Neidio i'r prif gynnwy

Annog y gymuned i ddweud eu dweud ar gynlluniau Meddygfa Tycroes

14 Mehefin 2022

Yn dilyn cais gan Feddygfa Stryd Marged, Rhydaman, i gau eu meddygfa cangen, Tycroes, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn annog pobl i ddweud eu dweud cyn Mehefin 24.

Mae Tycroes wedi bod ar gau ers Chwefror 2020 oherwydd y pandemig COVID-19 ac roedd yr adeilad yn gwasanaethu fel ‘safle coch’ ar gyfer clwstwr Meddygon Teulu Aman Gwendraeth. Cyn y pandemig, defnyddiwyd y Gangen ar gyfer ystod o wasanaethau meddygol cyffredinol.

Ers ei gau dros dro, mae cleifion Tycroes wedi defnyddio Practis Stryd Marged, sydd tua dwy filltir i ffwrdd. Mae llwybr bws rheolaidd rhwng y ddwy Feddygfa.

Mae Practis Stryd Marged, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’r Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) yn gweithio gyda’i gilydd i ymgysylltu â chleifion y ddwy feddygfa i gael dealltwriaeth o sut y byddai cau arfaethedig yn effeithio ar gleifion. Mae'r cyfnod ymgysylltu, a ddechreuodd ar 9 Mai, yn para tan ddydd Gwener 24 Mehefin. Gall cleifion roi adborth yn y ffyrdd canlynol:


Dyma rai cwestiynau cyffredin yn seiliedig ar adborth sydd wedi dod i law hyd yn hyn:

  • Sut mae cael un safle yn unig yn golygu mwy o apwyntiadau meddyg?

Pe bai Tycroes yn cau, mae’r manteision posibl i gleifion yn cynnwys mwy o apwyntiadau sydd ar gael i bob claf ym Mhractis Stryd Marged, gan na fyddai staff yn gweithio ar ddau safle, ac y gellid cynnig apwyntiadau cynharach a hwyrach o Stryd Marged.

Bydd llai o amser teithio i staff clinigol yn creu capasiti ar gyfer wyth apwyntiad ychwanegol y dydd, wyneb yn wyneb a rhithwir. Mae'r Practis hefyd wedi recriwtio dwy nyrs ychwanegol felly nawr yn gallu cynnig mwy o apwyntiadau na dwy flynedd yn ôl.

 

  • Sut bydd parcio yn Stryd Marged yn cael ei reoli?

Mae'r Practis yn sylweddoli mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd yn union y tu allan i Feddygfa Stryd Marged, fodd bynnag mae yna fan talu ac arddangos mawr iawn gyferbyn.

  • Bydd teithio i'r brif feddygfa yn anodd

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, nid yw’r Practis wedi derbyn unrhyw gwynion yn ymwneud â pharcio na chludiant ond rydym yn annog cleifion i wneud sylwadau ar hyn yn ystod y broses ymgysylltu hon.

Mae llwybr bws rheolaidd rhwng Meddygfa Tycroes a Meddygfa Stryd Marged ac i’r rhan fwyaf o gleifion, mae’n daith fer yn y car (pum munud ar gyfartaledd).

  • A fydd apwyntiadau rhithwir yn cael eu defnyddio?

Bydd Practis Stryd Marged yn parhau i weithredu model aml-hygyrch gan gynnwys apwyntiadau rhithwir ac wyneb yn wyneb fel y bo'n glinigol briodol.

  • Beth am brofion gwaed?

Stopiodd Practis Stryd Marged eu clinigau fflebotomi gofal eilaidd ar 11 Ebrill ar ôl i’w Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd gyflwyno ei rhybudd ymadael.

 

Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o gleifion yn Sir Gaerfyrddin drefnu apwyntiad ar-lein er mwyn sicrhau bod eu profion gwaed gofal eilaidd yn cael ei wneud oddi ar y safle o'u practis; ar gyfer cleifion Aman Gwendraeth, byddai hyn naill ai yn Ysbyty Dyffryn Aman neu yng Nghanolfan Antioch yn Llanelli.

 

Bydd Meddygfa Stryd Marged yn parhau i ddarparu profion gwaed gofal sylfaenol fel diabetes ac INR (sy'n mesur yr amser i'ch gwaed geulo). Mae cleifion wedi cael gwybod am y newid hwn yn y weithdrefn.

 

  • A all cleifion ddefnyddio Fferyllfa Tycroes o hyd?

Byddai cleifion yn dal i allu defnyddio Fferyllfa Tycroes a byddai'r Practis yn parhau i anfon yr holl bresgripsiynau y gofynnwyd amdanynt i'r fferyllfa.

***


Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wedi ymrwymo i wrando ar ac ymgysylltu â phoblogaethau lleol ynghylch y cynnig i adleoli gwasanaethau Gofal Sylfaenol o Feddygfa Tycroes i Stryd Marged a hoffem wahodd cleifion i gymryd rhan yn y broses ymgysylltu.

“Rydym wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’r Practis a’r Cyngor Iechyd Cymuned drwy gydol y broses hon a byddwn yn hysbysu cleifion am ganlyniadau’r ymarfer ymgysylltu hwn.”

Dywedodd Is-Gadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda, Dr Barbara Wilson: “Mae gwasanaethau meddygon teulu mor bwysig i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Pan ddaw’r bwrdd iechyd i wneud ei benderfyniad am ddyfodol meddygfa cangen Tycroes, mae’n hollbwysig bod y cyhoedd yn cael dweud eu dweud.

“P’un a yw pobl yn cefnogi’r cynnig hwn neu’n ei wrthwynebu, bydd y CIC yn sicrhau bod y safbwyntiau hynny’n cael eu clywed a’u deall gan y bwrdd iechyd.”
Atgoffir cleifion bod gwasanaethau hefyd ar gael trwy fferyllfeydd cymunedol lleol sy'n cynnig ystod o wasanaethau arbenigol. Darganfyddwch fwy yma:  
https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/ (agor mewn tab newydd)