Neidio i'r prif gynnwy

Safleoedd posib ysbyty newydd wedi'u hadolygu

01 Gorffennaf 2022

Mae pobl o gymunedau ar draws y tair sir wedi helpu i asesu pum safle yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, fel rhan o broses ehangach i nodi lleoliad ar gyfer Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd.

Roedd aelodau’r gweithdy, a gynhaliwyd ar ddydd Mawrth 28 Mehefin, yn cynnwys cynrychiolaeth o bob rhan o’n rhanbarth gan gynnwys cyfranogwyr â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn ogystal â staff o’r bwrdd iechyd â’n partneriaid. Bu’r cyfranogwyr yn adolygu pob un o’r safleoedd cyn eu sgorio yn seiliedig ar set o feini prawf technegol y cytunwyd arnynt.

Mae rhagor o wybodaeth am y meini prawf technegol, a sut y cawsant eu ‘pwysoli’ i bennu dyraniad y sgoriau, ar gael yma. Trafnidiaeth a hygyrchedd i wasanaethau yn yr ysbyty oedd y maen prawf â’r pwysol uchaf.

Mae'r holl safleoedd isod mewn parth sy’n cynnwys Sanclêr ac Arberth a rhyngddynt. Y parth hwn, y cytunwyd arno yn dilyn ein hymgynghoriad yn 2018, yw’r lleoliad mwyaf canolog ar gyfer mwyafrif y boblogaeth yn ne ardal Hywel Dda.

Mae'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i'r egwyddor na fyddai llais y cyhoedd yn yr ymarfer sgorio hwn yn llai na 52% o'r cyfanswm. Felly, mae'r Sefydliad Ymgynghori wedi cynyddu cyfran gymharol y sgôr gyhoeddus yn unol â hynny. Mae'r gwaith o sgorio'r safleoedd yn dilyn y gweithdy arfarnu tir technegol fel a ganlyn:

Safle

Sgôr

Tir amaethyddol ac adeiladau sy'n rhan o Fferm Kiln Park sydd i'r gogledd o orsaf drenau Arberth ac wrth ymyl yr A478, tua 1km i'r gogledd-ddwyrain o ganol tref Arberth. 
 

365

Tir amaethyddol i'r gogledd-ddwyrain o ganol tref Hendy-gwyn ar Daf, rhwng yr A40 i'r gogledd, Clwb Rygbi Hendy-gwyn ar Daf i'r dwyrain a Gerddi’r Ffynnon i'r de.
 

373

Tir amaethyddol ac adeiladau sy'n rhan o Fferm Tŷ Newydd, sydd i'r dwyrain o safle Hufenfa Hendy-gwyn ar Daf a chanol tref Hendy-gwyn ar Daf
 

365

Tir amaethyddol ac adeiladau sy'n rhan o Penllyne Court rhwng Hendy-gwyn ar Daf a Sanclêr ychydig y tu allan i bentref Pwll-Trap. Mae’r safle rhwng llinell rheilffordd Abertawe-Hwlffordd i'r gogledd a'r A40 i'r de.
 

334

Tir amaethyddol sy'n rhan o hen gaeau Bryncaerau sydd wrth ymyl cyffordd yr A40 a'r A477 yn Sanclêr, rhwng yr A4066 (Ffordd Dinbych-y-Pysgod) i'r de, pentref Pwll-Trap i'r gogledd a'r A40 i'r gorllewin.
 

372

 

Mae sefydlu ysbyty newydd yn rhan sylfaenol o gynlluniau ehangach y bwrdd iechyd, sydd hefyd yn cynnwys darparu mwy o ganolfannau gofal integredig cymunedol a gwasanaethau yn agos at gartrefi pobl.

Byddai manteision yr ysbyty newydd, a fyddai’n dod â’r Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a gofal meddygol acíwt o ysbytai Llwynhelyg a Glangwili ynghyd, yn cynnwys:

  • y gallu i wahanu gofal brys a gofal wedi'i gynllunio yn gorfforol fel bod y naill yn cael llai o effaith ar y llall, a ddylai olygu amseroedd aros gwell i bobl sydd eisoes yn aros yn rhy hir am ofal wedi'i gynllunio
  • ymateb mwy cydnerth gan dimau clinigol wrth y drws blaen gan y bydd timau'n cael eu dwyn ynghyd, gan ryddhau ambiwlansys yn ôl ar y ffyrdd. Golyga hyn y bydd pobl yn cael mynediad cyflymach at y penderfyniadau sydd eu hangen i'w galluogi i fynd adref, neu gael eu derbyn i'r ysbyty os oes angen
  • rotas staffio meddygol mwy deniadol, gan ddod â thimau mwy o glinigwyr ynghyd a rhoi mwy o gyfle a chryfder i'n trafodaethau ynghylch dod â mwy o arbenigeddau i orllewin Cymru
  • rotas mwy deniadol i gefnogi llesiant a chadw staff a gweithredu fel atyniad i staff newydd

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Strategol a Chynllunio Gweithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffwn ddiolch i’r holl gyfranogwyr am eu cyfranogiad a’u cyfraniad wrth ein helpu i ystyried y safleoedd ar gyfer ein hysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd. Roedd y sylwadau a’r cwestiynau a gafwyd yn ystod y gweithdy yn uniongyrchol, yn onest, yn heriol ac yn amlygu’r angerdd sy’n bodoli yn ein cymunedau. Credwn fod y math hwn o ymgysylltu yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn dod i'r penderfyniad gorau ar gyfer lleoliad yr ysbyty newydd yn y dyfodol.

“Nid yw allbwn y gweithdy hwn o reidrwydd yn golygu y bydd yr ysbyty newydd yn cael ei leoli ar y safle â’r sgôr uchaf. Mae'r grŵp arfarnu hwn yn un o bedwar, gyda'r lleill yn adolygu materion sy'n ymwneud â materion clinigol, gweithlu, ac economaidd/ariannol.

“Bydd adroddiadau pob un o’r grwpiau arfarnu hyn yn cael eu hystyried gan Fwrdd Hywel Dda ym mis Awst. Drwy ddilyn y broses drylwyr hon ac ymgysylltu â’r cyhoedd, bydd y Bwrdd yn gallu deall yn llawn y dystiolaeth i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen, i fodloni’r gofynion clinigol, iechyd a gofal ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, a chyflawni uchelgeisiau’r strategaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach a sicrhau buddsoddiad ar raddfa na welwyd erioed o’r blaen yng ngorllewin Cymru.”

Rheolwyd y gweithdy arfarnu technegol o’r tir a’r broses ymgysylltu gyda chymorth a chyngor gan The Consultation Institute, corff annibynnol dielw, sy’n darparu canllawiau ar arfer gorau ar gyfer ymgysylltu â chymunedau.