Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn COVID-19: BIP Hywel Dda yn apelio ar rieni a gofalwyr plant 5-11 oed sydd mewn perygl i ddod ymlaen

14 Ionawr 2022

Mae tîm brechu COVID-19 Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn paratoi i wahodd plant 5-11 oed sydd mewn perygl ar gyfer eu brechiad COVID-19 cyntaf ac yn gofyn i bobl sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y rhai sydd newydd gymhwyso i gysylltu â’r bwrdd iechyd er mwyn trefnu apwyntiad.

Ar 22 Rhagfyr 2021, argymhellodd y JCVI (agor mewn dolen newydd) y dylid cynnig dau ddos ​​o’r brechlyn Pfizer-BioNTech i blant rhwng 5 ac 11 oed sydd mewn grŵp “mewn perygl”* neu sy’n dod i gysylltiad rheolaidd â pherthynas agos sy’n imiwnoalaliedig wyth wythnos ar wahân. Dylai’r cyfnod lleiaf rhwng unrhyw ddos ​​o’r brechlyn a haint COVID-19 fod yn bedair wythnos.

Mae rhagor o wybodaeth am ddiffiniad y JCVI o blentyn 5-11 oed sydd mewn perygl ar gael yma ar gael yma (agor mewn dolen newydd).

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Yn dilyn argymhelliad y JCVI ychydig cyn y Nadolig, rydym wedi bod yn gweithio i ganfod plant cymwys sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro trwy gofnodion meddygon teulu.

“Fodd bynnag, rydyn ni’n deall bod llawer o deuluoedd sydd â phlant 5-11 oed sy’n agored i niwed neu sy’n byw gyda rhywun sy’n imiwnoataliedig yn awyddus i’w hamddiffyn rhag y firws cyn gynted â phosibl, felly gall y rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant hefyd gysylltu â ni’n uniongyrchol i ddarparu eu manylion.

“Gallwch wneud hynny trwy lenwi ffurflen ar-lein, sydd ar gael yma https://forms.office.com/r/1KvjmdFu6g (agor mewn dolen newydd), neu ffonio 0300 303 8322. Byddwn yn dechrau gwahodd y grŵp hwn cyn gynted ag y bydd y brechlyn ar gael i ni. Nod ein cynllunio presennol yw dechrau apwyntiadau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 24 Ionawr.

“Ar hyn o bryd, mae’r JCVI o’r farn bod cydbwysedd y buddion a’r niwed posibl o blaid brechu ar gyfer y grŵp hwn. Rwy’n cynghori rhieni a gwarcheidwaid yn gryf i edrych ar ffynonellau dibynadwy a siarad â’u plentyn, os yn bosibl, wrth wneud eu penderfyniad. Mae llawer o wybodaeth ar gael am y brechlyn COVID-19, felly byddwch yn ofalus i ddefnyddio dim ond gwybodaeth gywir y gellir ymddiried ynddi i'ch helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych."

Mae canllaw i blant 5-11 oed sydd mewn mwy o berygl o haint COVID-19 ar gael i'w ddarllen yma (agor mewn dolen newydd). Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan https://llyw.cymru/brechlyn-coronafeirws (agor mewn dolen newydd) a’r Cymdeithas Imiwnoleg Prydain (agor mewn dolen newydd) sydd wedi cynhyrchu canllaw am ddim i’r cyhoedd (agor mewn dolen newydd) am y brechlyn COVID-19.

Ychwanegodd Bethan: “Bydd y grŵp hwn, oherwydd eu hoedran a’u risg glinigol, yn cael eu brechu trwy apwyntiad yn unig ac mae ein timau brechu yn gweithio i sicrhau bod apwyntiadau’n cael eu cynnig mewn amgylchedd diogel sy’n gyfeillgar i blant gan ddefnyddio cymysgedd o’n canolfannau brechu torfol presennol a lleoliadau cymunedol lle mae’n fwy priodol.”

