Neidio i'r prif gynnwy

Wardiau yr effeithir arnynt gan RAAC yn ailagor erbyn diwedd y flwyddyn

16 Tachwedd 2023

Mae disgwyl i dair o'r chwe ward yn Ysbyty Llwynhelyg gafodd eu cau oherwydd presenoldeb planciau RAAC gael eu hailagor erbyn y Nadolig.

Ym mis Awst, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddigwyddiad mawr mewnol yn yr ysbyty yn Sir Benfro er mwyn nodi maint ac effaith y concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) a ddarganfuwyd yn adeilad yr ysbyty.

Arweiniodd hyn at gau chwech o 12 ward yr ysbyty ynghyd ag ardaloedd ar y llawr gwaelod a’r gegin, gan gynnwys ystafelloedd cleifion allanol ac ystafelloedd clinig.

Mae Ward 9 yn yr ysbyty yn Hwlffordd eisoes wedi ailagor ac yn cyflwyno cleifion cardiaidd yn ôl i'w gofod 14 gwely. Mae ward arall – Ward 12 – i fod i ailagor ganol mis Tachwedd. Mae disgwyl i Ward 7 gael ei chwblhau erbyn diwedd Rhagfyr.

Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar y gwaith sylfaen ar gyfer y gegin faes newydd a disgwylir iddi fod yn weithredol erbyn Rhagfyr 4. Nid yw’r gegin yn weithredol ar hyn o bryd gyda gwasanaeth bwyd interim ar gyfer cleifion sy'n gweithredu o ardal fwyta'r bwyty, gyda bwyd tecawê cyfyngedig ar gael i staff.

Ailddechreuodd triniaethau Llawdriniaeth Ddydd yn Ysbyty Llwynhelyg yn gynharach y mis hwn er bod llawdriniaethau cleifion mewnol dewisol yn Llwynhelyg yn gweithredu ar lefel isel ar hyn o bryd tra bod gwaith atgyweirio yn parhau.

Disgwylir i’r gwaith ar y wardiau sy’n weddill gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2024 a disgwylir i waith adfer ar leoliadau ar y llawr gwaelod, gan gynnwys y gegin a’r ardal cleifion allanol, barhau tan Gwanwyn 2025.

Meddai’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau Andrew Carrurthers: “Rydym yn falch iawn bod y wardiau a gaewyd wrth i ni wneud gwaith atgyweirio hanfodol i estyll concrit RAAC bellach naill ai’n gweithredu fel arfer neu y byddant erbyn Gwanwyn 2024.

“Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd i staff gan eu bod wedi gorfod addasu’n gyflym iawn i sefyllfa sy’n newid yn gyflym ac mewn rhai achosion wedi gorfod gweithio mewn gwahanol leoliadau o fewn y bwrdd iechyd. Maent wedi dangos gwaith tîm anhygoel a gwydnwch yn ystod cyfnod heriol iawn, felly hoffwn ddiolch iddynt am eu cefnogaeth.

“Rydym wedi ceisio tarfu cyn lleied â phosibl, ond rwy’n gwybod bod cleifion ac aelodau’r cyhoedd hefyd wedi’u heffeithio gan yr arolwg a’r gwaith atgyweirio parhaus. Mae rhai wedi gorfod cael eu trin mewn lleoliadau amgen o fewn ardal y bwrdd iechyd, felly hoffwn ddiolch iddynt am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.

“Bydd gwaith arolygu ac atgyweirio yn parhau tan Gwanwyn 2025, felly mae tipyn o ffordd i fynd cyn i ysbyty Llwynhelyg ddychwelyd i wasanaeth arferol. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’n staff, cleifion a’r cyhoedd a rhoi gwybod iddynt am y datblygiadau diweddaraf.”

Mae RAAC yn ddeunydd a ddefnyddiwyd yn gyffredin wrth godi adeiladau rhwng y 1960au a'r 1990au. Mae ei bresenoldeb wedi'i gadarnhau yn ysbyty Llwynhelyg ac mewn rhan gyfyngedig o Ysbyty Bronglais. Mae hefyd wedi’i nodi mewn amrywiaeth o eiddo’r GIG ac adeiladau cyhoeddus eraill megis ysgolion, ledled y DU.

Mae rhagor o wybodaeth a Chwestiynau Cyffredin ar gael ar wefan Hywel Dda RAAC - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (agor mewn dolen newydd)