Neidio i'r prif gynnwy

Pobl yng Ngorllewin Cymru yn cael neges – Gallech achub bywydau

15 Mawrth 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cefnogi apêl i bobl ychwanegu eu penderfyniad at Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG a  dweud wrth eu teulu eu bod am achub bywydau.

Mae pobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael eu galw i weithredu nawr – oherwydd fe allant achub bywyd. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cefnogi Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG, sy’n goruchwylio rhoi organau yn y DU, i alw ar bawb yng Nghymru i ychwanegu eu henw a’u penderfyniad at Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG. A dweud wrth eu teulu beth maen nhw ei eisiau.

Mae tua 93,864 o bobl yn Sir Gaerfyrddin, 41,228 o bobl yng Ngheredigion, a 65,611 o bobl yn Sir Benfro eisoes wedi datgan eu penderfyniad drwy Gofrestr Rhoddwyr Organau y GIG. Fodd bynnag, mae angen i bobl roi gwybod i’w teulu i helpu i wneud yn siŵr bod eu bod yn cefnogi eu penderfyniad pe bai nyrs arbenigol mewn ysbyty yn gofyn iddynt am roi organau. Pan fyddwn yn cysylltu â theulu, bydd 9 o bob 10 teulu yn cytuno i roi organau os ydyn nhw’n gwybod bod aelod o’u teulu ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau ac wedi siarad am eu penderfyniad.

Gall pob rhoddwr organau achub hyd at naw bywyd ar ôl iddynt farw drwy roi eu horganau i gleifion sy’n aros am drawsblaniad.

Daeth pum deg naw o bobl yng Nghymru yn rhoddwyr organau ar ôl eu marwolaeth yn 2021/22. A’r llynedd, derbyniodd 129 o gleifion a oedd yn aros am drawsblaniad yng Nghymru rodd a wnaeth newid eu bywydau.*

Diolch i roddwyr organau anhygoel a’u teuluoedd, mae miloedd o fywydau’n cael eu hachub bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae oddeutu 7,000 o bobl yn dal i aros am eu trawsblaniad, gan gynnwys 228 o bobl yng Nghymru.**

Mae gan bawb ddewis ynghylch a ydynt am roi organau ai peidio. Gallwch gofrestru eich penderfyniad (optio i mewn neu optio allan) ar Gofrestr Rhoddwyr Organau y GIG. Os na fyddwch chi’n cofrestru eich dewis, bydd yn cael ei ystyried nad oes gennych chi unrhyw wrthwynebiad i fod yn rhoddwr organau, a thybir eich bod wedi rhoi’ch cydsyniad.

Mae pobl yng Nghymru yn cael eu hannog i wneud yn siŵr bod eu teulu, a fydd bob amser yn rhan o'r broses os yw rhoi organau yn bosibilrwydd, yn gwybod beth maen nhw ei eisiau fel y gallant gefnogi eu penderfyniad i achub bywydau. Drwy ychwanegu eich enw a’ch penderfyniad at y gofrestr a dweud wrth eich teulu, ni fydd ganddynt unrhyw amheuaeth.

Dywedodd Judith Hardisty, Is-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Chadeirydd ei Bwyllgor Rhoi Organau: “Mae gwybod beth mae eich perthynas ei eisiau yn helpu i gefnogi penderfyniadau teuluoedd ynghylch rhoi organau ar adeg sy’n aml yn anodd.

“Rydym yn annog mwy o bobl i gofrestru eu penderfyniad a siarad â’u hanwyliaid am roi organau i roi’r sicrwydd sydd ei angen arnynt i gefnogi eu penderfyniad i roi organau.”

Dywedodd Anthony Clarkson, Cyfarwyddwr Rhoi a Thrawsblannu Organau a Meinwe, Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG: “Fe allech chi achub bywydau, sy’n etifeddiaeth anhygoel i’w gadael – mae rhoi organau’n achub bywydau.

“Ymgynghorir â theuluoedd bob amser cyn i'r broses o roi organau fynd rhagddi ac maent yn fwy tebygol o gefnogi eich penderfyniad os ydynt yn gwybod mai dyna oedd eich dymuniad.

“Ychwanegwch eich enw a’ch penderfyniad at Gofrestr Rhoddwyr Organau y GIG i helpu i achub mwy o fywydau. Dim ond dau funud mae’n ei gymryd i gofrestru i achub bywydau ar-lein.”

Chwiliwch am roi organau ar-lein, ewch i www.organdonation.nhs.uk (agor mewn dolen newydd).

------

*Nifer y trawsblaniadau diolch i roddwyr organau a fu farw

**Rhestr aros fel yr oedd ar ddiwedd 2022

Gellir cysylltu â swyddfa gwasg Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG ar 01923 367600 neu drwy e-bostio pressoffice@nhsbt.nhs.uk