Neidio i'r prif gynnwy

Paratoadau ar y gweill ar gyfer Ward 10 ar ei newydd wedd

Ward 10 yn cael ei hadeiladu

Mae gwaith adeiladu a pheirianyddol ar y gweill fel rhan o’r prosiect i foderneiddio ac adnewyddu Ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg.

Dechreuodd y gwaith adeiladu ar y prosiect ym mis Ebrill 2019 ac mae cynnydd da i’w weld bellach. Er bod rhywfaint o’r gwaith cynnar wedi cymryd bach yn hwy na’r disgwyl, mae Bwrdd Iechyd prifysgol Hywel Dda yn cadarnhau bod disgwyl gorffen y gwaith yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Yn y cyfamser, mae cleifion Ward 10 yn cael eu gofal yn ardal Ward 9.

Gan weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol, mae’r Bwrdd Iechyd yn awyddus i sicrhau bod y cyfleuster hwn yn cryfhau gwasanaethau ac yn darparu amgylchedd gwell a phrofiad gwell i gleifion mewnol. Mae’n gyfleuster modern a phwrpasol lle y gellir gofalu am gleifion dynodedig oncoleg ac haematoleg, a’r rhai hynny sydd ag anghenion gofal lliniarol cymhleth.

Yn ardal Ward 10 ar ei newydd wedd bydd pum gwely sengl gydag en-suite er preifatrwydd yn ystod gofal ac hefyd er mwyn cleifion sepsis niwtropenig a’r rhai hynny sydd angen eu hynysu. Yn ogystal, bydd baeau llai (2 fae gyda 4 gwely ac 1 bae gyda 3 gwely), bydd gwelliant i gyfleusterau dros nos ar gyfer perthnasau a bydd ystafell ddydd/fwyta ar gyfer cleifion. Bydd hefyd cyfleuster cyfarfod a fideo-gynadledda penodol ar gyfer y tîm aml-ddisgyblaethol, yn ogystal â storfa er mwyn cynnal amgylchedd mwy diogel ac er mwyn bodloni’r safonau atal heintiau a diogelwch tân perthnasol.

Er bod mwyafrif yr arian ar gyfer y datblygiad yn dod o Lywodraeth Cymru, mae dros £500,000 o roddion elusennol yn cyfrannu tuag at y cynllun o Gronfa Gwasanaethau Canser Sir Benfro y bwrdd iechyd, Apêl Baner Ward 10 Elly a rhoddion sylweddol gan y diweddar Luke Harding a’i deulu.

Meddai Dr Andrew Burns, Cyfarwyddwr Ysbyty Llwynhelyg: “Mae cynrychiolwyr codi arian, elusen a phartner yn y gymuned leol yn rhan annatod o ddatblygiad y prosiect hwn. Rydym yn gwerthfawrogi pob yr un ohonynt ac yn diolch iddynt am eu cefnogaeth a’u cyfranogiad parhaus.”

Meddai Lyn Neville, tad Elly: "Rydym yn hynod falch o lwyddiannau Apêl Baner Ward 10 Elly. Bellach mae wedi codi dros £208,000 ar gyfer cleifion canser ar Ward 10, a dymunwn ddiolch i bob un sydd wedi cefnogi’r apêl ac wedi rhoi annogaeth dros y pedair blynedd a hanner ddiwethaf. Rydym yn gyffrous iawn bod yr holl waith caled bron dwyn ffrwyth gydag agoriad y ward a rei newydd wedd yn y Flwyddyn Newydd. Bryd hynny, bydd cleifion yn cael eu gofal a’u triniaeth a staff yn gweithio mewn amgylchedd llawer gwell a mwy cyffyrddus.”

Dywedodd y teulu Harding: “Mae’r arian a godwyd o ymdrechion a ddechreuwyd gan Luke Harding pan gafodd ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint a’r ymennydd wedi’i glustnodi, yn unol â’i ddymuniad, tuag at y cyfleusterau newydd ar Ward 10 Ysbyty Llwynhelyg. Cafodd Luke ei driniaeth ar Ward 10, a’i weledigaeth ar gyfer y Ward 10 newydd yw cyfleuster sydd, wrth gwrs, yn darparu gofal meddygol hanfodol, ond sydd hefyd yn darparu ardaloedd anfeddygol i gleifion a’u teuluoedd allu ymlacio ynddynt – mae hyn yn hanfodol er mwyn cynnal ansawdd bywyd, llesiant, urddas personol a chymaint o normalrwydd â phosib.

“Daeth cyfraniadau o ledled byd, gan bobl oedd yn ei nabod ac eraill nad oeddent – pob un ohonynt wedi’u cyffwrdd gan ei anhunanoldeb, ei ddidwylledd a’I bendantrwydd i wneud gwahaniaeth. Rydym ni fel #teamharding yn bles iawn bod hyn wedi’i gydnabod.”

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cyd-weithio’n agos â rhanddeiliaid i nodi ffyrdd arloesol i wella profiad y claf yn sylweddol ar Ward 10, yn cynnwys ymgysylltu â chodwyr arian a chyfranyddion, aelodau o Grŵp Rhanddeiliaid Ward 10 (yn cynnwys y Cyngor Iechyd Cymuned), cleifion, staff Ward 10, tîm rheoli’r ysbyty a grwpiau staff allweddol eraill. Mae’r gwelliannau’n cynnwys pethau fydd yn gwneud arhosiad mewn ysbyty yn fwy cyffyrddus i’r claf, gan gynnwys mwy o gysuron cleifion, gwella amgylchedd y ward yn gyffredinol, offer arbenigol, hyfforddiant staff a thechnoleg.

Meddai Nicola Zroud, Prif Nyrs y Ward: “Bydd ein cleifion a’n staff yn elwa cymaint o’r gwelliannau i’r ward, a fyddai wedi bod yn amhosib heb haelioni anhygoel ein codwyr arian a chyfranyddion. Rydym yn ddiolchgar dros ben i bob un sydd wedi bod yn rhan o hyn ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at ail-agoriad y ward.”