Neidio i'r prif gynnwy

Beti George yn lansio cam darganfod iaith a diwylliant Hywel Dda yn yr Eisteddfod Genedlaethol

1 Awst 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn awyddus i glywed barn ei ddefnyddwyr gwasanaeth, staff, partneriaid, a sefydliadau enghreifftiol, ar sut y gall wella profiad unigolion o’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn y bwrdd iechyd.

 

Lansiodd Beti George, darlledwr a newyddiadurwr, a gynrychiolydd llais y claf ar Fwrdd Partneriaeth Llywodraeth Cymru, y cam darganfod ar stondin y bwrdd iechyd yn yr Eisteddfod heddiw. Wrth wneud hynny, gwahoddodd ymwelwyr i’r Eisteddfod i rannu’r hyn maen nhw’n ei gredu sy’n bwysig o ran y Gymraeg a diwylliant Cymru.

 

Eglura Beti: “Mae galluogi cleifion i gael mynediad i wasanaethau yn y Gymraeg yn hollbwysig – mae gallu cyfathrebu’n effeithiol yn eich iaith gyntaf – yn enwedig pan mewn poen neu drallod, yn hanfodol i brofiad cleifion.

 

“Bu fy mhartner yn byw gydag Alzheimer’s am flynyddoedd lawer ac roedd cyfathrebu yn aml yn anodd. Dangosodd ein profiad yn glir sut mae angen i wasanaethau iechyd allu cysylltu â chleifion ac unigolion agored i niwed mewn ffordd y maent yn ei deall, ac yng Nghymru, mae hyn yn aml drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

“Rwy’n falch bod Hywel Dda yn cymryd y cam hwn i ddeall anghenion defnyddwyr gwasanaethau – y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol – ac edrychaf ymlaen at ddysgu sut y bydd yn llywio eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”

 

Eglurodd Huw Thomas, Cyfarwyddwr Cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Hyrwyddwr Gweithredol dros y Gymraeg: “Fel bwrdd iechyd mae gennym uchelgais nid yn unig i fodloni gofynion statudol Safonau’r Gymraeg, ond i fynd y tu hwnt iddynt a dathlu ein hiaith a’n diwylliant ym mhob agwedd o’n gwaith.

 

“Rydym am gael dealltwriaeth ddyfnach o anghenion penodol ein cymunedau yma yng ngorllewin Cymru ac i fod yn ymatebol iddynt. Rydym yn agored i syniadau arloesol ac eisiau clywed profiadau unigolion. Edrychwn ymlaen at ddatblygu ein cynllun iaith a diwylliant, a’i roi ar waith, dros y misoedd nesaf – gan sicrhau bod Hywel Dda yn parhau i dyfu ac arwain yn y maes hwn.”

 

Mae Cam Darganfod y Gymraeg a Diwylliant Cymru y Bwrdd Iechyd, a lansiwyd yn yr Eisteddfod, yn ceisio barn staff, cleifion, partneriaid, sefydliadau enghreifftiol a’r boblogaeth leol ar ffyrdd o wneud Hywel Dda yn sefydliad sector cyhoeddus enghreifftiol ar gyfer cofleidio a dathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru - yn y ffordd rydym yn cyfathrebu, yn cynnig ein gwasanaethau ac yn dylunio ein hystâd a'n cyfleusterau er enghraifft. Gwahoddir unigolion i rannu eu barn ar y Maes, ac yn ogystal â siarad ag aelodau o staff ar y stondin, gallant ysgrifennu eu barn ar y bwrdd gwyn graffiti, neu lenwi arolwg byr.

 

Bydd y cam darganfod yn rhedeg tan ddiwedd mis Hydref a bydd yn cynnwys y bwrdd iechyd yn ymgysylltu â sefydliadau partner a chynrychiolwyr cymunedol, yn ogystal â gwahodd unigolion i rannu eu barn. Bydd canfyddiadau canlyniadol y cam hwn yn cael eu cyflwyno mewn Adroddiad Darganfod a fydd yn sail i Gynllun Iaith a Diwylliant Cymru newydd y bwrdd iechyd.

 

I gael y newyddion diweddaraf o stondin y bwrdd iechyd a Maes yr Eisteddfod, gallwch ddilyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar Twitter @BIHywelDda, Facebook – Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac Instagram @bihywelddahb neu ddilyn y sgwrs yn #HywelArYMaes a #IechydDaHywelDda.