Neidio i'r prif gynnwy

Anrhydeddau Blwyddyn Newydd i weithwyr Hywel Dda

Mae dau o weithwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi derbyn Anrhydedd Blwyddyn Newydd y Brenin.

Mae Gina Beard, Prif Nyrs Canser, yn derbyn yr anrhydedd o Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) i gydnabod ei gwasanaethau i Nyrsio Canser. Mae Dr Mike Bartlett, Arbenigwr Cyswllt Haematoleg, yn derbyn Medal Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) i gydnabod ei wasanaethau i Addysg Feddygol.

Gina Beard

Dywedodd Gina Beard: "Rwy'n teimlo'n freintiedig ac mae’n anrhydedd cael fy enwebu ar gyfer yr anrhydedd hon a'i derbyn ar ran yr holl dimau canser yn Hywel Dda, sy'n gweithio'n ddiflino i gefnogi'r rhai sy'n wynebu heriau diagnosis canser."   

"Mae cael diagnosis canser yn ddigwyddiad mawr mewn bywyd. Mae'n fraint gallu arwain gwasanaethau sy'n rhoi'r cymorth a'r gofal sydd eu hangen ar gleifion, a gweithio ochr yn ochr â thîm ymroddedig a charedig o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol.  

"Hoffwn ddiolch hefyd i'm teulu anhygoel am gredu ynof a chefnogi fy uchelgeisiau fel nyrs."   

Mae Gina, sy'n byw yn Sir Benfro, wedi gweithio fel nyrs ers dros 30 mlynedd ac wedi dewis datblygu ei harbenigedd mewn nyrsio canser.   

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: "Mae Gina wedi darparu gwasanaeth rhagorol yn gyson i gleifion ac wedi chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad gwasanaethau canser ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

"Rwyf wrth fy modd ei bod wedi cael ei chydnabod am fynd yr ail filltir i flaenoriaethu diogelwch a lles cleifion a staff. Rwy'n ddiolchgar iawn iddi am ei harweinyddiaeth barhaus o'r gwasanaeth, mae hi'n esiampl i ni i gyd ac yn dod â'n gwerthoedd yn fyw bob dydd trwy ei gwaith." 

Mae Gina wedi chwarae rhan mewn nifer o brosiectau llwyddiannus a datblygiadau gwasanaeth. Ymhlith ei llwyddiannau niferus mae adnewyddu Uned Haematoleg ac Oncoleg Dydd Sir Benfro (PHODU) a gydnabuwyd gan Macmillan fel Amgylchedd Gofal Canser Ansawdd cymeradwy.  

Gyda ffurfio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn 2009 sefydlwyd pedair uned ddydd cemotherapi ar wahân sy'n cwmpasu tair sir y mae Gina wedi gweithio'n ddiflino ar eu traws i gryfhau'r agenda nyrsio, creu cysondeb mewn athroniaeth a darparu gofal. Mae hi wedi mynd y tu hwnt i hynny nid yn unig o ran cynnal gwasanaethau ond wrth arwain dylunio a datblygu gwasanaethau.   

Roedd Gina yn allweddol i sefydlu CaPS, y Gwasanaeth Cymorth Seicolegol Canser - gan ddarparu cefnogaeth emosiynol i gleifion a gofalwyr drwy gydol eu taith canser a grymuso'r gweithlu canser gyda sgiliau seicolegol yn eu rolau bob dydd.  

Yn gysylltiedig â'r angen am gysondeb yn y dull o ymdrin â gofal, arweiniodd Gina ailgynllunio'r gwasanaeth brysbennu a chyngor dros y ffôn ar gyfer cleifion sy'n cael triniaeth canser nad yw'n llawfeddygol.  Diolch i'r gwaith hwn, gall y Bwrdd Iechyd ddarparu llinell frysbennu a chymorth 24 awr bwrpasol sydd hefyd yn sicrhau cysondeb o ran darparu gwasanaethau ar draws y pedwar ysbyty.   

