Neidio i'r prif gynnwy

Storm Ciarán

Red umbrella in the rain

01 Tachwedd 2023

Bydd Storm Ciarán yn dod â gwyntoedd cryfion, glaw trwm a llifogydd posib ledled Cymru yr wythnos hon. Bydd yr effaith mwyaf yn cael eu teimlo mewn ardaloedd gan gynnwys de Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gar.

Bydd apwyntiadau a llawdriniaethau wedi’u trefnu yn ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a lleoliadau cymunedol yn parhau fel y cynlluniwyd oni bai y cysylltir â chleifion a’u bod yn cael gwybod fel arall.

Caniatewch ddigon o amser i deithio a gwiriwch y tywydd diweddaraf a diweddariadau lleol cyn gadael.

Os yw'n anniogel i chi deithio i'ch apwyntiad, peidiwch â rhoi eich hun mewn perygl a chysylltwch â ni gan ddefnyddio'r rhif ffôn ar eich llythyr apwyntiad i roi gwybod i ni na allwch fod yn bresennol.

Cymerwch ofal os ydych allan a byddwch #weatheraware

Ceir gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol yma: