Neidio i'r prif gynnwy

Ychwanegu dyddiadau newydd i'r ymgynghoriad ar wasanaethau brys ac argyfwng plant ac ieuenctid yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili

24 Gorffennaf 2023

O 26 Mai eleni, ac yn parhau tan 24 Awst 2023, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn gwahodd staff, gwirfoddolwyr, y cyhoedd a sefydliadau partner, i rannu eu barn ar wasanaethau brys ac argyfwng plant ac ieuenctid (pediatreg) yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Rydym yn ceisio eich barn ar sut orau i ddarparu’r gwasanaethau hyn, a hynny yn dilyn cyfres o newidiadau dros dro ers 2016. Mae hyn yn rhan o strategaeth ehangach y bwrdd iechyd i wella iechyd a gofal yn y rhanbarth.

Yn dilyn newidiadau dros dro i wasanaethau pediatreg ers 2016, mae angen inni nawr roi ateb hirdymor ar waith a fydd mewn lle tan datblygu’r ysbyty newydd ar gyfer gofal brys a gofal wedi’i drefnu. Rydym wedi gweithio gyda’n timau clinigol a phediatreg i nodi’r opsiynau ar gyfer y gwasanaethau i’r dyfodol, ac mae gennym dri opsiwn i chi eu hystyried. Ar hyn o bryd, nid ydym yn ffafrio unrhyw un o’r opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid yn Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili.

I’r tri opsiwn, mae’n bwysig nodi y bydd mynediad at ofal argyfwng plant yn parhau yn adran argyfwng Ysbyty Glangwili, a bydd gofal mân anafiadau plant yn parhau yn Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili. Yn ogystal, mae systemau eisoes mewn lle i sicrhau bod unrhyw blentyn neu berson ifanc â chyflwr critigol sy’n cyrraedd Ysbyty Llwynhelyg yn cael y gofal gorau sydd ar gael, ac yn y lle mwyaf priodol. Bydd hyn yn parhau fel rhan o’r gwasanaeth newydd. Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol, bydd y Bwrdd yn ystyried yr holl adborth mewn cyfarfod y Bwrdd tua diwedd 2023, a hynny ochr yn ochr â phob tystiolaeth a gwybodaeth berthnasol arall a gasglwyd yn ystod y broses hyd yn hyn.

Er mwyn sicrhau ein bod yn cael adborth gan gymaint o bob â phosib yn ein cymunedau, rydym wedi ychwanegu mwy o ddyddiadau ar gyfer digwyddiadau wyneb-yn-wyneb yn Hwlffordd a Doc Penfro:

  • 1 Awst 2023: 5pm – 8:30pm, Y Depo, Haverhub, Hen Swyddfa Bost, 12 Stryd y Cei, Hwlffordd, SA61 1BG
  • 10 Awst 2023: 5pm – 8:30pm, Neuadd Pater, Stryd Dimond, Doc Penfro, SA72 6AH

Mae manylion yr ymgynghoriad, gan gynnwys gwybodaeth ar sut i gofrestru ar gyfer sesiynau ar-lein, copïau o ddogfennau’r ymgynghoriad mewn ystod o fformatau, a manylion ar sut i rannu eich barn, ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd: Gwasanaethau plant yn y dyfodol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru) . Gobeithio y gallwch ymuno â ni yn un o’n digwyddiadau.