Mae hi wedi bod yn sbardun wrth ddylunio a gweithredu'r clinig Diagnosis Cyflym newydd a'r gwasanaeth Malaenedd Anhysbys, sy'n helpu i ddiwallu anghenion brys cleifion ac yn trawsnewid profiad y claf a'r llwybr gofal. Cyflawnwyd newid gwasanaeth o'r fath trwy ymrwymiad Gina i gydweithio ag uwch glinigwyr, gweinyddwyr a gwrando ar anghenion cleifion a'u teuluoedd.    

Fel Uwch Ymarferydd ac er gwaethaf ei chyfrifoldebau rheoli ac arwain sylweddol, mae cyswllt cleifion wedi parhau i fod yn greiddiol i'w hymarfer. Mae Gina wedi arwain datblygiad practisau dan arweiniad nyrsys a fferyllydd yn y pedwar ysbyty. 

Yn ogystal â darparu gwasanaethau newydd ac ychwanegol, mae Gina yn eiriolwr pwerus ac yn hyrwyddo'r agenda nyrsio. Bu'n hyrwyddo ac yn herio'r timau y mae'n eu harwain i ddatblygu eu hunain ac i wella profiad y claf, gan gadw'r claf yn gadarn wrth wraidd gwaith y bwrdd iechyd. Roedd hyn yn arbennig o amlwg yn ystod y pandemig pan oedd hi'n cyfathrebu'n glir ac yn dosturiol ac yn rhoi sicrwydd a hyder i staff a chleifion.   

Dywedodd Judith Hardisty, Cadeirydd Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rwyf wrth fy modd bod Gina wedi cael ei chydnabod gydag MBE am ei gwasanaeth i nyrsio canser.   

"Mae Gina wedi neilltuo dros 30 mlynedd i nyrsio canser, gan wasanaethu ei chymuned gyda gofal, tosturi a phenderfyniad i sicrhau tegwch gofal i bawb, gan dorri trwy rwystrau gwledig.   

"Mae Gina yn arweinydd a nyrs wych, bob amser yn ceisio gwella'r gwasanaethau i'n cleifion a'i chydweithwyr ac yn gofyn yn aml 'sut allwn ni wneud pethau'n well?' Mae ganddi ymdeimlad dwfn o ddyletswydd, ymrwymiad, a gwasanaeth i aelodau cymuned Hywel Dda – ein staff a'n cleifion. Diolch, Gina, am eich gwasanaeth diflino a'ch ymrwymiad parhaus i iechyd a gofal yng ngorllewin Cymru."  

Dr Mike Bartlett

Wrth ymateb i’r newyddion am ei enwebiad, dywedodd Dr Bartlett: “Mae’n fraint i mi dderbyn yr anrhydedd, a’i derbyn ar ran fy nghydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yr wyf yn cael y pleser o weithio gyda nhw, a’r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) nad yw eu dewrder yn gwybod unrhyw derfynau.

“Rwy’n cael llawer iawn o lawenydd personol o rannu fy ngwybodaeth ag eraill, o fewn y GIG ac yng nghymuned ehangach gorllewin Cymru. Mae wedi bod yn anrhydedd mawr i ddatblygu’r Rhaglen Feddygol Arfordirol a gweithio ochr yn ochr ag aelodau’r RNLI i’w cefnogi i ddatblygu sgiliau a all helpu i achub bywydau.

“Yn ystod misoedd y gaeaf rydym yn cynnal cyrsiau hyfforddi yn yr ystafell ddosbarth ac yn ymarfer gofal damweiniau a all gynnwys perfformio CPR neu senarios trawma. O fis Ebrill ymlaen, rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd ar draethau Ceredigion a Sir Benfro ac yn cymryd rhan mewn senarios byw – gan brofi sgiliau criw’r bad achub mewn sefyllfaoedd sydd bron yn real.”

