Gorffennaf 24 2026
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ystyried cynnig i ddechrau ymgysylltu â'r cyhoedd a staff ynghylch lleoliad y dyfodol ar gyfer ei wasanaeth 'Man Diogel' (o dan Adran 136) i oedolion, yn ei gyfarfod Bwrdd ddydd Iau, 30 Gorffennaf.
Mae Adran 136 o'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn caniatáu i swyddogion heddlu fynd â pherson sy'n profi argyfwng iechyd meddwl mewn lle cyhoeddus i fan diogel dynodedig, lle gallant gael asesiad a chymorth priodol. Mae gan y Bwrdd Iechyd gyfrifoldeb statudol i ddarparu'r gwasanaeth hwn.
Gofynnir i aelodau'r Bwrdd ystyried canlyniad arfarniad opsiynau aml-asiantaeth, sydd wedi nodi uned bwrpasol Adran 136 yn Cwm Seren ym Mharc Dewi Sant, Caerfyrddin, fel yr opsiwn a ffafrir ar gyfer darpariaeth i oedolion yn y dyfodol.
Mae'r cynnig yn dilyn adolygiad o'r cyfleusterau presennol – a amlygodd heriau yn ymwneud â'r amgylchedd a staffio ar draws nifer o safleoedd – ynghyd â gwaith helaeth gyda phartneriaid, gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys, awdurdodau lleol, Gweithredu Dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru (WWAMH) a Llais.
Os caiff ei gymeradwyo gan y Bwrdd, cynhelir rhaglen ymgysylltu wyth wythnos rhwng 2 Medi a 26 Hydref 2026. Bydd yr ymgysylltu yn ceisio barn staff, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, sefydliadau partner a chymunedau lleol ar yr opsiwn a ffafrir, ei effeithiau posibl ac unrhyw fesurau a allai helpu i liniaru'r effeithiau hynny.
Nodwyd yr opsiwn a ffafrir yn dilyn asesiad o bum model posibl. Daeth y gwerthusiad i'r casgliad y byddai cyfleuster pwrpasol yn Cwm Seren yn darparu'r model gofal mwyaf diogel, cynaliadwy ac effeithiol yn glinigol, gan gynnig mynediad uniongyrchol at gymorth arbenigol ym maes iechyd meddwl, rheolaeth well ar risg acíwt, a mynediad gwell at wasanaethau gofal iechyd corfforol pan fo angen.
Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae pobl sy'n cael eu cadw o dan Adran 136 yn aml yn profi rhai o'r eiliadau anoddaf yn eu bywydau, ac mae'n hanfodol ein bod yn darparu amgylchedd diogel a chefnogol lle gallant gael asesiad amserol.”
Mae'r gwaith a wnaed gyda'n partneriaid wedi ystyried yn ofalus amrywiaeth o opsiynau ar gyfer darparu'r gwasanaeth hwn yn y dyfodol. Mae'r opsiwn a ffafrir yn Hafan Derwen wedi'i nodi oherwydd ei fod yn cynnig y manteision mwyaf sylweddol o ran diogelwch cleifion, cymorth clinigol a chynaliadwyedd.
“Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud eto. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Bwrdd, byddwn am glywed gan staff, pobl â phrofiad bywyd, gofalwyr, sefydliadau partner ac aelodau o’r cyhoedd cyn ystyried unrhyw benderfyniad terfynol. Bydd eu hadborth yn rhan bwysig o’r broses.”
Cynhelir cyfarfod y Bwrdd ddydd Iau 30 Gorffennaf 2026 ac mae'r papurau ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yma Agenda a phaparau'r Bwrdd 30 Gorffennaf 2026 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (agor mewn ffenest newydd)
Bydd cyfarfod y Bwrdd ar gael i’w wylio’n fyw o 9.30am ddydd Iau, 30 Gorffennaf 2026 yma https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/eich-bwrdd-iechyd/cyfarfodydd-y-bwrdd-2026/
DIWEDD