ei gydnabod fel Dydd Sadwrn y Busnesau Bach; diwrnod i ddathlu llwyddiant busnesau bach, annog pobl i siopa'n lleol a chydnabod eu cefnogaeth mewn cymunedau lleol ledled y wlad.

Yr Egin (agor mewn dolen newydd) yw un o brosiectau cyntaf y Fargen Ddinesig i gael ei gymeradwyo a'i gwblhau – sef canolfan ddigidol a chreadigol o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (agor mewn dolen newydd) yng Nghaerfyrddin. Wedi'i angori gan bencadlys S4C, mae'r Egin hefyd yn gartref i tua 12 busnes bach sydd wedi ffynnu ers cydleoli yn y ganolfan - gan ddefnyddio'r swyddfeydd, rhwydweithio yn y gweithfannau cyfleus (hot desking) yn ogystal â'r manteision o fod yn rhan o effaith halo'r Brifysgol 

Mae Welsh Otter (agor mewn dolen newydd) a Stiwdiobox (agor mewn dolen newydd) yn ddau gwmni sydd wedi tyfu ers symud i'r Egin ac maent yn elwa ar y swyddfeydd sydd ar gael. Mae Welsh Otter yn fusnes teuluol sy'n ceisio codi proffil dylunwyr sy'n gweithio yng Nghymru drwy arddangos y gorau o nwyddau cartref, tecstilau ac anrhegion Cymreig sy'n defnyddio dyluniadau traddodiadol a threftadaeth wedi'u gwneud â llaw. Mae Stiwdiobox yn cynnig gwasanaethau technoleg cyfryngau cyfoes i ymgysylltu â phobl, gan gynnwys gweithdai radio, trosleisio a phodlediadau. Mae gan y ddau fusnes bach nodau sy'n adlewyrchu'r Egin, a Bargen Ddinesig Bae Abertawe - i ysbrydoli creadigrwydd ac arloesedd, a meithrin gweithlu talentog lleol ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Kim Otterburn, Sylfaenydd a Phennaeth Otter Wales, "Mae'r Egin wedi bod o fudd mawr i'm busnes newydd ac wedi ein helpu i rwydweithio a thyfu. Rwyf wedi gallu defnyddio'r cyfleusterau gwych, hyblyg fel gweithfannau cyfleus a'u defnyddio ar gyfer cyfarfodydd busnes.  Mae'n darparu amgylchedd proffesiynol, colegaidd sydd wedi'i leoli'n ddelfrydol yng Nghaerfyrddin, ac mae'r staff wedi bod yn hynod groesawgar a chefnogol.”

Ychwanegodd Marc Griffiths, darlledwr profiadol, a sylfaenydd Stiwdiobox "Mae lleoli fy musnes yn Yr Egin wedi bod yn benderfyniad gwych ac mae fy nghyfleusterau yn cynnwys bwth trosleisio, stiwdio radio a man YouTube - sydd i gyd yn hanfodol i lwyddiant Stiwdiobox. Mae bod yn rhan o gymuned ryngweithiol, ddigidol wedi bod yn wych ar gyfer rhwydweithio ag eraill. Mae Stiwdiobox yn parhau i dyfu ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu disgyblion lleol, myfyrwyr ac ymarferwyr addysg yn ôl a all elwa o'r gweithgareddau dwyieithog, digidol sydd gan Stiwdiobox i'w cynnig.”

Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Profost Campws Caerfyrddin ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant "Y weledigaeth ar gyfer Yr Egin o'r cychwyn oedd datblygu canolfan greadigol a diwylliannol yng Nghaerfyrddin a fyddai'n adlewyrchu arfer gorau masnachol o fewn y sector creadigol sy'n gysylltiedig â darpariaeth ddwyieithog y Drindod Dewi Sant.  Y nod oedd creu cyflymydd i ymgorffori elfennau allweddol canolfan gynaliadwy, hynod gynhyrchiol a chystadleuol a fyddai'n cyfrannu at economïau creadigol a digidol Cymru a'r DU. Mae'r Egin wedi cyflawni'r weledigaeth honno yn y tair blynedd fer ers iddi agor ei drysau i S4C a thenantiaid eraill am y tro cyntaf.  Mae wedi dod yn ganolfan sy'n enwog am y cyfleusterau rhagorol y mae'n eu cynnig, yn ogystal â'r gymuned ddwyieithog greadigol sydd wedi'i sefydlu.  Rwy'n falch iawn bod cwmnïau fel Stiwdiobox a Welsh Otter yn ffynnu yn y ganolfan.”

Ychwanegodd Carys Ifan, Rheolwr Yr Egin: “Mae'r Ganolfan bob amser yn chwilio am gyfleoedd i gefnogi busnesau ac mae ganddi lawer i'w gynnig gyda'n cymuned ffyniannus o ymarferwyr creadigol a busnesau bach sy'n elwa o ymgysylltu â'i gilydd o dan yr un to.   Mae cyfleusterau'r Egin, sy'n cynnwys cysylltedd digidol rhagorol, cefnogi cyfarfodydd ar-lein ac wyneb yn wyneb yn ogystal â chyfleusterau gweithfannau cyfleus, yn darparu amgylchedd proffesiynol ar gyfer anghenion busnes ein cleientiaid. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth i helpu busnesau i dyfu neu gymryd y cam nesaf drwy ein partneriaeth â Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin.  Mae'r Egin yn lle gwych i wneud busnes!”

Mae cefnogi twf busnesau bach a chwmnïau newydd yn chwarae rhan bwysig iawn yn y gwaith o ddatblygu economi Cymru, ac mae sawl rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe yn canolbwyntio ar greu cyfleoedd lle gall busnesau bach a mawr, ynghyd â'r byd academaidd, gydweithio i ffynnu.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe "Hoffwn ddathlu llwyddiant y busnesau bach sydd eisoes yn rhan o fuddsoddiad y Fargen Ddinesig ac sy'n gweithio gyda ni i sefydlu De-orllewin Cymru fel lle perffaith i lwyddo a thyfu'n llwyddiannus. Mae sawl rhan o'r Fargen Ddinesig yn cynnig cyfleoedd i gwmnïau bach weithio ochr yn ochr â busnesau mawr, prifysgolion a gofal iechyd, ac mae gan bob un o'r rhain ran bwysig i'w chwarae yn llwyddiant y fargen. Gan fod 8 allan o 9 prosiect o'n portffolio buddsoddi o hyd at £1.3 biliwn bellach yn cael eu cyflawni, ein nod yw creu amgylcheddau gwaith a fydd o fudd i fusnesau o bob maint ar draws y rhanbarth. Bydd hyn yn sbarduno twf economaidd ac yn helpu ein hadferiad yn sgil Covid.”

Nodiadau i Olygyddion:

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn mewn portffolio o naw o raglenni a phrosiectau ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe; gyda’i gilydd mae’r rhain yn werth dros £1.8 biliwn a 9,000 o swyddi i economi’r rhanbarth dros y blynyddoedd nesaf.

Ariennir y Fargen Ddinesig gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a’r sector preifat, ac fe’i harweinir gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Benfro a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.