Neidio i'r prif gynnwy

Uned gofal arbenigol newydd yn cael ei darparu ar gyfer babanod sâl

25 Ionawr 2022

Mae uned arbenigol newydd i ofalu am rai o'r babanod newydd-anedig mwyaf bregus wedi agor yn swyddogol yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.

Mae’r Uned Gofal Arbennig Babanod (SCBU) newydd yn rhan o fuddsoddiad gwerth £25.2m gan Lywodraeth Cymru mewn cynllun datblygu newydd i gyfleusterau obstetrig a newyddenedigol yn yr ysbyty a bydd yn gwasanaethu teuluoedd ar draws canolbarth a gorllewin Cymru.

Mae’r uned fodern wedi’i hadeiladu’n bwrpasol gyda’r ffocws ar y babi a’i deulu, a’r tîm newyddenedigol.

Bydd yr uned newydd sy'n ystyriol o deuluoedd yn parhau i ddarparu lefel gofal dibyniaeth uchel a gofal arbennig i fabanod newydd-anedig cynamserol a sâl gyda chyfleusterau gwell a thechnoleg fodern.

Mae'r man clinigol yn cydymffurfio â chanllawiau cenedlaethol sy'n parchu preifatrwydd ac urddas y teulu. Mae pedair ystafell en suite dros nos i rieni ac ystafell eistedd i'r teulu.

Bydd y man clinigol a’r cyfleusterau staff yn gwella’r amgylchedd gwaith ar gyfer y tîm newyddenedigol a bydd o fudd i’w lles. Mae'r cyfleusterau newydd yn cynnwys ardal briodol ar gyfer addysgu a gweithio amlddisgyblaethol.

Dywedodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Bydd y cyfleusterau newydd yn cefnogi teuluoedd ar adeg pan fydd ei angen arnynt fwyaf. Rwy’n falch bod cyllid Llywodraeth Cymru wedi’i ddefnyddio i greu’r ganolfan newydd a bydd yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf i’r gymuned ac i’r tîm newyddenedigol i ddarparu gofal hanfodol.”

Diolchodd Steve Moore, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i bawb a gymerodd ran yn y prosiect: “Mae’n wych gweld yr uned newydd ar agor i fabanod a’u teuluoedd.

“Mae’r cyfleusterau gwell yn rhan o’n buddsoddiad parhaus mewn gwasanaethau menywod a phlant a bydd yn darparu amgylchedd llawer gwell i fabanod gofal arbennig ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

“Hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb a fu’n rhan o’r prosiect hwn am eu hymroddiad a’u gwaith caled dros y blynyddoedd diwethaf. Estynnaf ein diolch o galon hefyd i bawb sydd wedi cyfrannu at offer ar gyfer yr uned trwy ymdrechion codi arian anhygoel a rhoddion hael. Diolch i chi gyd.”

Dywedodd Lisa Humphrey, Rheolwr Cyffredinol Dros Dro Gwasanaethau Menywod a Phlant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Fel cyfarwyddwr y prosiect hoffwn ddiolch i’r holl rieni, staff a’r contractwyr am eu cyfraniad at gyflawni’r cynllun hwn.

“Mae cael uned gyfoes yn gwella’r gofal o ansawdd uchel y mae’r tîm eisoes yn ei ddarparu mewn amgylchedd sy’n gwella llesiant babanod, eu teuluoedd a staff.”

Ychwanegodd Karen Jones, Uwch Nyrs, Uned Gofal Arbennig Babanod: “Hoffem ddiolch i deuluoedd sydd wedi bod mor garedig â rhoi arian i’n galluogi i brynu offer meddygol fel monitorau ocsigen a monitor i gynorthwyo gyda monitro gweithgaredd yr ymennydd. Rydym hefyd wedi prynu eitemau ar gyfer ystafelloedd eistedd y teulu a staff a dodrefn ar gyfer yr ystafell dawel.

“Mae’r tîm newyddenedigol yn edrych ymlaen at symud i mewn i’r uned newydd, sy’n eang ac yn golau gyda chyfleusterau gwych ar gyfer staff a rhieni. Mae’r amgylchedd yn llawer gwell na’r SCBU blaenorol gyda chyfleusterau hyfryd i rieni fod yn agos at eu babanod.”

Disgwylir i gam nesaf y prosiect, a fydd yn gweld agor y Ward Mamolaeth newydd, gael ei gwblhau yn ystod gwanwyn 2022.