Neidio i'r prif gynnwy

Trosglwyddo cleifion o Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri i Ysbyty Dyffryn Aman dros dro

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) wedi cyhoeddi y bydd yn trosglwyddo’r holl gleifion sy’n cael eu trin ar hyn o bryd yn Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri, yn Llanymddyfri, i Ysbyty Dyffryn Aman, yng Nglanaman ger Rhydaman.

Cymeradwyodd BIPHDd y mesur dros dro ar ôl ystyried nifer o opsiynau yn dilyn ymgynghori agos â rhanddeiliaid cymunedol, gan gynnwys meddygon teulu lleol, y Cyngor Iechyd Cymuned a swyddogion etholedig. Bydd y symud yn golygu na fydd cleifion mewnol yn Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri.

Ar hyn o bryd, mae'r ddau ysbyty yn gofalu am gleifion COVID-19 positif  ar wahân ac yn unol â chanllawiau atal heintiau, gyda defnydd priodol o Gyfarpar Diogelu Personol  a phellter cymdeithasol.

Fodd bynnag, mae nifer o staff, gan gynnwys nyrsys, yn y ddau ysbyty wedi profi'n bositif am COVID-19 ac yn hunan-ynysu. Mae hyn wedi arwain at gyfyngiadau sylweddol ar y gweithlu ar y ddau safle, sydd wedi golygu bod cynnal gwasanaethau nyrsio cymunedol ac ysbytai cymunedol wedi bod yn her.

Bydd trosglwyddo cleifion yn cychwyn yr wythnos hon. Ni fydd unrhyw risg uwch i unrhyw glaf yn Ysbyty Dyffryn Aman, gan y bydd pob claf COVID-19 yn parhau i gael ei drin o dan amodau ynysu llym.

Gwnaed y penderfyniad i symud cleifion i Ysbyty Dyffryn Aman oherwydd bod yno fwy o allu i ofalu am gleifion nag Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri. Yn dilyn y trosglwyddiad, bydd Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri yn cael ei lanhau'n ddwfn a'i ailagor fel cyfleuster sydd heb COVID-19 (Safle gwyrdd). Disgwylir i'r ysbyty ailagor ddechrau mis Ionawr unwaith y bydd lefelau staffio wedi dychwelyd i normal. Bydd BIPHDd yn monitro'r sefyllfa ac yn diweddaru'r cyhoedd mewn da bryd.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol a Hir Dymor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae diogelwch a llesiant ein cleifion o’r pwys mwyaf, felly gwnaed y penderfyniad hwn ar ôl rhoi ystyriaeth ddyledus i nifer o opsiynau. Yn y pen draw, penderfyniad clinigol yw hwn a gymerir er budd gorau cleifion, ar adeg pan fo pwysau digynsail ar y gwasanaeth.

“Roedd yr heriau staffio yn golygu nad oedd yn bosibl cynnal gofal i gleifion ar y ddau safle. Trwy gydgrynhoi adnoddau ar un safle, byddwn yn cynnal lefelau staffio mwy diogel. Dyma'r opsiwn gorau i sicrhau bod pob claf yn profi’r  safonau gofal uchaf.

“Yn ogystal, bydd symud i un safle yn darparu’r budd ychwanegol o leddfu pwysau yn ein safleoedd acíwt, oherwydd wrth i staff sydd ar hyn o bryd yn hunan-ynysu ddychwelyd i’r gwaith, byddant yn gallu cefnogi cleifion yn ein hysbytai eraill.

“Gallaf sicrhau cymunedau Llanymddyfri a Rhydaman mai mesur dros dro yw hwn ac rydym yn llwyr fwriadu ailagor Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri ddechrau mis Ionawr.”

Os oes gennych unrhyw symptomau o COVID-19 - peswch parhaus newydd, tymheredd uchel, neu golled neu newid yn eich gallu i  arogli neu flasu - arhoswch gartref ac archebwch brawf trwy Borth y DU.