Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen frechu'r gaeaf i ddechrau'n gynharach ar draws BIP Hywel Dda

4 Medi 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP), practisau meddygon teulu sy’n cymryd rhan a fferyllfeydd cymunedol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn paratoi i gyflwyno rhaglen frechu atgyfnerthu COVID-19 yr hydref eleni (gaeaf 2023/24).

Mae hyn mewn ymateb i gyhoeddiad gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) ar y risgiau posibl a gyflwynir gan yr amrywiad BA.2.86 newydd (COVID-19).

Yn dilyn canllawiau cenedlaethol a gyhoeddwyd gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), bydd y bobl ganlynol yn cael eu brechlyn COVID-19 yn gyntaf:

  • preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn,
  • unigolion sydd â risgiau clinigol difrifol i COVID-19 a phobl sy’n gaeth i’r tŷ; a
  • pobl 75 oed neu’n hŷn.

Gofynnir yn garedig i bobl beidio â chysylltu â’r bwrdd iechyd na’u meddygfa i ofyn am eu brechlyn ar hyn o bryd. Bydd ein timau’n cysylltu’n brydlon â phawb yn y grŵp blaenoriaeth uchel uchod i gael eu gwahodd am eu brechiad.

Gan ddechrau ar 11 Medi, bydd BIP Hywel Dda a phractisau meddygon teulu yn gwahodd pobl yn nhrefn blaenoriaeth risg ac yn dechrau mynychu cartrefi gofal a chleifion sy'n gaeth i'r tŷ.

Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus BIP Hywel Dda: “Rydym yn deall y gallai’r cyhoeddiad hwn achosi rhywfaint o bryder i’r aelodau o’r gymuned sy’n fwy agored i niwed yn glinigol.

“Hoffwn roi sicrwydd i bobl ein bod yn hyderus y gallwn fodloni’r gofyniad hwn i ddod â’n rhaglen frechu gaeaf ymlaen mewn ymateb i’r risgiau cynyddol posibl a gyflwynir gan yr amrywiad BA.2.86 newydd.

“Lle bynnag y bo modd, bydd brechiadau ar gyfer ffliw a COVID-19 yn cael eu cynnig ar yr un pryd. Fodd bynnag, rwy’n annog y bobl gymwys yn gryf i beidio ag oedi rhag cael eu brechu rhag COVID-19 er mwyn aros am y brechlyn ffliw tymhorol sydd ar gael.

“Mae’n bwysig iawn bod pobl gymwys yn cael brechlynnau cyn gynted â phosibl i’w hatal rhag datblygu salwch difrifol a lleihau cymhlethdodau sy’n arwain at orfod mynd i’r ysbyty yn ystod misoedd y gaeaf.

“Hoffwn ddiolch i’n practisau meddygon teulu a’n fferyllfeydd cymunedol sy’n cymryd rhan am eu hymateb cadarnhaol cyflym a’u camau gweithredu i sicrhau bod y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn gallu cael mynediad at eu brechlyn COVID-19 (a’r brechlyn ffliw tymhorol, lle bo modd) yn gynt nag a gynlluniwyd yn wreiddiol.”

Bydd gofalwyr, menywod beichiog, a staff iechyd a gofal cymdeithasol i gyd ymhlith y grwpiau a fydd yn cael cynnig brechlyn COVID-19 a ffliw y gaeaf hwn, yn ogystal ag oedolion 65 oed a hŷn yr hydref hwn.

Mae'n bwysig bod y rhai sy'n gymwys eleni yn dod ymlaen am eu brechiadau wrth i'r amddiffyniad lleihau dros amser, a gall y firws sy'n achosi ffliw newid o flwyddyn i flwyddyn.

Am fwy o wybodaeth, ewch i icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau