Neidio i'r prif gynnwy

"Peidiwch ag aros. Mwynhewch eich bywyd i'r eithaf" meddai Sarah, goroeswr canser

Mae dynes o Lanymddyfri a oroesodd ganser yn dilyn diagnosis ar ddechrau’r pandemig yn annog pobl i beidio â gadael i ofn coronafeirws eu hatal rhag derbyn cymorth.

Dywedodd Sarah Portsmouth, 50, sydd wedi trechu canser ar ôl cael triniaethau yn ystod pandemig Covid-19, mai'r peth gorau yw ceisio cymorth.

Meddai: “Er bod pethau’n anodd ar hyn o bryd; byddant yn gwella. Pwrpas yr holl ofal a thriniaeth a phopeth sy'n digwydd o'ch cwmpas yw sicrhau y bydd dyddiau gwell i ddod. "

“Rhaid bod gennych elfen ychwanegol o wytnwch i fynd i'r ysbyty ar eich pen eich hun, gan wybod nad ydych chi'n mynd i weld eich anwyliaid eto nes iddyn nhw ddod i’ch casglu. Fodd bynnag, dylech gael meddwl agored am eich sefyllfa ac ymddiriedaeth fod popeth wedi'i addasu a bod gweithdrefnau wedi'u rhoi ar waith i chi dderbyn gofal yn y ffordd fwyaf diogel a phosib. "

Dechreuodd taith Sarah fis Ionawr diwethaf, pan ddatgelodd ymchwiliadau yn dilyn apwyntiad meddyg teulu fod ganddi syst ofarïaidd fawr.

Roedd cynlluniau ar waith i Sarah dderbyn hysterectomi yn Ysbyty Singleton, fodd bynnag, gohiriwyd pob llawdriniaeth nad oedd yn argyfwng oherwydd y pandemig.

Yn ffodus, roedd partneriaeth rhwng Bae Abertawe a Hywel Dda yn golygu bod llawfeddygon Bae Abertawe yn gallu cyflawni gweithdrefn Sarah yn Ysbyty Glangwili.

Meddai: “Roedd yn frawychus meddwl am fynd i ysbyty tra bod y feirws o gwmpas ond pan gyrhaeddais yno, sylweddolais fod y cyfan wedi'i reoli mor dda ac roeddwn i'n teimlo'n dawel fy meddwl. Roedd staff yn gwisgo Offer Amddiffyn Personol (PPE) a byddent yn ei newid bob tro y byddai nyrs yn gweld claf. Gwnaeth hyn i mi deimlo'n dawel fy meddwl, roeddwn bob amser yn teimlo'n ddiogel iawn. "

“Mae'r nyrsys yn hyfryd, gan eu bod nhw'n gwybod eich bod chi heb berthnasau. Maent yn darparu gofal emosiynol yn ogystal ag ar gyfer eich llesiant corfforol. Mae'n anhygoel yr hyn maent yn ei wneud, a sut maent yn addasu i unrhyw sefyllfa. ”

Derbyniodd Sarah chwe chylch o gemotherapi, a datgelodd profion ei bod yn rhydd o ganser ym mis Hydref 2020. Er ei bod yn dal i wella o’i salwch, dywedodd Sarah mewn cyfweliad diweddar â BBC Radio 5 live ei bod yn dechrau cael ychydig o fywyd o’r diwedd.

Dywedodd yn ei chyfweliad: “Ofn ac euogrwydd yw’r prif resymau pam mae pobl yn ofni cael help. Ond rhaid i chi beidio â gadael i ofn eich rhwystro chi oherwydd mae pawb nawr, yn fwy nag erioed yn canolbwyntio ar ofalu am yr unigolyn hwnnw. Mae popeth wedi cael ei ystyried a'i sefydlu ar eich cyfer fel nad oes raid i chi boeni na meddwl. Rhaid i chi beidio â theimlo'n euog chwaith, mae'r gwasanaethau yno gyda'r pwrpas o helpu pobl sydd ei angen. Cofleidiwch ef a byddwch yn teimlo'n ddiogel ac yn derbyn gofal da iawn. "

Cafodd brawd Sarah, Stuart, 60, ddiagnosis o ganser yn gynnar ym mis Chwefror 2020 ar ôl dioddef â phoenau stumog o’r hyn yr oedd yn credu oedd yn rywbeth dros dro. Cafodd gemotherapi a hefyd Imiwnotherapi trwy gydol y flwyddyn, ond yn anffodus collodd ei frwydr gyda'r salwch pan ddatblygodd canser ar ei iau, a bu farw ym mis Chwefror 2021.

“Rwy’n wirioneddol ffodus, ond o fewn yr un teulu rydym wedi cael yr eithaf arall gyda fy mrawd. Roedd yn graig i mi. Mae ei golli yn fy wneud yn benderfynol o wneud y gorau o'r hyn sydd gen i. Byddaf yn cychwyn eto ac yn mwynhau bywyd ac yn gwerthfawrogi'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn fyw. ”

“Trwy gydol y ddwy siwrnai cawsom gefnogaeth anhygoel. Hyd yn oed gyda Covid, addaswyd y gofal a gafodd i weddu orau i'w anghenion, boed hynny gartref neu yn yr ysbyty. Ni waeth beth yw'r canlyniad mae gweithrefnau wedi'u rhoi ar waith gyda'r ffocws o'ch helpu i dderbyn gofal yn y ffordd fwyaf diogel ac effeithiol "

Dywedodd Jegadish Mathias, Arweinydd Canser ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Er ein bod yn deall y gallai cleifion deimlo’n bryderus i ddod i mewn i ysbytai yn ystod y pandemig, hyderwch fod gennym y gweithdrefnau cywir ar waith i sicrhau bod cleifion yn cael eu hamddiffyn. Mae taith Sarah yn dangos i bob un ohonom pa mor hanfodol yw hi bod pobl yn parhau i dderbyn gofal; byddwn yn gwneud pob ymdrech yma yn Hywel Dda i sicrhau cadwraeth bywyd a iechyd. ”

Mae Ymchwil Canser Cymru wedi lansio'r ymgyrch #GwiriwchEf ar 24 Mawrth 2021, i annog unrhyw un sydd ag arwyddion a symptomau canser sy'n peri pryder i ofyn am gymorth gan eu meddyg. I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ewch i: https://www.gwiriwchef.cymru/