Mae Mike wedi cyfrannu sawl blwyddyn o wasanaeth i drefnu a chyfarwyddo Cyrsiau Cynnal Bywyd Uwch a Chyrsiau Trawma Uwch, gan sicrhau bod carfan ar ôl carfan o feddygon yn gallu darparu gofal i gleifion difrifol gwael. Ymgymerir â'r rôl hon yn ei amser ei hun yn ogystal â'i swydd fel uwch feddyg mewn Haematoleg a gofal canser.

Heb ei aflonyddu gan yr heriau a gyflwynir gan y pandemig, daeth Mike o hyd i ffyrdd newydd o addysgu a gweithiodd yn gydwybodol y tu ôl i'r llenni i gadw'r seilwaith hyfforddi yn ei le. Tra bod ei arweinyddiaeth a’i gyfraniad yn cael eu cydnabod ar sail ranbarthol, mae hefyd yn hyfforddwr ar gyfer cyrsiau ar draws y DU gan gynnwys yng Ngholeg Brenhinol y Llawfeddygon, ac mae’n Ddarlithydd Anrhydeddus yn Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd.

Dywedodd yr Athro Phil Kloer, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae Mike yn addysgwr meddygol rhagorol ac ysbrydoledig gyda dros bum mlynedd ar hugain o wasanaeth i’r GIG.

“Mae Mike yn cael ei gydnabod gan ei gyfoedion fel esiampl o addysgu a hyfforddi. Mae ei egni a’i weledigaeth wedi bod yn hynod fuddiol i ddarpariaeth addysg feddygol o fewn ystod eang o ganolbarth a gorllewin Cymru.”

Yn ogystal â’i ymrwymiad i staff a chleifion Hywel Dda, arweiniodd Mike y gwaith o ddatblygu partneriaeth addysgol unigryw yn cynnwys staff meddygol, yr RNLI a Gwylwyr y Glannau Ei Fawrhydi yn Sir Benfro a Cheredigion – Meddygaeth Arfordirol. Mae'r fenter achub bywyd arloesol hon sy'n cael ei gyrru gan y gymuned, sydd bellach yn ei chweched flwyddyn, wedi cael effaith wirioneddol a dilys ar berfformiad timau'r RNLI mewn gofal damweiniau. Mae Cymrawd Clinigol a meddygon lefel Sylfaen wedi hyfforddi ochr yn ochr â'r RNLI a Gwylwyr y Glannau mewn gweithgareddau ystafell ddosbarth, ac efelychiadau byw realistig ar y moroedd a'r traethau.

Wrth longyfarch Mike, dywedodd Judith Hardisty: “Rwy’n falch iawn bod Mike wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniadau i Hywel Dda a’n cymuned leol yng ngorllewin Cymru.

“Diolch i’w ymroddiad i’w broffesiwn, mae myfyrwyr meddygol di-ri, meddygon o bob gradd, ac yn fwyaf diweddar ddwsinau o achubwyr bywyd a chriw cychod sy’n gwasanaethu gyda’r RNLI wedi cael eu hyfforddi i achub bywydau, yn yr ysbyty ac yn y gymuned.

“Rwy’n ymwybodol bod Mike yn credu’n gryf mewn rhoi rhywbeth yn ôl i’w ardal leol ac mae hyn yn amlwg yn y modd y mae wedi mynd ati i ddatblygu’r cwrs Meddygaeth Arfordirol – gan gymryd ei wybodaeth broffesiynol a’i hyfforddiant a’u rhannu â gwirfoddolwyr yn ein cymunedau. Byddwn yn ddiolchgar am byth iddo fod cymaint o staff a gwirfoddolwyr sy’n ymateb gyntaf bellach yn teimlo’n fwy hyderus i achub bywydau mewn perygl o amgylch arfordiroedd Cymru.”

Mae Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2024 yn nodi gwasanaeth cyhoeddus anhygoel unigolion o bob rhan o'r DU.  

Mae derbynwyr Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd wedi cael eu dyfarnu am eu cyfraniadau rhagorol ar draws pob rhan o'r DU am eu gwaith ar feysydd gan gynnwys gwasanaeth cyhoeddus parhaus, ymgysylltu ag ieuenctid a gwaith cymunedol.