Neidio i'r prif gynnwy

Rhannwch eich barn ar wasanaethau plant ac ieuenctid

Drawing of young people standing in a line

11 Awst 2023

Mae’r dyddiad cau yn prysur agosáu ar gyfer cyflwyno eich barn yn ymgynghoriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar wasanaethau brys ac argyfwng pediatreg i blant ac ieuenctid yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili.

Bellach mae llai na phythefnos ar ôl i rannu eich barn ar wasanaethau pediatrig brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. O 26 Mai eleni, ac yn dod i ben ar 24 Awst 2023, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gwahodd staff, defnyddwyr gwasanaeth, gwirfoddolwyr, y cyhoedd a sefydliadau partner, i rannu eu barn ar y ffordd orau o ddarparu’r gwasanaethau hyn, yn dilyn cyfres o newidiadau dros dro a wnaed ers 2016. Mae hyn yn rhan o strategaeth ehangach y bwrdd iechyd i wella iechyd a gofal yn y rhanbarth.

Yn dilyn y newidiadau dros dro i wasanaethau pediatrig a wnaed ers 2016, mae angen inni nawr roi ateb tymor hwy ar waith hyd nes y bydd yr ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd yn cael ei ddatblygu. Rydym wedi gweithio gyda’n timau clinigol a phediatrig i nodi’r opsiynau ar gyfer y gwasanaethau yn y dyfodol ac mae gennym dri opsiwn yr hoffem gael eich barn arnynt. Ar hyn o bryd, nid ydym yn ffafrio unrhyw un o’r opsiynau o ran sut y bydd gwasanaethau pediatrig brys ac argyfwng yn Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili yn cael eu darparu.

Ar gyfer pob un o’r tri opsiwn, mae’n bwysig nodi y bydd mynediad at ofal argyfwng plant yn cael ei gadw yn adran argyfwng Ysbyty Glangwili, a bydd mân anafiadau plant yn parhau i gael eu trin yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol, bydd y Bwrdd yn ystyried eich holl adborth yng nghyfarfod y Bwrdd tua diwedd 2023 ynghyd â’r holl dystiolaeth arall a gwybodaeth berthnasol a gasglwyd yn ystod y broses hyd yma.

Mae Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn esbonio: “Mae nifer o ddigwyddiadau ymgynghori wyneb-yn-wyneb ac ar-lein wedi’u cynnal ar draws ein byrddau iechyd, a hoffem ddiolch i bawb sydd eisoes wedi cymryd rhan. Wrth i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben, hoffem sicrhau ein bod yn casglu adborth gan gynifer o bobl â phosibl yn ein cymunedau ac yn annog unigolion a sefydliadau i lenwi ein holiadur cyn 24 Awst.”

Mae manylion yr ymgynghoriad, gan gynnwys copïau o’r dogfennau ymgynghori mewn amrywiaeth o fformatau, a manylion am sut i rannu eich barn, ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd: https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/canolbarth-a-gorllewin-iachach/gwasanaethau-plant-yn-y-dyfodol/holiadur/