20 Tachwedd 2026
Cafodd chwech o nyrsys lleol eu cydnabod yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn y Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru – gwobrau sy’n fawreddog iawn – a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ddydd Iau, 19 Tachwedd 2026.
Eleni, llwyddodd nyrsys o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ennill mewn dau gategori a dod yn ail mewn pedwar categori arall. Llongyfarchiadau mawr i:
Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf yn y Bwrdd Iechyd: “Rwy’n hynod falch o weld ein cydweithwyr nyrsio a bydwreigiaeth yn cael eu cydnabod yn y digwyddiad mawr a nodedig hwn.”
“Mae’r gwobrau’n cynnig cyfle gwych i’n nyrsys, bydwragedd, gweithwyr cymorth a myfyrwyr arddangos y gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud i fywydau ein cleifion, a’r gwaith caled maen nhw’n ei wneud ddydd ar ôl dydd.
“Hoffwn gynnig fy llongyfarchiadau cynhesaf i holl enillwyr a'r rhai a ddaeth yn ail eleni. Mae’n wir fraint gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol mor ymroddedig a thosturiol.”
Llongyfarchiadau i chi gyd, rydym yn hynod o falch o'ch cael chi yn ein teulu Hywel Dda.
DIWEDD