Neidio i'r prif gynnwy

Ymwelwch â'ch fferyllfa yn gyntaf y tymor hwn

21 Rhagfyr 2022

Mae pobl yn cael eu hannog i ymweld â’u fferyllydd lleol ar gyfer mân gyflyrau y gaeaf hwn, yn hytrach na chysylltu â’u meddyg teulu neu fynd i adran damweiniau ac achosion brys.

O boen cefn i ddiffyg traul, i boen dannedd, gall fferyllwyr ddarparu cyngor a thriniaeth am ddim ar gyfer ystod o gyflyrau cyffredin i'r teulu cyfan.

Mae’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn cwmpasu 27 o gyflyrau lle gall fferyllydd asesu a darparu meddyginiaeth am ddim, os yw’n addas, heb fod angen presgripsiwn. Mae'r gwasanaeth yn caniatáu i gleifion ofyn am gyngor neu driniaeth gan fferyllfa gymunedol sy'n cymryd rhan, yn hytrach na'u meddyg teulu, ar gyfer rhestr ddiffiniedig o anhwylderau.

Ffoniwch cyn mynd i'ch fferyllfa leol i wirio bod gwasanaethau ar gael ar unrhyw ddiwrnod penodol. Bydd eich fferyllydd, ar ôl ymgynghoriad byr, yn gallu rhoi cyngor a chyflenwi meddyginiaeth o restr y cytunwyd arni gan y GIG neu, os oes angen, atgyfeirio’r claf at ei Feddyg Teulu.

Dywedodd Richard Evans, Fferyllydd Cymunedol sy’n cymryd rhan yn y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin: “Yn draddodiadol mae fferyllwyr cymunedol wedi cynghori cleifion ar ystod eang o anhwylderau. Rydym bob amser wedi argymell triniaethau priodol i'r claf, neu os oes angen eu hatgyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.

“Mae gwasanaethau eraill ar gael hefyd, fel y gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf, gwasanaeth UTI, atal cenhedlu brys a chyflenwad brys o feddyginiaeth.”

“Peidiwch ag anghofio archebu unrhyw feddyginiaeth arall mewn da bryd, o leiaf saith diwrnod cyn i chi redeg allan.”

Yn ogystal â'r arbenigedd proffesiynol a gynigir mewn fferyllfeydd, gall cleifion cymwys barhau i gael eu brechlyn ffliw rhad ac am ddim i amddiffyn eu hunain ac eraill y gaeaf hwn.

I gael manylion cyswllt ac amseroedd agor eich fferyllfa leol dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/ (agor mewn dolen newydd)