Mawrth 25 2025
Mae Tîm Llywodraethu a Risg Mamolaeth a Newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ennill tair gwobr yng Ngwobrau MUM y DU (Maternity Unit Marvels)™ 2025 i gydnabod y rôl y maent yn ei chwarae wrth wella diogelwch darpar famau.
Roedd y tîm, a fynychodd noson gala arbennig yn Llundain ar nos Iau, 13 Mawrth eisoes yn gwybod eu bod wedi ennill dwy wobr yn y categori Gweithlu - Gwobr Hyrwyddo Cydweithrediad a Gweithio mewn Tîm a gwobr Cyflawni Rhagoriaeth Trwy Wella Gwasanaeth.
Ond doedden nhw ddim yn gwybod tan y noson eu bod nhw hefyd wedi ennill y Wobr Genedlaethol fel enillwyr cyffredinol y categori Gweithlu, yn ennill dros gystadleuaeth frwd o bob rhan o’r DU.
Yn bresennol ar ran Hywel Dda ar y noson roedd y tîm buddugol yn cynnwys Cerian Llewellyn (Pennaeth Bydwreigiaeth Dros Dro), Dr Tipswalo Day (Ymgynghorydd Obstetreg a Gynaecoleg) Dr Mathew Pickup (Pediatregydd Ymgynghorol), Angela Morgan (Bydwraig), Bethan Osmundsen (Uwch Reolwr Nyrsio Paediatreg Acíwt) a Leah Andrew (Uwch Nyrs).
Mae'r Gwobrau Baby Lifeline wedi'u cynllunio i ddathlu straeon am ofal mamolaeth a newyddenedigol eithriadol.
Mae Baby Lifeline yn hyrwyddo gwaith bydwragedd, obstetryddion, meddygon a nyrsys newyddenedigol, anesthetyddion, meddygon teulu a pharafeddygon yn y gwaith y maent yn ei wneud i eni babanod yn ddiogel a gofalu am famau a phobl sy'n geni.
Lansiodd yr elusen y Gwobrau diweddaraf ym mis Hydref y llynedd drwy wahodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gyflwyno enwebiadau ar gyfer y ‘Gwobr Gwella Diogelwch ar y Rheng Flaen drwy Fuddsoddi yn y Gweithlu’ arbennig.
Dewisodd panel o feirniaid mawreddog un enillydd o bob un o bedwar categori ar gyfer Gwobr y Gweithlu a gyhoeddwyd yn y seremoni wobrwyo yn lleoliad hanesyddol Palas San Steffan gyda’r nos ar 13 Mawrth.
Llywyddwyd y noson gan yr Athro yr Arglwydd Darzi o Denham, a roddodd anerchiad ar ddechrau'r noson.
Roedd Noddwr Baby Lifeline, Linda Bassett (actor Call the Midwife) yno hefyd i ddosbarthu’r gwobrau i’r enillwyr haeddiannol.
Mynychwyd y digwyddiad hefyd gan uwch arweinwyr o GIG Lloegr, Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr, Coleg Brenhinol y Bydwragedd, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, a NHS Resolution, a gwesteion nodedig eraill.
Dywedodd Dana Scott, Pennaeth Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae ennill y gwobrau wedi bod yn gydnabyddiaeth wych o ymdrechion ar y cyd ein tîm yn Hywel Dda.
“Mae gwybod bod holl waith caled ein tîm amlddisgyblaethol i wneud un o’r adegau mwyaf gwerthfawr mewn bywyd yn brofiad diogel a chadarnhaol i famau a’u teuluoedd wedi cael ei gydnabod gan banel o feirniaid arbenigol o fri yn golygu cymaint i ni.”
Ychwanegodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rwyf wrth fy modd i’r tîm – maen nhw wedi gweithio’n hynod o galed dros y blynyddoedd i gefnogi aelodau o’n cymunedau. Gall beichiogrwydd fod yn gyfnod cyffrous a phryderus, ac mae ein timau’n gwneud eu gorau glas i sicrhau eu bod yn trin pob mam, person geni a’u teuluoedd gyda thosturi a’r gofal gorau posibl.
“Diolch i bob aelod o’r tîm sydd wedi chwarae eu rhan i ennill y wobr.”
Mae bron i 3000 o fabanod yn cael eu geni bob blwyddyn yn Hywel Dda gyda’r tîm bydwreigiaeth yn cefnogi pobl gartref, yn y gymuned, ac yn ein hysbytai.
Darganfod mwy am y Gwobrau Maternity Unit Marvels (MUM) 2025 Baby Lifeline ar y wefan Gwobrau MUM y DU 2025 | Baby Lifeline.
Am Baby Lifeline
Mae Baby Lifeline yn elusen genedlaethol unigryw i famau a babanod, a sefydlwyd ar ôl profiad personol ein Prif Swyddog Gweithredol, Judy Ledger, o farwolaethau ei thri babi cyntaf yn ystod neu yn fuan ar ôl genedigaeth. Rydym yn gwneud gofal yn fwy diogel ac yn well i bob menyw feichiog, person beichiog, a babi newydd-anedig yn y DU, a’n nod yw na fydd unrhyw deulu yn profi colled y gellir ei osgoi o’u babi neu fam werthfawr. Gwnawn hyn drwy gefnogi gweithwyr proffesiynol y GIG sydd wrth galon gofal: prynu offer, datblygu a darparu hyfforddiant hanfodol, a chynnal ymchwil i gefnogi gwasanaethau mamolaeth. Mae effaith ein gwaith yn ymestyn i filoedd o deuluoedd bob blwyddyn.
DIWEDD