Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos y Lluoedd Arfog yn cael ei nodi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Wythnos y Lluoedd Arfog yn cael ei nodi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

23 Mehefin 2022

Mae mainc goffa wedi’i dadorchuddio ym Mharc Dewi Sant, Caerfyrddin yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog i gydnabod gwerth personél sy’n gwasanaethu, gwirfoddolwyr cadetiaid sy’n oedolion, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a theuluoedd milwrol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Y thema eleni yw Cyfarch Ein Lluoedd, gyda 2022 yn nodi 40 mlynedd ers rhyddhau Ynysoedd y Falkland, a bydd ymwelwyr ag Ysbyty Bronglais a Ysbyty Glangwili hefyd yn gweld baner y Lluoedd Arfog yn chwifio trwy gydol yr wythnos.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i fod yn sefydliad sy’n gyfeillgar i’r lluoedd arfog ar ôl arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog yn 2016 ac ennill gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwr Amddiffyn ym mis Gorffennaf 2021.

Wrth siarad yn y seremoni ddadorchuddio, dywedodd Delyth Raynsford, Aelod Annibynnol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’n wych gweld llawer o’n staff yma heddiw sydd wedi gwasanaethu neu’n parhau i wasanaethu yn ein Lluoedd Arfog.

“Rydym yn cydnabod y wybodaeth, y sgiliau trosglwyddadwy a’r agwedd adeiladol a chadarnhaol y mae personél sy’n gwasanaethu, gwirfoddolwyr cadetiaid sy’n oedolion, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a theuluoedd milwrol yn cyfrannu at ein gwasanaeth iechyd.

“Rydym yn gweithio’n barhaus i wella ein polisïau gweithlu i ddenu a chefnogi recriwtio a chadw gweithlu o gymuned y Lluoedd Arfog.

“Mae hyn yn cynnwys deg diwrnod ychwanegol o wyliau â thâl i filwyr wrth gefn, gan hyrwyddo ein hymrwymiad i’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer cyn-filwyr a hyrwyddo manteision cefnogi aelodau o gymuned y lluoedd arfog drwy annog eraill i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog a chymryd rhan yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwr.”

Yn dilyn 30 mlynedd o wasanaeth yn y Fyddin Brydeinig, ymunodd Lisa Tasker â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn 2020 fel cynorthwyydd personol i’r dirprwy gyfarwyddwr a chyfarwyddwr cyllid cynorthwyol. Wrth siarad yn y seremoni, dywedodd Lisa: “Dyma fy swydd gyntaf ar ôl y fyddin ac mae rhwydwaith staff y lluoedd arfog yn ffordd dda o gysylltu â chydweithwyr ar draws y bwrdd iechyd sydd â’r un profiadau.

“Mae dod o gefndir milwrol wedi bod yn gromlin ddysgu i fy nghydweithwyr yn ogystal â mi fy hun ond mae pawb wedi bod yn groesawgar iawn. Mae’n hyfryd cael y fainc hon i gydnabod y gwerth a’r cyfraniad a wnawn i’r GIG.”

Mae’r fainc wedi’i hariannu gan roddion elusennol i Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol y Bwrdd Iechyd.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth yr elusen: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu ariannu’r fainc sy’n cynrychioli pa mor werthfawr yw cymuned y Lluoedd Arfog gan y Bwrdd Iechyd.

“Rydym yn gobeithio y bydd yn darparu ffocws ar gyfer myfyrio a choffáu yn y dyfodol.”

Dylai unrhyw un sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, a hoffai ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan gynnwys mynediad at GIG Cymru i Gyn-filwyr, gwasanaeth arbenigol â blaenoriaeth i unigolion sy’n profi anawsterau iechyd meddwl sy'n ymwneud yn benodol â'u gwasanaeth milwrol, ymweld â: biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/cyfamod-y-lluoedd-arfog/(agor yn dolen newydd)

Mae Rhwydwaith Staff y Lluoedd Arfog hefyd yn agored i unrhyw aelod o gymuned y lluoedd arfog sy’n gweithio yn Hywel Dda ac os hoffai unrhyw staff gael rhagor o wybodaeth am y rhwydwaith, gallant gysylltu â StrategicPartnerships.HDD@wales.nhs.uk