Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Iechyd Cyhoeddus yn amlinellu llwybr i ddyfodol gwledig iach i Ganolbarth a Gorllewin Cymru

Teulu aml-genhedlaeth yn cerdded trwy dwyni tywod ar ddiwrnod heulog yn yr hydref.

28 Medi 2026

Mae angen gweithredu ar y cyd ar draws y GIG, awdurdodau lleol, cymunedau a phartneriaid cenedlaethol i wella iechyd ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn ôl yr adroddiad blynyddol diweddaraf gan Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae'r adroddiad, Adeiladu dyfodol gwledig iach yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, yn nodi'r camau sydd eu hangen gan bartneriaid i leihau anghydraddoldebau iechyd fel y gall pawb fyw'n dda a heneiddio mewn iechyd da.

Mae'r adroddiad yn amlinellu'r heriau a achosir gan boblogaeth sy'n heneiddio a nifer cynyddol o gyflyrau hirdymor, yn ogystal â phoblogaeth sydd wedi'i gwasgaru ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro – ardal sy'n cynrychioli chwarter arwynebedd tir Cymru.

Mae hefyd yn adlewyrchu sut mae iechyd a lles yn cael eu llunio i raddau helaeth gan amrywiaeth o ffactorau sydd y tu allan i'r GIG. Mae'r rhain yn cynnwys mynediad at wasanaethau, trafnidiaeth, cysylltedd digidol, tai, cyflogaeth, bwyd, cysylltiadau cymdeithasol a'r amgylchedd naturiol.

Er mai'r Bwrdd Iechyd yw'r prif bartner ar gyfer llawer o'r blaenoriaethau, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod iechyd da yn cael ei greu ymhell y tu hwnt i gwmpas y GIG, ac yn galw am weithredu ar y cyd o'r newydd i gynllunio gwasanaethau o amgylch pobl, cryfhau gwydnwch cymunedol a gwneud atal yn gyfrifoldeb i bawb.

Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Hywel Dda: "Mae'r adroddiad hwn yn dathlu'r manteision niferus o fyw, gweithio a heneiddio yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru – o'n cymunedau, ein diwylliant a'n hiaith Gymraeg i'r ysbryd o wirfoddoli a chymorth sy'n helpu pobl i ffynnu."

"Mae hefyd yn tynnu sylw at rai o'r heriau y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nhw gyda'n gilydd. Mewn ardal wledig, mae mynediad yn bwysig. Gall pellter, trafnidiaeth, cysylltedd digidol ac argaeledd cymorth lleol gael effaith sylweddol ar iechyd a lles pobl."

"Y newyddion calonogol yw bod llawer o'r sylfeini eisoes yn eu lle, gyda gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau yn gweithio gyda'i gilydd. Trwy fentrau fel ein Model Cymdeithasol ar gyfer Iechyd a Lles a'r Model Atal '20pedwar7', rhaid i ni wneud atal yn gyfrifoldeb i bawb a sicrhau bod iechyd yn cael ei ystyried ym mhob penderfyniad a wnawn."

Ewch i'n tudalen i ddarllen Adroddiad Blynyddol Iechyd Cyhoeddus 2026 yn llawn yma (agor mewn tab newydd).