Neidio i'r prif gynnwy

Ymddiswyddiad Contract Meddygfa Neyland a Johnston

Bocs glas gyda geiriau datganiad i

13 Gorffennaf 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn gweithio gyda Meddygfa Neyland a Johnston yn Sir Benfro i sicrhau bod gwasanaethau meddygon teulu’n parhau i gael eu darparu ar ôl i’r Practis ymddiswyddo o’r contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol. Mae hyn yn dilyn ymddeoliad arfaethedig partner meddyg teulu a sawl ymgais aflwyddiannus i recriwtio mwy o feddygon teulu i weithio yn y Practis.

Dywedodd Rhian Bond, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Sylfaenol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffai’r Bwrdd Iechyd roi sicrwydd i gleifion Meddygfa Neyland a Johnston y bydd y ddarpariaeth o wasanaethau meddygol cyffredinol yn parhau i gleifion.

“Byddwn yn gweithio gyda Meddygfa Neyland a Johnston a phractisau cyfagos i ddod o hyd i’r ffordd orau o sicrhau gwasanaethau meddygol cyffredinol i gleifion sydd wedi’u cofrestru yn y Practis ar hyn o bryd. Byddwn nawr yn gweithio gyda’r tîm presennol a rhanddeiliaid i ddatblygu cynlluniau ar gyfer darparu gwasanaethau yn yr ardal yn y dyfodol, yn unol â chanllawiau cenedlaethol.”

Ar gyfer cleifion cofrestredig mae hyn yn golygu y bydd gofal yn parhau i gael ei ddarparu fel arfer gan yr un tîm yn y Practis tan ddiwedd mis Hydref 2022. Dylai cleifion barhau i fod wedi'u cofrestru gyda'r Practis tra bod gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod gwasanaethau meddygol cyffredinol yn parhau i gael eu darparu o fis Tachwedd 2022 ymlaen.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn ysgrifennu at yr holl gleifion sydd wedi'u cofrestru ym Meddygfa Neyland a Johnston i roi gwybod iddynt am y sefyllfa, ac i'w gwahodd i roi eu barn ar y ffordd orau o barhau i ddarparu'r gwasanaethau hyn. Mae'r Practis a'r Bwrdd Iechyd yn cydweithio'n agos i sicrhau bod cleifion yn cael eu heffeithio cyn lleied â phosibl gan unrhyw newidiadau a all ddigwydd.

Bydd barn y gymuned leol a chleifion yn cael ei chasglu cyn unrhyw benderfyniad ynglŷn â darpariaeth tymor hir ar gyfer y gwasanaeth. Bydd y Bwrdd Iechyd yn gweithio'n agos gyda'r Cyngor Iechyd Cymuned i sicrhau bod y safonau uchel o ofal a ddarperir ar hyn o bryd yn parhau i gleifion y feddygfa hon.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth barhaus a roddir gan y gymuned i’r tîm ym Meddygfa Neyland a Johnston yn ystod y cyfnod heriol hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, gellir cyfeirio eich ymholiadau at Ganolfan Gyfathrebu’r Bwrdd Iechyd 0300 303 8322 (opsiwn 4), e-bost ask.hdd@wales.nhs.uk