Neidio i'r prif gynnwy

Practisau deintyddol {My} Dentist yn Hendy-gwyn ar Daf a Stryd y Cei yn dychwelyd contract Deintyddol y GIG

7 Medi 2023

 

Mae {My} Dentist wedi gwneud y penderfyniad anodd i ddychwelyd dau o’u contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (GIG) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) ar 30 Tachwedd 2023.

Bydd hyn yn golygu na fydd y Practisau hyn yn darparu gofal deintyddol y GIG o 1 Rhagfyr 2023 ymlaen.

Fodd bynnag, hyd at y pwynt hwnnw, bydd y ddau bractis yn darparu unrhyw ofal brys sydd ei angen ar gleifion tan 30 Tachwedd 2023 a byddant yn sicrhau bod unrhyw driniaeth a ddechreuwyd cyn y dyddiad hwnnw yn cael ei chwblhau.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn rhoi gwybodaeth i gleifion a oedd wedi derbyn gofal deintyddol y GIG yn flaenorol gan bractisau deintyddol {My} Dentist yn Hendy-gwyn ar Daf a Stryd y Cei, Hwlffordd, am eu gofal parhaus, a’r opsiynau sydd ar gael iddynt tra bod y Bwrdd Iechyd yn gweithio i ddod o hyd i Ddarparwr Gwasanaeth newydd ar gyfer yr ardal.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffai’r Bwrdd Iechyd ddiolch i gleifion am y cymorth y maent wedi’i roi i’r ddau bractis dros y blynyddoedd a gwerthfawrogi’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar y boblogaeth leol.

“Mae’r Bwrdd Iechyd yn gweithio i ddod o hyd i ateb hirdymor sy’n sicrhau’r gwasanaeth pwysig hwn i’r ardal cyn gynted â phosibl.”

Ar ôl i gontractau’r GIG ddod i ben, dylai cleifion sy’n dioddef poen deintyddol gysylltu â 111 i gael apwyntiad mynediad brys sydd ar gael 7 diwrnod yr wythnos.

Gall cleifion sy'n glaf GIG sy'n gysylltiedig â practisau deintyddol {My} Dentist Hendy-gwyn ar Daf a Stryd y Cei gysylltu â'r Bwrdd Iechyd trwy e-bostio HDHB.Dental.hdd@wales.nhs.uk neu drwy ffonio 0300 303 8322 estyniad 4 i'w roi ar restr gadw ar gyfer y practis newydd unwaith y bydd y gwasanaeth yn ei le.

Gofynnwn i gleifion ymatal rhag galw Practisau Deintyddol amgen yn yr ardaloedd ar hyn o bryd, gan fod y Practisau hyn yn profi nifer llethol o alwadau.


I gael gwybodaeth am sut y gallwch gael mynediad at ofal deintyddol y GIG mewn practis arall, ewch i https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/deintyddol/ neu cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Deintyddol ar HDHB.Dental.hdd@wales.nhs.uk