Neidio i'r prif gynnwy

Sefydliad TriTech yn dathlu pum mlynedd o lwyddiant – a chynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol

26 Mai 2026

Mae cyfnodau cyffrous o’n blaenau i Sefydliad TriTech Hywel Dda a ddathlwyd pum mlynedd o ymchwil ac arloesi mewn digwyddiad arbennig yng Nghanolfan Pentre Awel, Llanelli.

Mynychodd cynrychiolwyr o Hywel Dda, partneriaid diwydiant ac academaidd ynghyd â Pherfformiad a Gwella GIG Cymru y digwyddiad ddydd Mawrth, 28 Ebrill i glywed am y datblygiadau arloesol a gyflawnwyd gan y sefydliad dros ei bum mlynedd cyntaf.

Ymhlith y siaradwyr ar y diwrnod roedd yr Athro Chris Hopkins, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol a Phennaeth Sefydliad TriTech, yr Athro Phil Kloer, Prif Weithredwr Hywel Dda a phartneriaid diwydiant o Astra Zeneca, Whyze Health ac Amgen.

Bum mlynedd yn ôl, pan oedd yr Athro Kloer yn Gyfarwyddwr Meddygol yn Hywel Dda, roedd yn rhan o'r tîm a gefnogodd sefydlu Sefydliad Tritech.

Wrth fyfyrio ar yr amser hwnnw, dywedodd: “Rwy’n teimlo’n hynod falch o’r hyn y mae Sefydliad Tritech wedi mynd ymlaen i’w gyflawni. Rwy’n cofio’r dyddiau cynnar hynny’n dda, roedden ni yng nghanol y pandemig, ac nid oedd yn glir beth allai’r sefydliad newydd hwn ddod. Roedd sefydlu Tritech ar y foment honno yn gam beiddgar.

“Rwyf mor falch ein bod ni wedi cymryd y risg gyfrifedig honno, oherwydd pan edrychwch chi ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni ers hynny, mae’n rhyfeddol. Mae’n glod gwirioneddol i bawb sy’n gysylltiedig, ac i’n partneriaid diwydiant ac academaidd a ymddiriedodd ynom ni a’n cefnogi o’r cychwyn cyntaf.

“Mae Tritech wedi chwarae rhan fawr wrth adeiladu ein henw da fel Bwrdd Iechyd Prifysgol. Mae’n parhau i wthio ffiniau ac arloesi, ac rydym yn gwybod bod sefydliadau gofal iechyd sy’n wirioneddol weithgar mewn ymchwil ac arloesi yn darparu gofal o’r ansawdd uchaf. Mae hynny’n bwysig iawn i’r cymunedau rydym yn eu cefnogi.”

Mae Sefydliad Tritech wedi cyflawni enillion cryf ar fuddsoddiad, gan adennill ei sylfaen gost lawn bob blwyddyn wrth gynhyrchu £4.6m mewn cyllid allanol i gefnogi arloesedd clinigol blaenoriaethol, gwerthuso a thrawsnewid gwasanaethau.

Dywedodd yr Athro Chris Hopkins: “Sefydlwyd Sefydliad TriTech yn wreiddiol fel gofod cydweithredol i gefnogi ymchwil a datblygu MedTech, ond mae wedi tyfu’n sylweddol dros amser. Heddiw, mae’n sefyll fel gwasanaeth arloesi cwbl integredig, wedi’i arwain gan dystiolaeth, gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid i droi syniadau’n welliannau ystyrlon i gleifion a gwasanaethau.”

“Gan gydweithio â’r sector gwyddor bywyd ac amrywiol Sefydliadau Addysg Uwch (HEIs) ledled Cymru a’r DU, mae’r tîm o wyddonwyr clinigol, ymchwilwyr, peirianwyr, gwyddonwyr data, nyrsys, fferyllwyr a meddygon yn cynnal ymchwil gyfieithiadol a gwerthusiadau byd go iawn ar arloesiadau gofal iechyd. Maent yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflymu arloesedd i ofal rheng flaen.”

Trwy brosiectau blaenllaw sy’n cwmpasu atal clefydau cardiofasgwlaidd, gofal asthma, diagnosteg canser y prostad, atal diabetes, teleiechyd, llwybrau digidol wedi’u galluogi gan AI, a rhaglenni Ewropeaidd Horizon, mae Tritech wedi gwella canlyniadau cleifion yn uniongyrchol, cyflymu diagnosis, lleihau derbyniadau ac atgyfeiriadau y gellir eu hosgoi, a rhyddhau capasiti system sylweddol.

Yn ogystal â dathlu llwyddiant, roedd y digwyddiad yn gyfle i dîm Tritech lansio eu cynllun busnes newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Mae cam nesaf twf Tritech wedi'i nodi yng Nghynllun Busnes Sefydliad TriTech 2026–2031, sy'n amlinellu'r fframwaith strategol, gweithredol ac ariannol y bydd Hywel Dda yn parhau i hyrwyddo trawsnewid dan arweiniad arloesedd drwyddo.

Dywedodd Dr Leighton Phillips, Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesedd a Gwerth yn Hywel Dda: ‘‘Mae'r garreg filltir hon yn deyrnged i'r bobl sydd wedi gwneud y gwaith caled dros y pum mlynedd diwethaf. Y clinigwyr, y gwyddonwyr, yr arloeswyr, y staff cymorth, a'r partneriaid sydd wedi gweithio ochr yn ochr i droi syniadau yn newid ac effaith ymarferol”.

“Nid yw llwyddiant TriTech yn ymwneud ag arloesedd yn unig. Mae'n ymwneud â'r oriau lawer o gydweithio, profi a dyfalbarhad sydd y tu ôl i bob prosiect. Yr hyn sydd bwysicaf yw bod y gwaith hwn yn gwneud gwahaniaeth pendant, yn gwella gofal, yn cefnogi atal, ac yn helpu pobl ledled De-orllewin Cymru i fyw bywydau iachach a phrofi canlyniadau iechyd gwell. Dyna sy'n parhau i yrru ein huchelgais ar gyfer y blynyddoedd i ddod.’’ Ynghyd â lansio ei strategaeth newydd, mae Tritech wedi symud i Ganolfan Pentre Awel, Llanelli, gan atgyfnerthu safle’r Ganolfan fel un o brif ganolfannau arloesi gofal iechyd Cymru.

Dywedodd yr Athro Hopkins: “Mae’r symud i Ganolfan Pentre Awel yn nodi carreg filltir wirioneddol arwyddocaol yn nhaith Sefydliad Tritech. Mae’r datblygiad iechyd, lles a gwyddorau bywyd nodedig hwn ar arfordir Llanelli yn dwyn ynghyd ofal iechyd, gwasanaethau awdurdodau lleol, busnes ac arloesedd, addysg, ymchwil, hamdden a phartneriaid diwydiant ar un safle a rennir.

“Mae Pentre Awel yn enghraifft bwerus o adfywio dan arweiniad arloesedd, gan greu amgylchedd unigryw lle gellir dylunio, profi a gweithredu arloesedd iechyd ochr yn ochr â gwasanaethau clinigol a’r cymnedau a wasanaethwn.

“Mae ein huned a gynlluniwyd yn bwrpasol yn rhoi cartref parhaol inni i gefnogi ymchwil, gwerthuso, cydweithio â diwydiant, a mabwysiadu arloesiadau digidol ac ataliol ar raddfa fawr, gan sicrhau bod syniadau newydd yn trosi’n fuddion go iawn, parhaol i gleifion a gwasanaethau ledled Cymru a thu hwnt.”

DIWEDD