Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect Rhagsefydlu ac Optimeiddio Iechyd Lle'r Amheuir Canser Hywel Dda

Prosiect Rhagsefydlu ac Optimeiddio Iechyd Lle

1 Rhagfyr 2022

Mae tîm canser Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi derbyn cyllid gan Rwydwaith Canser Cymru a chronfa Arloesi Comisiwn Bevan ar gyfer Prosiect Rhagsefydlu ac Optimeiddio Iechyd Lle'r Amheuir Canser Hywel Dda.

Fel rhan o’r prosiect, mae’r tîm gwasanaethau canser yn awyddus i gynnal adolygiad i glywed gan bobl sydd wedi profi atgyfeiriad yn ddiweddar i ddiystyru neu gadarnhau diagnosis canser.

Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar wybodaeth benodol am faeth, ymarfer corff, lles yn ogystal ag ysmygu ac alcohol ar adeg pan fo unigolion yn cael eu hymchwilio am amheuaeth o ganser a bydd yn helpu'r tîm i wella'r wybodaeth y maent yn ei darparu.

Hoffai’r tîm canser ddeall y wybodaeth y mae unigolion wedi’i derbyn, neu y byddent wedi hoffi ei chael, mewn perthynas â’u hiechyd a’u lles.

Mae'r tîm yn galw ar unigolion sydd wedi cael atgyfeiriad i ddiystyru neu gadarnhau diagnosis canser, sy'n fodlon rhannu eu profiad fel claf trwy lenwi holiadur mynediad at wybodaeth iechyd a lles ar-lein. Dim ond tua 10 munud y dylai’r holiadur ei gymryd i’w gwblhau, a bydd eich barn yn cael ei defnyddio i gynllunio gwybodaeth a ddarperir i bobl yn y dyfodol.

Bydd yr adolygiad hwn hefyd yn rhoi cyfle i unigolion gymryd rhan mewn grŵp ffocws profiad cleifion. Bydd y grŵp ffocws yn grŵp ar-lein a bydd yn cynnwys 6-8 o gyfranogwyr. Mae cymryd rhan yn yr adolygiad hwn yn ddewisol ac nid oes rhaid i chi gymryd rhan.

Os byddwch yn dewis cymryd rhan yn y grŵp ffocws, bydd aelod o’r tîm Cyn-sefydlu yn cysylltu â chi i gadarnhau’r dyddiad a’r amser. Bydd cerdyn rhodd gwerth £20 yn cael ei ddarparu i bawb sy’n cymryd rhan yn y grŵp ffocws profiad claf i ddiolch i chi am eich amser a’ch cyfraniad.

Dywedodd yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Gwasanaethau Canser yng Nghymru: “Mae gan y prosiect hwn y potensial i wneud gwahaniaeth enfawr i ganlyniadau cleifion canser yng Nghymru. Mae cynnwys cleifion yn y gwaith o gynhyrchu’r deunyddiau drwy ofyn pa wybodaeth sy’n bwysig iddynt yn gwneud y prosiect hwn yn unigryw a bydd yn sicr yn helpu i lunio’r Fframwaith Rhagsefydlu Cenedlaethol.”

Os hoffech gymryd rhan yn y grŵp ffocws , neu os oes gennych unrhyw gwestiynau yr hoffech eu gofyn cyn penderfynu a ydych am gymryd rhan ai peidio, cysylltwch â ni drwy e-bost ar:prehabilitation.HDD@wales.nhs.uk