Neidio i'r prif gynnwy

Y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yn ymweld ag Ysbyty Tywysog Philip

5 Mehefin 2026

Ddoe, (dydd Iau, 4 Mehefin 2026), ymwelodd Mabon ap Gwynfor AS, Gweinidog newydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal â staff a chleifion yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli.

Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu’r Gweinidog Cabinet â staff clinigol a gweithredol sy’n gweithio yn Uned Llawfeddygaeth Ddydd yr ysbyty a’r Uned Mân Anafiadau, i gael cipolwg ar sut mae gwasanaethau’n cefnogi cleifion i gael mynediad at ofal llawfeddygol dydd amserol a gofal yn nes at adref.

Rhannodd cydweithwyr yn yr Uned Llawfeddygaeth Ddydd sut mae'r gwasanaeth yn cefnogi cleifion i dderbyn triniaethau wedi’u cynllunio yn ddiogel ac yn effeithlon, gan ganiatáu iddynt ddychwelyd adref ar yr un diwrnod. Agorodd yr Uned yn 2022 i gynyddu capasiti llawfeddygol a helpu i fynd i’r afael â rhestrau aros, gan alluogi mwy o gleifion i gael triniaethau wedi’u cynllunio’n gyflymach.

Yn yr Uned Mân Anafiadau, tynnodd staff sylw at y rôl bwysig y mae'r gwasanaeth yn ei chwarae wrth ddarparu gofal cyflym ar gyfer mân anafiadau, gan gefnogi llwybrau gofal brys ac argyfwng ehangach. Yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar, bydd yr Uned Mân Anafiadau yn cael ei ddatblygu'n Ganolfan Triniaeth Gofal Brys. Bydd hyn yn dod â gwasanaethau mân anafiadau a Gofal Brys yr Un Diwrnod at ei gilydd i ddarparu asesiad, diagnosis a thriniaeth ar gyfer ystod ehangach o gyflyrau brys nad ydynt yn bygwth bywyd, ar agor o 8am i 8pm, saith diwrnod yr wythnos.

Wrth sôn am ei ymweliad, dywedodd Mabon ap Gwynfor, Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal: “Mae wedi bod yn wych ymweld ag Ysbyty Tywysog Philip a gweld drosof fy hun y gofal rhagorol sy’n cael ei ddarparu i gleifion.

“Roedd cyfarfod â’r timau yn yr Uned Llawfeddygaeth Ddydd a’r Uned Mân Anafiadau wedi rhoi gwir werthfawrogiad i mi o’r ymroddiad a’r proffesiynoldeb y mae staff yn ei roi i’w gwaith bob dydd yma. Rwyf am ddiolch i bob aelod o staff am y croeso cynnes ac am bopeth y maent yn ei wneud.

"Yn y Senedd yr wythnos hon, roeddwn yn falch o nodi blaenoriaethau'r Llywodraeth hon ar gyfer y sectorau Iechyd a Gofal. Byddwn yn mynd i'r afael â rhestrau aros drwy ehangu canolfannau llawfeddygol a diagnostig ledled Cymru. Byddwn yn cyflwyno rhaglen uchelgeisiol o foderneiddio'r GIG. A byddwn yn rhoi iechyd ataliol wrth wraidd ein hymagwedd, gan helpu pobl i fyw bywydau iachach, hapusach yn hytrach na dim ond rheoli salwch."

Roedd yr ymweliad yn gyfle i drafod y cyflawniadau a'r heriau parhaus sy'n wynebu gwasanaethau gofal wedi'i gynllunio a gofal brys, yn ogystal ag ymrwymiad parhaus staff i ddarparu gofal o ansawdd uchel i gymunedau lleol.

Dywedodd Dr Neil Wooding, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Roedd yn bleser gennym groesawu Mabon ap Gwynfor AS i Ysbyty Tywysog Philip ar ei ymweliad cyntaf â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ei rôl newydd fel y Gweinidog Cabinet. Roedd yn gyfle i gydweithwyr o bob rhan o’n gwasanaethau arddangos y gwaith sy’n digwydd yn ein Huned Llawfeddygaeth Ddydd a’n Huned Mân Anafiadau.”

“Mae ein staff wrth galon popeth a wnawn, ac mae ymweliadau fel hyn yn gyfle pwysig i amlygu eu hymroddiad, eu proffesiynoldeb a’u harloesedd wrth ddarparu gofal. Mae hefyd yn caniatáu i ni gael sgyrsiau agored ac adeiladol am yr heriau sy’n ein hwynebu a sut rydym wedi ymrwymo i barhau i wella gwasanaethau ar gyfer ein cymunedau.”

Roedd yr ymweliad yn gyfle i dynnu sylw at y rôl bwysig y mae Ysbyty Tywysog Philip yn ei chwarae wrth ddarparu gofal i gymunedau lleol ar draws Hywel Dda ac ardaloedd cyfagos, a sut mae’r Bwrdd Iechyd yn gweithio i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal cywir yn y lle iawn.

DIWEDD