Nid yw’r JCVI wedi cynghori a ddylai plant 5 i 11 oed, nad ydynt mewn categori “mewn perygl” gael eu brechu nes bod mwy o wybodaeth a thystiolaeth ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu COVID-19 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ewch i https://biphdd.gig.cymru/brechlyn-COVID19/ (agor mewn dolen newydd)

Nodiadau i'r golygydd:
*Diffiniad JCVI o blentyn 5-11 oed sydd mewn perygl

Clefyd Anadlol Cronig

Gan gynnwys y rhai ag asthma sydd wedi’i reoli’n wael sy’n gofyn am ddefnyddio steroidau systemig yn barhaus neu dro ar ôl tro neu sydd wedi cael cyfnodau blaenorol sy’n golygu bod angen mynd i’r ysbyty, ffibrosis systig, dyskinesias ciliaraidd a dysplasia bronco-pwlmonaidd
 
Clefydau Cronig y Galon
Clefyd cynhenid a chaffaeledig y galon sy'n arwyddocaol yn haemodynamig, neu glefyd y galon llai difrifol gyda chyd-forbidrwydd arall. Mae hyn yn cynnwys:

  • cleifion fentrigl sengl neu'r rhai sy'n dioddef o gylchrediad Fontan (Total Cavopulmonary Connection)
  • y rhai â syanosis cronig (dirlawnder ocsigen <85% yn barhaus)
  • cleifion â chardiomyopathi y mae angen meddyginiaeth arnynt
  • cleifion â chlefyd cynhenid y galon ar feddyginiaeth i wella gweithrediad y galon
  • cleifion â gorbwysedd ysgyfaint (pwysedd gwaed uchel yn yr ysgyfaint) sydd angen meddyginiaeth

 
Cyflyrau cronig yr arennau, yr afu neu'r system dreulio
Gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â chamffurfiadau cynhenid yr organau, anhwylderau metabolaidd a neoplasmau, a chyflyrau fel adlif gastro oesoffagaidd difrifol a all fod yn dueddol o gael haint anadlol.

 
Clefyd niwrolegol cronig
Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd â

  • niwro-anabledd a/neu glefyd niwrogyhyrol gan gynnwys parlys yr ymennydd, awtistiaeth, epilepsi a nychdod cyhyrol.
  • clefyd etifeddol a dirywiol y system nerfol neu'r cyhyrau, cyflyrau eraill sy'n gysylltiedig â thananadlu
  • anableddau dysgu difrifol neu ddwys a lluosog (PMLD), syndrom Down, y rhai ar y gofrestr anabledd dysgu
  • neoplasm yr ymennydd

 
Anhwylderau endocrin
Gan gynnwys diabetes mellitus, syndrom Addison a hypopituitary
 
Imiwnoataliedig
Imiwnoataliedig o ganlyniad i afiechyd neu driniaeth, gan gynnwys:

  • y rhai sy'n cael cemotherapi neu radiotherapi, derbynwyr trawsblaniadau organau solet, derbynwyr mêr esgyrn neu drawsblaniadau bôn-gelloedd
  • anhwylderau genetig sy'n effeithio ar y system imiwnedd (e.e. diffygion IRAK-4 neu NEMO, anhwylder cyflenwad, SCID)
  • y rhai â malaenedd haematolegol, gan gynnwys lewcemia a lymffoma
  • y rhai sy'n cael therapi biolegol gwrthimiwnedd neu imiwnofodiwleiddio
  • y rhai sy'n cael eu trin neu'n debygol o gael eu trin â corticosteroidau dogn uchel neu gymedrol
  • y rhai sy'n cael unrhyw ddos o gyffuriau modiwleiddio imiwnedd geneuol anfiolegol e.e. methotrexate, azathioprin, 6-mercaptopurine neu mycophenolate
  • y rhai â chlefydau awto-imiwn y gall fod angen triniaethau gwrthimiwnedd hirdymor arnynt

 
Asplenia neu gamweithrediad y ddueg
Gan gynnwys sfferocytosis etifeddol, clefyd y cryman-gelloedd homosygaidd a thalasaemia mwyaf
 
Annormaleddau genetig difrifol sy'n effeithio ar nifer o systemau
Gan gynnwys clefyd mitocondriaidd ac annormaleddau cromosomaidd
 
Beichiogrwydd
Pob cam (y tymor cyntaf, yr ail a'r trydydd tymor)