Neidio i'r prif gynnwy

Paul Makin ar restr fer Gweithiwr Maeth Cymunedol Proffesiynol y Flwyddyn

16 Mehefin 2022

Mae deietegydd sydd wedi helpu i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i bobl yn ein cymunedau, gan gynnwys y rhai mewn cartrefi gofal, angen eich pleidlais i ennill gwobr genedlaethol.

Mae Paul Makin, 37 o Dre-gŵyr, yn Ddietegydd Arweiniol Cymorth Maeth Cymunedol, y mae ei gyfraniad a’i waith o fudd i bobl yn Sir Gaerfyrddin, wedi’i enwebu a’i roi ar restr fer ar gyfer Gweithiwr Maeth Proffesiynol Cymunedol y Flwyddyn gan ei gydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Enwebwyd Paul am sawl rheswm, ac un o'r rhain oedd ei ddatblygiad o hunan-sgrinio am ddiffyg maeth trwy gyfrwng cod QR sy'n arwain cleifion at blatfform gwybodaeth maeth. Mae'r cod QR yn darparu adnodd digidol hawdd i'r cyhoedd, cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y gallant ei sganio os ydynt yn pryderu am eu statws maeth eu hunain neu statws maeth eraill.

Mae Paul wedi cefnogi’r tîm i dreialu gwasanaeth cymorth cartref gofal rhithwir i alluogi’r bwrdd iechyd i gyrraedd cleifion mewn cartrefi gofal yn ystod anterth y pandemig pan oedd mynediad wedi’i gyfyngu i’r ardaloedd hyn. Mae Paul hefyd ar hyn o bryd yn astudio cymhwyster meistr a thrwy hyn mae’n datblygu gweithdrefn weithredu safonol ar gyfer y tîm dieteteg cymunedol o fewn y bwrdd iechyd. Bydd hyn yn helpu'r tîm, sy'n gweithio ar bedwar safle ysbyty.

O ran ei enwebiad dywedodd Paul “Roeddwn wrth fy modd o glywed am fy enwebiad, roedd yn gwbl annisgwyl ond yn cael ei werthfawrogi’n fawr. Ni allaf ddiolch digon i'r tîm dieteteg cymunedol am eu holl waith caled a'u cyfraniad at gefnogi ein prosiectau gwella ansawdd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly, i mi, mae’r enwebiad hwn yn adlewyrchu ymdrechion a chyfranogiad ein timau cymunedol ar draws y safleoedd. Fel arweinydd clinigol sydd wedi ymuno â bwrdd iechyd newydd, mae’n galonogol gwybod, er gwaethaf yr holl heriau a brofwyd yn ystod COVID, bod ein gwaith caled wedi’i gydnabod. Fel gwasanaeth cymunedol, rydym yn gweithio’n galed i wella llif cleifion i sicrhau bod y rhai sydd â’r anghenion mwyaf yn cael y gofal sydd ei angen arnynt mewn modd amserol.”

Dywedodd Victoria Prendiville, Dirprwy Bennaeth Dieteteg, “Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Paul wedi troi heriau yn gyfleoedd ac wedi arwain ein tîm cymunedol i ddatblygu gwaith gwella ansawdd arloesol ac ysbrydoledig. Gyda'r holl brosiectau hyn mae gan Paul ymagwedd drefnus a chynhwysol, mae'n dangos ymroddiad ac mae'n hyrwyddwr newid. Fel gwasanaeth rydym yn hynod ddiolchgar am ei ymrwymiad parhaus i ofal cleifion, arloesi a newid gwasanaethau, a'i ymroddiad i Ddeieteg. Rydym yn hynod falch o’i gyflawniadau a llwyddiannau’r tîm o’i gwmpas.”

Mae pleidleisio ledled y DU bellach ar agor tan 21 Gorffennaf. Pleidleisiwch i Paul yma (agor yn ddolen newydd).