Neidio i'r prif gynnwy

Penodi nyrs arbenigol i wella ymwybyddiaeth a diagnosis o endometriosis

Bocs glas gyda geiriau datganiad i

20 Mai 2022

Mae rôl arbenigol newydd i godi ymwybyddiaeth a gwella diagnosis o endometriosis wedi cael ei chreu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Gall endometriosis, sy'n effeithio ar un o bob deg menyw, achosi poen ac anghysur difrifol i'r rhai y mae'r cyflwr yn effeithio arnynt.

Daw Samantha Robinson â chyfoeth o brofiad nyrsio i’r swydd, ar ôl arbenigo mewn rolau bydwreigiaeth a ffrwythlondeb yn flaenorol.

Gall cleifion sy'n profi symptomau endometriosis neu boen pelfig arall gael eu cyfeirio at y gwasanaeth gan eu meddyg teulu. Pan gaiff cleifion eu hatgyfeirio i'r system, bydd Sam yn gweld cleifion yn ei chlinig dan arweiniad nyrs.

Bydd yr ymgynghoriad cychwynnol yn cynnwys adolygiad o hanes clinigol, yn cwmpasu patrymau cylchred mislif, gwybodaeth iechyd rhywiol, hanes teuluol a rheoli poen.

Gall cleifion gael eu cyfeirio at wasanaethau eraill fel ffrwythlondeb, timau poen arbenigol, ffisiotherapi iechyd y pelfis, iechyd rhywiol, rheoli pwysau a gwasanaethau therapi seicorywiol. Rhoddir cyngor ar driniaethau hormonaidd y gellir eu cynnig i helpu i reoli'r cyflwr hwn a gellir cyfeirio cleifion at adnoddau eraill i gael cymorth.

Nod Llywodraeth Cymru yw i Sam a’r nyrsys endometriosis eraill ledled Cymru gydweithio’n agos â gofal sylfaenol i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr hwn. Drwy ddatblygu llwybrau clir, y gobaith yw y bydd cleifion yn cael cyngor a thriniaeth yn gynt.

Bydd Sam hefyd yn gweithio gyda’r gwasanaeth nyrsio mewn ysgolion i godi ymwybyddiaeth o fewn systemau addysg bellach.

Dywedodd Sam “Mae endometriosis yn gyflwr cronig sy’n gallu effeithio’n ddifrifol ar ansawdd bywyd merch. Mae'n hanfodol bwysig felly bod diagnosis amserol yn cael ei wneud er mwyn osgoi cymhlethdodau pellach.

“Gydag iechyd y pelfis yn uchel ar yr agenda wleidyddol, mae’n amser da i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr hwn ac rwy’n teimlo’n freintiedig i allu chwarae rhan yn hyn ynghyd â’m cydweithwyr ledled Cymru.”

Ychwanegodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rwyf wrth fy modd ag apwyntiad Sam a fydd yn galluogi menywod i gael mynediad at gyngor a chymorth arbenigol tosturiol ar draws rhanbarth Hywel Dda.

“Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cyllid i wneud y swydd hon yn bosibl.

“Gyda chymorth Sam rwy’n gobeithio y bydd menywod yn cael y cymorth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt i reoli eu poen a chanlyniadau gwell i’r rhai sy’n aros am ddiagnosis a thriniaeth.”

Mae Samantha yn un o saith nyrs a fydd yn cael eu penodi i’r rôl hon ledled Cymru.

Gwnaed y penodiadau drwy’r Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018, gyda chyllideb o hyd at £1m y flwyddyn i gyflawni cynlluniau i wella gwasanaethau iechyd menywod.

Mae pob nyrs bellach yn eu lle a byddant yn treulio amser gyda chleifion a chlinigwyr i wella gwasanaethau. Byddant hefyd yn cydweithio i rannu arfer gorau a sicrhau lefel gyson o wasanaethau ledled Cymru.