Neidio i'r prif gynnwy

Plannu gyda'n gilydd er mwyn dyfodol ein plant

Mae gwirfoddolwyr yn cael eu gwahodd i greu coetir yng Ngogledd Sir Benfro trwy gymryd rhan mewn diwrnod o blannu coed.

Nod yr achlysur yng Nghas-blaidd yw plannu 1,000 o goed mewn amryw oriau i gynrychioli nifer y babanod sy’n cael eu geni bob blwyddyn yn y sir.

Bydd y diwrnod plannu coed gan wirfoddolwr ar ddydd Iau, 19eg Mawrth rhwng 10am a 3pm.

Canlyniad cydweithrediad yw’r achlysur rhwng nifer o sefydliadau partner dan arweiniad Tir Coed, elusen sy’n cyflwyno gweithgareddau addysg a ffyniant i bobl dan anfantais.

Dywedodd Adam Dawson, cydgysylltydd Tir Coed yn y sir, y byddai’r diwrnod hefyd yn cyfleu neges amgylcheddol gref.

“Os ydym eisiau atebion i newid yn yr hinsawdd, dinistrio cynefinoedd a difodiant rhywogaethau, os ydym eisiau dyfodol cadarnhaol i’n plant a’n planed, rhaid i ni gydweithio - a hynny heddiw.”

Gofynnir i wirfoddolwyr gyfarfod yng nghilfan yn Nant-y-Coy Mill (cod post SA62 5LR) a dod â rhaw os oes ganddynt un. Y cyngor iddynt hefyd yw gwisgo dillad cynnes sy’n dal dŵr ac esgidiau addas.

Rhoddwyd y tir ar gyfer y plannu gan Gyngor Sir Penfro tra bo Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cael hyd i wirfoddolwyr i blannu a chynnal y coed.

Yn cyd-daro â Diwrnod Cynaliadwyedd y GIG, mae’r achlysur hefyd yn rhoi cyfle i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ymgysylltu â rhieni newydd ar faterion cynaliadwyedd a buddiannau mynediad i’r amgylchedd naturiol i iechyd a ffyniant.

Coed Cadw sy’n cael hyd i’r coed a bydd y tir yn cael ei baratoi a’i gynnal gan fusnes Cig Oen Sir Benfro o Hook.

Mae arian ar gyfer y prosiect yn dod o Bartneriaeth Natur Sir Benfro gyda chymorth cronfa Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Llywodraeth Cymru, a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

 

  • Bydd diodydd poeth a bwyd yn cael eu darparu i wirfoddolwyr. I gadarnhau presenoldeb a gofynion o ran lluniaeth, e-bostiwch Tom Moses yn tomm@pembrokeshirecoast.org.uk