Neidio i'r prif gynnwy

"Peidiwch â bod ofn cael help," meddai Sarah, sydd wedi goroesi canser

Mae menyw o Lanymddyfri a gafodd ddiagnosis o ganser ar ddechrau'r pandemig COVID-19 ac sydd wedi cael triniaeth trwy gydol y cyfnod cloi, yn annog pobl i beidio â bod ofn cyrchu'r gofal sydd ei angen arnynt.

Dywedodd Sarah Portsmouth, 49, ei bod yn teimlo yn “ofnus” i ddechrau o fynd i Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn fuan ar ôl i’r cyfnod cloi ddechrau, ond ychwanegodd ei bod yn teimlo’n dawel ei meddwl ac yn hyderus am y mesurau atal a rheoli heintiau yr oedd yr ysbyty wedi’u cyflwyno.

Ychwanegodd: “Roedd fel ein bod ni mewn cocŵn diogel, amgylchedd ddiogel iawn. Cafodd ei reoli yn dda iawn. ”

Dechreuodd taith Sarah ym mis Ionawr pan aeth i weld ei meddyg teulu oherwydd ei bod yn credu ei bod wedi cael adwaith i’w meddyginiaeth diabetes. 

Ym mis Chwefror cafodd ymchwiliadau pellach ac uwchsain, a ddatgelodd fod ganddi syst ofarïaidd fawr, gyda meddygon yn argymell ei bod yn cael hysterectomi yn Ysbyty Singleton yn Abertawe.

Fodd bynnag, cyn y gallai Sarah gael ei llawdriniaeth, roedd yn rhaid gwneud newidiadau brys oherwydd y pandemig gyda llawfeddygaeth ddi-argyfwng wedi'i ohirio ym mhob ysbyty gan gynnwys Singleton. Yn ffodus, roedd cydweithio rhwng Bae Abertawe a Hywel Dda yn golygu bod llawfeddygon Bae Abertawe wedi gallu cyflawni triniaeth Sarah yn Ysbyty Glangwili yn lle, ac ers hynny mae Sarah wedi treulio 10 wythnos yn gwella ac yn cael triniaeth cemotherapi.

Meddai: “Cefais ddyddiad o 6 Ebrill ar gyfer y lawdriniaeth a dyna'r tro cyntaf i mi fod yn ôl i Glangwili ers dechrau’r cyfnod cloi.

“Roedd staff yn gwisgo masgiau a ffedogau a menig a phob tro y byddai nyrs yn dod i weld claf roedd yn rhaid iddynt newid eu Offer Amddiffyn Personol (PPE) yn gyntaf mewn ardal y tu allan i'r ward a rhoi offer glân arno. Fe wnaeth i mi deimlo'n dawel fy meddwl, roeddwn bob amser yn teimlo'n ddiogel iawn.

“Roedd yn frawychus meddwl am fynd i ysbyty pan bod y firws hwn o gwmpas ond pan gyrhaeddais yno sylweddolais fod y cyfan wedi'i reoli mor dda ac roeddwn i'n teimlo'n dawel fy meddwl."

Yr wythnos hon mae Sarah yn dechrau ei hail gylch o gemotherapi gyda disgwyl i'w chweched a'r un olaf ddechrau mis Medi. 

Ychwanegodd: “Y peth pwysig iawn yw peidio â dychryn. Mae wedi'i reoli mor dda. Mae yna lawer y gellir delio ag ef dros y ffôn ond pan na allwch wneud hynny ac mae angen i chi gael y rhyngweithio wyneb yn wyneb hwnnw, mae'r cyfan wedi'i reoli cystal, maen nhw'n eich amddiffyn chi ac yn sicrhau eich bod chi'n cael y gofal a'r driniaeth sydd eu hangen arnoch chi.

“Mae pwysigrwydd mynd i mewn yn gorbwyso popeth arall. Mae amser yn gwbl hanfodol; allwn ni ddim aros i'r peth hwn chwythu drosodd, felly rydw i wir eisiau dweud y dylai unrhyw un sydd angen gofal fynd amdani - p'un a oes angen i chi weld meddyg teulu os ydych chi'n poeni am rywbeth, neu fynd i'r ysbyty am brofion a thriniaeth - ewch amdani. ”

Ychwanegodd Gina Beard, Nyrs Ganser Arweiniol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn deall yn llwyr y gallai llawer o’n cleifion fod yn teimlo’n bryderus ynglŷn â dod i mewn i’r ysbyty i gael eu triniaeth, ond mae’n gwbl hanfodol bod pobl yn parhau i gael mynediad at ofal pan fo angen. Yr hyn y mae stori Sarah yn ei ddangos yw nad oes angen i chi ofni; mae pob un o'n hysbytai wedi cyflwyno newidiadau i helpu i amddiffyn cleifion ac mae pob un o'n nyrsys canser yn gweithio yn eu rolau arferol. Rydyn ni dal yma i chi. “