Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

28 Medi 2023

Yn gynharach eleni, rhannodd Miss Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ei bwriad i ymddeol ar ddiwedd ei chyfnod yn y swydd.

Eglura Miss Battle: “Daeth fy nghyfnod fel Cadeirydd Hywel Dda i ben ym mis Awst eleni, ond er mwyn sicrhau parhad yn y rôl wrth i mi gamu i mewn i ymddeoliad, rwyf wedi, mewn trafodaeth â’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS, cytunwyd y byddaf yn aros yn fy swydd fel Cadeirydd tan ddiwedd mis Hydref 2023.

“Bu’n anrhydedd gwasanaethu fel Cadeirydd y Bwrdd Iechyd yn enwedig yn ystod y pandemig byd-eang, a gweithio ochr yn ochr â’n staff ymroddedig ac Aelodau’r Bwrdd sy’n gweithio’n ddiflino bob dydd i sicrhau iechyd a gofal ein cleifion a’n poblogaeth ac i gyflawni ein strategaeth uchelgeisiol.

“Mae hwn yn gyfnod anhygoel o anodd i’r GIG ac yn enwedig yn Hywel Dda. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wasanaethu ein poblogaeth ac ar yr un pryd i wthio am gyflawni ein strategaeth, sy’n cynnwys ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd sydd ei angen arnom, yn enwedig gyda’r materion RAAC yn Ysbyty Llwynhelyg a chyflwr dirywiol Ysbyty Glangwili.

“Rwy’n annog unigolion sydd â diddordeb mewn cefnogi uchelgeisiau ein Bwrdd Iechyd yn y dyfodol a gwneud gwahaniaeth i ymgeisio am swydd Cadeirydd.”

Mae Maria wedi cael gyrfa hir a disglair ac ymunodd â Hywel Dda fel Cadeirydd yn 2019, yn dilyn wyth mlynedd fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae gweithio gyda Maria wedi bod yn bleser – mae hi wedi gwasanaethu ein poblogaeth ac wedi cefnogi ein staff gyda’r urddas a’r gras mwyaf ac mae caredigrwydd wedi bod yn greiddiol iddi erioed. Byddwn yn gweld eisiau ei harweinyddiaeth a’i gallu i gysylltu â holl aelodau ein cymuned, yn ogystal â’n staff a’n cleifion.

“Diolch, Maria, am bopeth rydych chi wedi’i wneud i arwain ein bwrdd iechyd a chymunedau canolbarth a gorllewin Cymru – mae pawb yn Hywel Dda yn dymuno’n dda i chi wrth i chi gamu i mewn i ymddeoliad.”

Mae penodiadau Aelodau Bwrdd Annibynnol i fyrddau iechyd yn benodiadau cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru. Anogir unigolion sydd â diddordeb mewn gwneud cais am rôl y Cadeirydd i wneud cais yn:  Penodiadau Cyhoeddus - Llywodraeth Cymru (tal.net)