Mae staff clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn annog pobl gymwys i gael eu brechiadau ffliw a COVID gan fod effaith firws anadlol gaeafol yn cael ei deimlo mewn un ysbyty lleol a gallai effeithio mwy y gaeaf hwn.
Mae hyn yn adleisio’r datganiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru (agor mewn dolen newydd) heddiw nad yw llawer o bobl â chyflyrau iechyd sy’n eu rhoi mewn mwy o berygl eto wedi manteisio ar eu cynnig o frechu eleni.
Mae cau wardiau lluosog yn ddiweddar yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, oherwydd achosion o’r ffliw a COVID-19, yn arwyddion pryderus o’r hyn a all ddigwydd pan fydd achosion yn digwydd mewn lleoliadau gofal iechyd.
Bob blwyddyn mae firysau anadlol fel y ffliw yn lledaenu ac yn achosi salwch. Maent yn arbennig o beryglus i bobl sy'n agored i haint, megis pobl ifanc iawn, menywod beichiog, oedolion hŷn, a'r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor.
Dywedodd Dr Robin Ghosal, Ymgynghorydd Anadlol a Chyfarwyddwr Ysbyty yn Ysbyty Tywysog Philip, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
“Mae wedi bod yn wythnos anodd gyda nifer o wardiau ar gau yn Ysbyty Glangwili. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r holl staff a gymerodd ran am eu gwaith caled a'u hymroddiad i sicrhau bod cleifion yn parhau i gael y gofal sydd ei angen arnynt yn ystod yr achosion hyn.
“O fewn wardiau yr effeithiwyd arnynt mae pob aelod o staff yn gwisgo masgiau ac mae ymweld yn gyfyngedig i helpu i atal y lledaeniad.
“Gall ein cymuned leol ein helpu i osgoi achosion drwy beidio ag ymweld â theulu a ffrindiau yn yr ysbyty os ydych chi’n teimlo’n sâl.
“Hefyd, yn ddiamau, brechiad ffliw blynyddol yw’r ffordd orau o amddiffyn rhag dal neu ledaenu’r ffliw. Nid yn unig y gall eich atal rhag mynd yn sâl iawn, gall hefyd helpu i leihau eich risg o heintiau eilaidd fel niwmonia a all fod yn beryglus iawn os ydych yn glinigol agored i niwed.
“Mae mor bwysig bod pawb sy’n gymwys yn achub ar y cyfle i gael eu hamddiffyn tra gallant, ac yn enwedig yn yr wythnosau cyn cyfnod y Nadolig.”
Mae brechiad y ffliw yn un o'r ffyrdd gorau o amddiffyn rhag dal a lledaenu'r ffliw. Mae firysau ffliw yn newid yn gyson ac felly bob blwyddyn mae’r brechlyn ffliw yn cael ei newid i gyd-fynd â’r firysau ffliw sy’n debygol o fod yn cylchredeg.
Ychwanegodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus BIP Hywel Dda: “Argymhellir bod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol GIG Cymru yn cael brechiad ffliw blynyddol i amddiffyn eu hunain a’r rhai sydd yn eu gofal. Mae hyn hefyd yn helpu i leihau lefel yr absenoldebau salwch ac yn cyfrannu at gadw'r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol i fynd.
“Yma yn Hywel Dda rydym yn gweithio’n galed i frechu ein haelodau bregus o’n cymuned ar draws gorllewin Cymru a’n gweithlu trwy weithio gyda meddygon teulu, fferyllfeydd, ac ysgolion yn ogystal â sefydlu clinigau staff rheolaidd a hyfforddi brechwyr cymheiriaid.
“Mae brechlynnau ffliw yn gyflym, yn ddiogel ac yn effeithiol wrth atal wythnosau o salwch difrifol.”
Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer y brechiadau ffliw a COVID-19 y gaeaf hwn a darganfyddwch fwy yma:
Brechlyn ffliw a phigiad atgyfnerthu'r hydref COVID-19 - Iechyd Cyhoeddus Cymru (agor mewn dolen newydd)