Neidio i'r prif gynnwy

Safle a ffefrir wedi'i nodi ar gyfer y Ganolfan Plant a Phobl Ifanc newydd arfaethedig

Argraff artist o adeilad newydd

2 Medi 2026

Diolch i roddion hael ac ymdrechion codi arian gan bobl leol, busnesau a grwpiau cymunedol, mae mwy na £1.1 miliwn wedi’i godi drwy Apêl Bandi ers ei lansio ym 1999 i helpu i greu canolfan bwrpasol ar gyfer plant a phobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi nodi Tŷ Tudur ym Mharc Dewi Sant, Caerfyrddin, fel y lleoliad a ffafrir ar gyfer y ganolfan yn y dyfodol. Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol, gwahoddir staff, defnyddwyr gwasanaethau a chymunedau lleol i rannu eu barn yn ystod cyfnod ymgysylltu chwe wythnos sy’n dechrau ddydd Mercher 2 Medi 2026, er mwyn deall effaith newid posibl i leoliad darparu’r gwasanaeth.

Bydd y ganolfan arfaethedig yn creu gofod modern a chroesawgar lle gall plant, pobl ifanc a theuluoedd gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau mewn un lle, sy'n golygu y gall teuluoedd fynychu apwyntiadau yn yr un lleoliad.

Drwy ddod â gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, elusennol a chymunedol yn nes at ei gilydd, nod y ganolfan newydd yw ei gwneud yn haws i deuluoedd gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

Mae'r cynlluniau hyn yn gam pwysig ymlaen, ac mae'r prosiect yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Chanolfan Plant Sir Gâr – yr elusen sydd y tu ôl i Apêl Bandi – a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Mae Tŷ Tudur wedi’i nodi fel y dewis a ffafrir yn dilyn asesiad o nifer o leoliadau posibl, gan ystyried hygyrchedd i deuluoedd ac addasrwydd y safle a’r adeilad. Bydd yr adborth a gasglwyd yn ystod y cyfnod ymgysylltu yn helpu i lywio cam nesaf y prosiect cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol.

Nid yw'r Ganolfan Plant bresennol yn Ysbyty Glangwili, yn diwallu anghenion y gwasanaethau a'r defnyddwyr gwasanaethau bellach. Mae gan yr adeilad le cyfyngedig, gall fod yn anodd i rai pobl gael mynediad ato, ac nid yw'n hwyluso cydweithio effeithiol rhwng gwahanol wasanaethau.

Gallai'r ganolfan newydd gynnwys:

  • Mwy o ystafelloedd clinig ac asesu
  • Lle i weithwyr proffesiynol gwahanol gydweithio
  • Cyfleusterau wedi'u dylunio o amgylch anghenion plant awtistig, plant ag ADHD a phlant ag anghenion cymhleth
  • Gwell mynediad i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a phobl ag anghenion ychwanegol, gan gynnwys cyfleuster 'Changing Places'
  • Ardaloedd aros ar wahân ar gyfer grwpiau oedran gwahanol
  • Lle awyr agored ar gyfer chwarae, therapi ac asesiadau
  • Ardaloedd ar gyfer grwpiau cymorth i deuluoedd, sesiynau dysgu a gweithgareddau lles

Mae'r ganolfan newydd arfaethedig yn Tŷ Tudur, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin, 2.8 milltir o'r Ganolfan Plant bresennol yn Ysbyty Glangwili.

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio: "Mae prosiect Canolfan Plant Bandi yn uchelgais bwysig i deuluoedd lleol, ymddiriedolwyr Bandi, staff a sefydliadau partner."

“Ers mwy na 25 mlynedd, mae cefnogwyr Apêl Bandi wedi gweithio'n galed i godi arian a chadw'r prosiect hwn yn symud yn ei flaen. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth a'u hymrwymiad i wasanaethau plant.”

Mae nodi safle a ffefrir yn gam pwysig ymlaen. Edrychwn ymlaen at glywed barn staff, defnyddwyr gwasanaethau a chymunedau lleol wrth i'r cynlluniau barhau i ddatblygu.

Dywedodd y Rheolwr Cyffredinol dros Gwasanaethau Menywod a Phlant, Nick Williams-Davies: "Rydym am greu canolfan groesawgar sydd wedi'i dylunio o amgylch anghenion plant, pobl ifanc a theuluoedd. Drwy ddod â gwasanaethau ynghyd mewn un lle, gallwn ei gwneud yn haws cael gafael ar gymorth a chreu mannau lle mae plant a phobl ifanc yn teimlo'n gyfforddus, yn ddiogel ac yn cael eu parchu. Yn bwysicaf oll, rydym am i deuluoedd, staff, plant a phobl ifanc helpu i lunio dyfodol y ganolfan."

Mae'r prosiect hefyd wedi derbyn cefnogaeth mewn egwyddor gan Hospital Rooms drwy ei raglen Futures Fund. Elusen yw Hospital Rooms sy'n gweithio gydag artistiaid, sefydliadau gofal iechyd a defnyddwyr gwasanaethau i greu amgylcheddau tawel a chroesawgar mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae'r elusen bellach yn ystyried sut y gallai gefnogi dyluniad y ganolfan newydd drwy weithio gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd a staff.

Os bydd y bartneriaeth yn mynd yn ei blaen, bydd Hospital Rooms yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc lleol drwy gyfres o weithdai creadigol, lle bydd eu syniadau a’u profiadau yn helpu i lunio gwaith celf a gofodau o fewn y ganolfan newydd, gyda’r nod o greu amgylchedd sy’n addas i blant ac sy’n eu helpu i deimlo’n gyfforddus o’r eiliad y maent yn cyrraedd.

Byddai'r ganolfan newydd yn cefnogi plant a phobl ifanc o bob rhan o Sir Gaerfyrddin, tra byddai rhai gwasanaethau arbenigol hefyd yn parhau i gefnogi teuluoedd o Geredigion a Sir Benfro.

Er mwyn helpu i ddatblygu'r achos busnes manwl ar gyfer y prosiect, mae'r Bwrdd Iechyd wedi sicrhau cyllid o Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Llywodraeth Cymru.

Pe bai'n cael ei gymeradwyo, byddai'r ganolfan newydd yn helpu gwasanaethau i gydweithio'n agosach ac yn creu cyfleusterau gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol o blant, pobl ifanc a theuluoedd.

Bydd y cyfnod ymgysylltu chwe wythnos yn dechrau ddydd Mercher 2 Medi 2026. Bydd adborth yn helpu i lunio cam nesaf y broses gynllunio ac yn nodi unrhyw faterion y mae angen mynd i'r afael â nhw cyn i'r prosiect symud yn ei flaen.

Gall unrhyw un sydd eisiau rhannu eu barn ymweld â'n gwefan Dweud eich Dweud a llenwi'r holiadur: www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk (agor mewn dolen newydd)