Mae Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus 2024-25, o'r enw Atal afiechyd – pob unigolyn, ym mhob gwasanaeth, bob amser, yn rhybuddio bod yr ymagwedd adweithiol bresennol at ofal iechyd yn anghynaladwy. Mae'n tynnu sylw at fwlch tegwch iechyd amlwg yn y rhanbarth, gyda disgwyliad oes iach yn amrywio cymaint â 12 mlynedd i ddynion a 9 mlynedd i fenywod yn dibynnu ar ble maen nhw'n byw.
Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn, mae'r Bwrdd Iechyd yn mabwysiadu Model Atal 20pedwar7 sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r model hwn yn canolbwyntio ar:
Lawrlwythwch gopi o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus (agor mewn dolen newydd)
Mae’n bleser gennyf eich croesawu i’m hadroddiad blynyddol cyntaf fel Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Yn yr adroddiad hwn, rwy’n canolbwyntio ar iechyd a llesiant plant ac ieuenctid ac yn tynnu sylw at rai o’r materion iechyd hollbwysig yn ein rhanbarth.
Sut brofiad yw tyfu i fyny yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru heddiw? Beth yw’r heriau a’r problemau iechyd y mae ein plant a’n hieuenctid yn eu hwynebu? Pa ffactorau pwysig nawr fydd yn llywio eu hiechyd yn y dyfodol?
Lawrlwythwch gopi o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus (agor mewn dolen newydd)
Bob blwyddyn, gofynnir i Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ysgrifennu Adroddiad Blynyddol. Gall hyn ganolbwyntio ar un maes o iechyd cyhoeddus, neu gymryd golwg ehangach ar iechyd a lles y boblogaeth ar draws ardal y Bwrdd Iechyd. Yn anffodus, bu farw ein Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, Ros Jervis, ddechrau Mehefin 2022 ar ôl brwydr fer gyda chanser. Mae ffocws Adroddiad Blynyddol eleni felly yn deyrnged i'w harweinyddiaeth ac i'r etifeddiaeth wych mae'n ei gadael a fydd yn llywio ein huchelgeisiau i wella iechyd a llesiant y boblogaeth i'r dyfodol.
Adroddiad blynyddol Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus 2018/2019 - Fersiwn rhyngweithiol
Adroddiad blynyddol Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus 2018/2019 - Fersiwn PDF (PDF, 8,925KB)
Mae Cyfarwyddwr Iecyhd Cyhoedd Hywel Dda, Ros Jervis, yn cyflwyno Fframwaith Iechyd a Lles newydd y Bwrdd Iechyd. Mae'n disgrifio ei gweledigaeth ar gyfer Iechyd y Boblogaeth yn Hywel Dda a'r modd y mae'r Fframwaith yn dangos ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i newid cyfeiriad tuag at atal a model iechyd cymdeithasol.