Neidio i'r prif gynnwy

Trefniadau ymweld ag ysbytai wedi'u diweddaru

1 Mawrth 2023

Gall teulu a ffrindiau nawr fynd i ysbytai i ymweld â chleifion o dan drefniadau ymweld diwygiedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae’r trefniadau newydd, a nodir isod, yn adlewyrchu adborth a dderbyniwyd gan gleifion, eu teuluoedd, a staff am eu profiadau yn ystod y pandemig. Maent yn berthnasol i bob maes cleifion mewnol ar draws safleoedd y bwrdd iechyd gan gynnwys ardaloedd oedolion, pediatrig a babanod, iechyd meddwl a chymuned.

Trefniadau ymweld diwygiedig:

  • Cytunir mai oriau ymweld safonol neu graidd ar gyfer wardiau cyffredinol yw 2pm-4pm a 6pm-8pm.
  • Mae ymweliadau agored/hyblyg ar waith mewn unedau gofal critigol ac arbenigol, megis gofal dwys, uned gofal arbennig babanod, mamolaeth a phediatreg).
  • Dim ond dau ymwelydd a ganiateir wrth erchwyn y gwely ar unrhyw un adeg.
  • Anogir ymweld ‘drwy apwyntiad’ i atal gorlenwi mewn cilfach/ward ar unrhyw un adeg a bydd yn cael ei fabwysiadu pan fydd nifer cynyddol o achosion o glefydau trosglwyddadwy penodol yn y boblogaeth gyffredinol, er enghraifft, COVID-19 neu ffliw.
  • Os oes ymweliadau ‘drwy apwyntiad’ yn eu lle, caiff hyn ei gyfleu i gleifion ac ymwelwyr.
  • Gall prif nyrsys ward/bydwragedd â gofal ddefnyddio eu disgresiwn i hwyluso ymweliadau y tu allan i oriau craidd ac mewn amgylchiadau eithriadol.
  • Mae amseroedd bwyd yn parhau i gael eu diogelu fel amseroedd tawel, gyda'r opsiwn i ymwelwyr/gofalwyr wneud trefniadau gyda phrif nyrs y ward i gynorthwyo gyda bwydo fel y bo'n briodol.
  • Lle bo’n briodol, gellir cefnogi ‘ymweliad rhithwir’.
  • Gellir cyflwyno trefniadau ymweld penodol i atal trosglwyddo haint, er enghraifft, yn ystod achos o haint ar y ward.
  • Cynghorir pob ymwelydd i beidio ag ymweld os yw'n sâl gyda haint gastroberfeddol neu resbiradol.
  • Helpwch ni i atal heintiau rhag lledaenu bob amser a glanhewch eich dwylo cyn ac ar ôl i chi adael y ward.

Mae’r bwrdd iechyd yn cefnogi unrhyw un sy’n dewis gwisgo gorchudd wyneb ar ein safleoedd. Yn unol â chanllawiau atal a rheoli heintiau, mae’n bosibl y bydd angen i staff, cleifion ac ymwelwyr o bryd i’w gilydd wisgo gorchudd wyneb o dan rai amgylchiadau, megis mewn ardaloedd sy’n delio â heintiau anadlol, neu i amddiffyn ein pobl sydd fwyaf agored i niwed yn glinigol.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Ar ran y bwrdd iechyd, hoffwn yn gyntaf estyn ein diolch a’n diolchgarwch dyfnaf i’n cymunedau, ein cleifion a’u teuluoedd am eich dealltwriaeth a’ch cydymffurfiad â rheolau ymweld ag ysbytai y bu'n rhaid i ni ei orfodi o'r blaen trwy gydol y pandemig. Mae eich diwydrwydd a’ch ymwybyddiaeth o’r angen i gadw anwyliaid yn ddiogel yn yr ysbyty wedi bod yn allweddol yn ein hymdrechion i frwydro yn erbyn y feirws.

“Rydym yn cydnabod manteision therapiwtig cleifion yn derbyn ymwelwyr a’r cyfraniad y gallant ei wneud i les cyffredinol cleifion. Rwyf wrth fy modd felly i gadarnhau bod y trefniadau ymweld hyn wedi’u diweddaru bellach ar waith, gan alluogi ein cleifion i gael ymwelwyr tra’n diogelu eu preifatrwydd a’u hurddas, a sicrhau eu bod yn cael gofal mewn amgylchedd diogel ac effeithlon.”

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn i bobl beidio ag ymweld ag unrhyw un o’i ysbytai os:

  • teimlo'n sâl
  • â symptomau tebyg i ffliw neu haint anadlol
  • yn dioddef, neu wedi cael, dolur rhydd a/neu chwydu yn y 48 awr diwethaf
  • wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw un sydd â'r symptomau uchod yn ystod y 48 awr ddiwethaf
  • â chyflwr meddygol yn barod neu ar feddyginiaeth sy'n eu rhoi mewn perygl o haint