Neidio i'r prif gynnwy

Pobl yng Ngorllewin Cymru yn cael eu hannog i gofrestru eu penderfyniad yn ystod Wythnos Rhoi Organau

26 Medi 2022

Yn ystod Wythnos Rhoi Organau (26 Medi i 2 Hydref), mae Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn galw ar bobl i gofrestru eu penderfyniad i roi organau a siarad â’u teuluoedd am roi organau, gan fod mwy na 6,500 o bobl wrthi’n aros am drawsblaniad ledled y DU.

Mae tua 93,864 o bobl yn Sir Gaerfyrddin, 41,228 o bobl yng Ngheredigion, a 65,611 o bobl yn Sir Benfro eisoes wedi datgan eu penderfyniad drwy Gofrestr Rhoddwyr Organau y GIG. Fodd bynnag, mae angen i bobl roi gwybod i’w teulu i helpu i wneud yn siŵr bod eu bod yn cefnogi eu penderfyniad pe bai nyrs arbenigol mewn ysbyty yn gofyn iddynt am roi organau. Pan fyddwn yn cysylltu â theulu, bydd 9 o bob 10 teulu yn cytuno i roi organau os ydyn nhw’n gwybod bod aelod o’u teulu ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau ac wedi siarad am eu penderfyniad.

Er bod y gyfraith ynghylch rhoi organau wedi newid bellach ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, byddwn yn parhau i ymgynghori ag aelodau o’r teulu cyn i’r broses o roi organau fynd rhagddi. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n dal yr un mor bwysig ag erioed i gofrestru eich penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau y GIG a sicrhau bod eich ffrindiau a’ch teulu yn gwybod beth rydych chi ei eisiau.

Dywedodd Judith Hardisty, Is-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Chadeirydd ei Bwyllgor Rhoi Organau: “Mae gwybod beth mae eich perthynas ei eisiau, yn helpu teuluoedd i gefnogi eu penderfyniad ynghylch rhoi organau ar adeg sy’n aml yn anodd.

“Mae gwybod beth oedd eich perthynas yn ei ddymuno yn helpu teuluoedd i gefnogi penderfyniadau ynghylch rhoi organau ar adeg sy’n anodd yn aml.

“Mae angen i ragor o bobl i gofrestru eu penderfyniad a siarad â’u hanwyliaid am roi organau, er mwyn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen arnynt i gefnogi eu penderfyniad ynghylch rhoi organau.”

Nawr, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn i bobl ar draws yr ardal ddweud wrth eu teulu eu bod yn dymuno rhoi organau ar ôl marw i wneud yn siŵr bod rhagor o fywydau’n gallu rhoi y rhodd o fywyd.

Dywedodd Anthony Clarkson, Cyfarwyddwr Rhoi a Thrawsblannu Organau a Meinwe, Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG: “Rydyn ni’n ni’n ddiolchgar iawn i Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am ei gefnogaeth yn ystod Wythnos Rhoi Organau.

“Bob dydd ledled y DU, mae miloedd o gleifion a’u teuluoedd yn aros am yr alwad bwysig honno sy’n achub bywydau. Ac eto, yn aml dim ond oherwydd bod teulu arall yn derbyn newyddion trist y mae hyn yn bosibl.

“Gyda’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n aros am drawsblaniadau, mae’n bwysicach nag erioed i gofrestru eich penderfyniad i roi organau a’i wneud yn hysbys i’ch teulu a’ch ffrindiau.

“Rydyn ni’n annog pawb o bob oed i dreulio ychydig o amser yn cofrestru yn ystod Wythnos Rhoi Organau eleni, gan rannu eich penderfyniad.”

I gael gwybod mwy ac i gofnodi eich penderfyniad, ewch i Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG yn www.organdonation.nhs.uk (agor mewn dolen newydd) a rhannu eich penderfyniad â’ch teulu.