Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Glangwili yw'r cyntaf yng Nghymru i roi meddyginiaeth osteoporosis Newydd

25 Gorffennaf 2022

Ysbyty Glangwili yw'r cyntaf yng Nghymru i roi meddyginiaeth newydd a fydd yn helpu cleifion sy'n dioddef o osteoporosis. Fe’i cymeradwywyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a dyma’r driniaeth gyffuriau osteoporosis newydd gyntaf o’i bath ers dros ddegawd.

Mae'r driniaeth newydd - Romosozumab - bellach ar gael yng Nghymru ar gyfer atal toriadau esgyrn yn y dyfodol mewn cleifion sy'n dioddef o osteoporosis.

Rhoddir y cyffur adeiladu esgyrn fel pigiad syml o dan y croen. Mae'n hynod effeithiol ar gyfer atal toriadau trwy'r ffordd y mae'n gweithredu ar gelloedd esgyrn, yn enwedig mewn menywod ar ôl y menopos ag osteoporosis difrifol. Mae'n un o ddim ond dwy driniaeth sy'n helpu i hyrwyddo ffurfio esgyrn, a'r cyntaf i leihau colled esgyrn ar yr un pryd.

Ddydd Iau 21 Gorffennaf daeth Carole Bevan y claf cyntaf yng Nghymru i dderbyn y feddyginiaeth yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin.

Dywedodd: “Rwy’n ffodus iawn i fod y claf cyntaf yng Nghymru ac yn falch iawn o gael fy ystyried a chael cynnig y driniaeth hon. Ni theimlais y nodwydd o gwbl ac rwy’n hapus i hunan-weinyddu’r pigiad yn fisol am y 12 mis nesaf.”

Ychwanegodd Dr Abhaya Gupta, Meddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili: “Mae argaeledd y cyffur hwn yng Nghymru yn opsiwn ychwanegol ar gyfer trin cleifion ag osteoporosis, y mae llawer ohonynt yn dioddef canlyniadau dinistriol oherwydd toriadau clun, asgwrn cefn a thoriadau arddwrn.

“Drwy ei fecanwaith gweithredu newydd mae gan y driniaeth hon y potensial i chwyldroi ein dull o drin y bobl hynny sydd â chlefydau difrifol sydd mewn perygl mawr iawn o dorri asgwrn, yn enwedig pan gaiff ei ddefnyddio fel eu triniaeth gychwynnol.

“Gyda niferoedd cynyddol o gleifion oedrannus ag osteoporosis, mae’r pigiad hwn yn gyffur ychwanegol sydd ar gael i arbenigwyr drin y cleifion hyn, gan helpu i leihau anabledd a chostau iechyd a gofal cymdeithasol yn y tymor hir.”

Ychwanegodd Catrin Beddoe, fferyllydd yn Ysbyty Glangwili: “Mae hwn yn bigiad syml a roddir unwaith y mis am flwyddyn i gleifion benywaidd oedrannus priodol sy’n dioddef o ganlyniadau dinistriol toriadau, ac rwy’n falch o fod yn rhan o’r tîm osteoporosis arbenigol sy’n ymwneud â’r gwaith cyffrous hwn.”