Neidio i'r prif gynnwy

Uned Mân Anafiadau a Gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod yng Nghanolfan Integredig Aberteifi

Bydd Uned Mân Anafiadau Aberteifi (MIU) a gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod (SDUC) yn agor unwaith eto ar gyfer apwyntiadau cerdded i mewn y penwythnos hwn (22/23 Ionawr 2022) ar ôl darparu gofal a thriniaeth i bron i 30 o gleifion a ddywedodd y byddent wedi mynd fel arall i’r adran damweiniau ac achosion brys neu eu meddyg teulu.

Fel rhan o arbrawf newydd i helpu i leddfu'r pwysau ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys o fewn ysbytai, agorodd y gwasanaeth dan arweiniad nyrsys - sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi - ar gyfer sesiynau cerdded i mewn heb apwyntiad ymlaen llaw ar benwythnos y 15 a 16 Ionawr, gyda'n staff yn gweld a thrin nifer o gleifion dros y ddau ddiwrnod.

Arweinir y Gwasanaeth gan Uwch Ymarferwyr Nyrsio sy’n gallu asesu, diagnosio a thrin cleifion sy’n galw heibio a fydd wedyn yn gallu dychwelyd adref yr un diwrnod, gyda chynllun gofal sy'n cynnwys atgyfeiriadau i wasanaethau eraill os oes angen.

Mae ein hysbytai ar hyn o bryd yn delio â galw digynsail, sy’n arwain at oedi sylweddol o ran darparu gofal ac arosiadau hir mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Os oes gennych gyflwr y gellir ei weld a’i drin yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi, byddem yn eich annog yn gryf i fynychu gan y gallwch gael eich gweld yn gyflymach, yn ogystal â helpu i leddfu’r pwysau ar y system ysbytai.

Dyma’r math o gyflyrau y gall ein Huwch-ymarferwyr Nyrsio eu gweld a’u trin:

  • Heintiau ar y frest
  • Heintiau clwyfau
  • Haint ar y llwybr wrinol
  • Tonsillitis / dolur gwddf
  • Heintiau’r Glust
  • Mân anafiadau i’r frest/clun/pelfis/cefn – rhaid i’r claf allu symud
  • Mân anaf i’r pen
  • Poen yn y frest nad yw’n ymwneud â’r galon
  • Cwynion croen gan gynnwys brechau, heintiau a llosg haul 
  • Ysigiadau, straeniau ac anafiadau i feinwe meddal
  • Clefyd y gwair, Adweithiau alergaidd ysgafn
  • Mân anafiadau - briwiau, clwyfau
  • Mân anafiadau i’r llygad, cwynion a llid sy’n gofyn am ddyfrhau, ac anafiadau cemegol i’r llygaid
  • Atal cenhedlu brys
  • Tor-asgwrn tybiedig ac anafiadau i'r pen-glin, rhan isaf y goes, y ffêr a'r droed
  • Tor-asgwrn tybiedig ac anafiadau i’r fraich
  • Brathiadau anifail, pryfed neu ddynol
  • Mân losgiadau a sgaldiadau
  • Tynnu corffynnau estron o’r llygad, clust, trwyn a’r croen

Mewn arolwg bodlonrwydd cleifion a gynhaliwyd gan ein nyrsys dros benwythnos 15 ac 16 Ionawr, roedd pob claf yn cytuno neu'n cytuno'n gryf bod staff wedi egluro'r gwasanaeth; eu bod yn fodlon ar eu cynllun triniaeth, a'u bod wedi cael y cyfle i godi cwestiynau neu bryderon.

Dywedodd cleifion hefyd eu bod yn teimlo'n fwy hyderus ynghylch rheoli eu symptomau a'u bod yn fodlon â'r gwasanaeth i'r pwynt o'i argymell i eraill.

Dywedodd Sian Lewis, Nyrs Arweiniol Clinigol ar gyfer Cymuned Ceredigion: “Roedd ein Uwch Nyrsys yn falch iawn o allu gweld a thrin cymaint o gleifion y penwythnos diwethaf – yn enwedig o ystyried y byddai llawer ohonynt fel arall wedi wynebu arosiadau hir yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys am y math o anhwylderau y mae ein timau yma yn barod i ddelio â nhw.

“Rhowch alwad i ni, neu dewch i lawr i’r Ganolfan Gofal Integredig yn Aberteifi os oes angen gofal arnoch a’ch bod yn meddwl y gallwn ni helpu – nid oes angen apwyntiad arnoch, gallwn ddarparu gwasanaeth cyflym a gallwch fod ar eich ffordd adref ar yr un diwrnod gyda chynllun gofal os oes ei angen arnoch.”

Mae Canolfan Gofal Integredig Aberteifi wedi’i lleoli yn Rhodfa’r Felin, Aberteifi SA43 1JX. Os hoffech siarad â nyrs brysbennu yn y ganolfan yn gyntaf i drafod eich cyflwr, ffoniwch 01239 803 075.

 

Os oes gennych angen gofal mwy brys neu mewn argyfwng meddygol, ffoniwch 999.