13/09/2021
Dywed Caplan Hywel Dda ei bod yn dda siarad am ein teimladau i reoli’r effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar ein hiechyd meddwl.
Mae Euryl Howells yn pwysleisio ym mhennod podlediad yr wythnos hon, bwysigrwydd gofalu am ein teimladau ein hunain ac eraill trwy ddefnyddio sianeli bwrdd iechyd i gael cefnogaeth.
“Os ‘dyn ni’n meddwl am y gair ‘caru’ ac yn mynd ymlaen at y dyfodol, mae’n rhaid inni ddangos ein bod ni’n garedig. Yn garedig i’n hunain.
“Mae’n bwysig bod ni’n adlewyrchu lle ‘dyn ni wedi bod, beth sydd wedi digwydd i ni, ac i berchnogi y teimladau yna.
“Ry’n ni’n unol, ry’n ni’n un gymuned bwrdd iechyd dros tair sir.
“Os ydyn ni i gyd yn edrych ar ôl ein gilydd, yn caru’n gilydd, yna gobeithio, byddwn ni’n gallu mynd ymlaen i’r dyfodol yn fwy iachus.”
Cafodd Euryl ei ysbrydoli i ddod yn gaplan gofal iechyd wrth gwblhau lleoliad yn Ysbyty Santes Mair yn Paddington ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.
“O’n i’n gweld bod y gwaith yn amrywiol ac yn ddiddorol, ac mae gweithio yn y byd seciwlar gyda chleifion, staff a teulu o bob ffydd a hedd, o gwahanol dras a diwylliant.
“O fewn sefydliad lle mae ‘na dipyn o ansicrwydd, ma’ ‘na heriau, a gorfod gwneud rhyw benderfyniade ar amrantiad yn aml iawn, ac eisiau dod ag ychydig o oleuni.
“Nid yn gymaint i ddod ag esboniad ac i estyn allan gydag ateb nac i farnu, ond i fod yn eithaf niwtral.
“Dydy Caplan ddim yn feddygol, ddim yn glinigol, ond yn gallu cydnabod y trasiedi a’r trawma sydd yn cyffwrdd pobl pan ma’ afiechyd neu damwain yn dod.
“Mae Caplaniaeth yn ddealltwriaeth o fod gyda rhywun ar y daith i ddod ochr yn ochr gyda nhw, a fel mae’r gair Caplan yn llythrennol yn golygu yn Lladin, clogyn yn y storm.
Daeth Euryl i weithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn 2010, ar ôl cwblhau lleoliad dwy flynedd yng Nghaerwysg fel Uwch Gaplan.
“Mae’r 18 mis diwethaf ‘ma wedi bod yn rhywbeth nad oes neb wedi’i weld o’r blaen, a ‘da ni wedi bod yn dysgu o sut i ddydd sut i ddelio gydag e yn y ffordd orau posibl.
“Am y tro cyntaf o’n i’n gweithio gyda’r cleifion ar ben ein hunain, ac yn cysylltu gyda’r teulu a ffrindiau dros y teleffon.
“Oedd hynny’n heriol yn ei hunain mewn un ffordd oherwydd ma’ gwynebu a chael sgwrs wyneb yn wyneb llawer yn haws o’r ddwy ochr.
“Ry’n ni wedi cael yr hawl i fynd ochr yn ochr gyda phobl a dwi wedi sylweddoli sut gallen ni gwneud ein gwaith.
“Os oedd mam yn esgor oedd wedi colli plentyn neu os oedd rhywun wedi cael rhyw ddiagnosis difrifol, fydden ni ddim wedi gallu’u cynnal nhw yn yr un ffordd dros y ffôn.
“Mae bod yno, gweld eu teimladau nhw, wedi bod o help i bawb dwi’n meddwl.
“Does dim un ohonon ni sy’n gweithio yn gofal iechyd wedi’i wnedu o haearn, y’n ni’n bobl o gig a gwaed, ac mae’n galwedigaeth ni’n golygu bod ni eisiau bod ochr yn ochr a’r cleifion a gyda’r teulu.”
Neges allweddol Euryl ar gyfres podlediad yr wythnos hon yw bod yn rhaid i ni i gyd barhau i wneud ein rhan i atal y firws rhag lledaenu.
“Dwi’n credu bod rhaid i ni fel pobl sylweddoli bod y feirws yma yn rhywbeth sydd yn mynd i fod gyda ni falle am flynyddoedd.
“Rydyn ni’n gorfod delio gyda’r hyn sydd yn digwydd nawr yn ogystal â’r hyn sydd ddim wedi cael ei wneud ac er mwyn bod pobl yn cael yr ansawdd bywyd gorau.
“Dyna pam mae’n rhaid i ni fod yn ofalus… os ydw i yn sicrhau bo’ fi ddim yn lledu fe yna bydd y gwasanaeth yn cario ‘mlaen a darparu’r gwasanaeth gorau at y dyfodol.”
Ymweld a tudalen IAWN y bwrdd iechyd (yn agor mewn tab newydd) am fwy o gwybodaeth a ffynhonellau ar iechyd meddwl a lles.
Gwrandewch i podlediad llawn Euryl yma (yn agor mewn tab newydd).