Neidio i'r prif gynnwy

Sylw ar Ddiffyg Maeth: Wythnos Ymwybyddiaeth Diffyg Maeth

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn arwain y ffordd i roi ‘Sylw ar Ddiffyg Maeth’ gyda dull atal a thriniaeth i fynd i’r afael ag effeithiau andwyol diffyg maeth.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Diffyg Maeth (MAW), 11-17 Hydref, yn fenter flynyddol yn y DU a arweinir gan Cymdeithas Brydeinig Maeth drwy'r Gwythiennau a'r Ymysgaroedd (BAPEN).

Fel rhan o arolwg blynyddol cenedlaethol, bydd aelodau o'n tîm Maetheg a Deieteg yn cynnal yr arolwg sgrinio ar wardiau ysbytai ac mewn rhai lleoliadau cymunedol yr wythnos hon. Gellir sicrhau cleifion na fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei chasglu a ellir eu hadnabod.

Trwy sgrinio llawer o bobl ledled y DU, gellir tynnu gwell darlun o raddfa'r broblem diffyg maeth, cyfleoedd i wella, yn ogystal â thynnu sylw at driniaeth cymorth maeth y mae pobl yn ei chael.

Dywedodd Emma Catling, Arweinydd Strategol Diffyg Maeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ein nod yw cefnogi pobl i atal diffyg maeth, a chanfod problemau diffyg maeth yn gynnar trwy sgrinio a mynd i’r afael â nhw.

“Gall diffyg maeth arwain at broblemau iechyd difrifol gan gynnwys cynyddu'r risg o gwympo, clwyfau yn cymryd amser i wella, colli cryfder, mwy o debygolrwydd o gael eich derbyn i'r ysbyty, arosiadau hirach yn yr ysbyty ac adferiad arafach."