Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs Arbenigol Dementia wedi'i phenodi yn Ne Sir Benfro

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gweithio gyda Dementia UK, yr elusen nyrsio dementia arbenigol, i greu rôl Nyrs Admiral Arbenigol Dementia newydd yn ysbytai cymunedol Sir Benfro.

Bydd Nyrs Admiral newydd Rachel Wall yn gweithio gyda’r tîm amlddisgyblaethol i gefnogi gofalwyr a rhannu arfer gorau mewn gofal dementia ar y wardiau yn ogystal â chysylltu â darparwyr gwasanaethau statudol a gwirfoddol eraill ar draws y llwybr dementia.

Mae’r rôl hon yn ychwanegol at y Nyrs Admiral gwasanaeth cymunedol presennol a lansiwyd ym mis Mawrth 2021.

Mae dementia yn argyfwng iechyd enfawr sy’n tyfu, gyda 944,000 o bobl yn byw gyda’r cyflwr yn y DU – a disgwylir i’r nifer hwn gynyddu i 1.1m erbyn 2030.

Mae Nyrsys Admiral, sy’n cael eu cefnogi a’u datblygu’n barhaus gan Dementia UK, yn helpu teuluoedd i reoli anghenion cymhleth, gan ystyried y person sy’n byw gyda dementia a’r bobl o’u cwmpas. Maent yn darparu cymorth ac arweiniad sy’n newid bywydau i deuluoedd yr effeithir arnynt gan bob math o ddementia mewn cymunedau, ysbytai a hosbisau, ar y Llinell Gymorth Dementia genedlaethol am ddim, ac mewn clinigau.

Bydd gwasanaeth Nyrsio Admiral yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth i Ward Sunderland, Ysbyty De Sir Benfro a Ward Dinbych-y-pysgod, Park House Court. Bydd y gwasanaeth hefyd yn cefnogi trosglwyddiadau gofal; rhannu gwybodaeth berthnasol ar draws ffiniau gofal. Bydd yn sicrhau bod pontio gofal yn cael ei gydlynu, yn ddiogel, yn amserol, ac yn cynnwys gofalwyr.

Mae Ward Sunderland yn uned 40 gwely a arweinir gan nyrsys ac mae Ward Dinbych-y-pysgod yn uned 10 gwely. Mae'r ddwy ward yn cynnig asesiadau holistig, gofal nyrsio cyffredinol, adsefydlu, cynllunio rhyddhau, gofal lliniarol a diwedd oes. Mae'r tîm tra medrus yn gweithio'n gyson gydag unigolion, teuluoedd a gofalwyr i hybu grymuso a chyfranogiad gweithredol mewn gofal iechyd.

Dywedodd Elaine Lorton, Cyfarwyddwr Sirol Sir Benfro: “Rydym mor falch o groesawu Rachel Wall i Ward Sunderland a Ward Dinbych-y-pysgod, Park House Court fel Nyrs Admiral gan ddarparu lefel uwch o arbenigedd a chymorth i’n cleifion â dementia.

“Mae hwn yn fwlch yr ydym wedi sylwi arno ers peth amser a gyda’n poblogaeth yn Sir Benfro yn heneiddio, rydym yn falch o fod yn treialu’r rôl hon.

“Rydym yn gobeithio y bydd Rachel yn gallu rhannu ei harbenigedd gyda staff eraill y ward a thrwy hynny gynyddu ein dealltwriaeth o sut i ddarparu’r gofal gorau oll. Hi fydd y cymorth ychwanegol hwnnw nid yn unig i gleifion ond hefyd i deuluoedd a gofalwyr wrth iddynt drosglwyddo cartref.”

Dywedodd Charlie Duhig, Arweinydd Clinigol Nyrsio Admiral: “Rwy’n gyffrous iawn i weithio gyda Rachel i sefydlu’r gwasanaeth newydd hwn i gefnogi pobl yn yr ysbytai cymunedol.

“Mae Rachel wedi gweithio o’r blaen mewn amrywiaeth o wasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan gynnwys y tîm nyrsio ardal, hyfforddiant sgiliau clinigol, a’r ysbyty cymunedol. Mae hi'n angerddol dros ddarparu gofal dementia rhagorol. Bydd ei phrofiad helaeth yn adnodd gwerthfawr wrth gefnogi arfer gorau mewn gofal dementia a gweithio gyda gofalwyr ar y ward.”
Ychwanegodd Rachel: “‘Rwy’n gyffrous iawn i fod yn gweithio yn ein hysbyty cymunedol i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd pan fyddant ei angen fwyaf.

“Gall gofalu fod yn rôl straen a thrallodus ac fel Nyrs Admiral byddaf yno i gefnogi gofalwyr sydd ag anghenion cymhleth. Rwy’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â staff y ward i rannu arfer gorau a gwella gofal a chanlyniadau i’n cleifion sy’n byw gyda dementia.”

Dywedodd Dr Hilda Hayo, Prif Nyrs Admiral a Phrif Weithredwr Dementia UK: “Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau lleol sy’n cefnogi teuluoedd â dementia. Mae hyn wedi gadael llawer o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd ac yn methu ymdopi â neb i droi ato am gymorth.

“Mae Nyrsys Admiral yn deall yr heriau a wynebir gan deuluoedd â dementia; maent yn helpu pobl â dementia i aros yn annibynnol yn hirach ac maent yn cefnogi'r bobl sy'n gofalu amdanynt fel bod ganddynt y cryfder i ymdopi â'r dyddiau drwg a'r egni i fwynhau'r dyddiau da. Mae’n hollbwysig bod gennym fwy o Nyrsys Admiral ar draws Hywel Dda i gefnogi’r rhai sydd ei angen fwyaf.

“Rydym yn falch o groesawu Rachel i dîm Nyrsys Admiral ac edrychwn ymlaen at ei gweld hi’n rhagori yn y rôl hon.”

Gellir gwneud atgyfeiriadau i’r gwasanaeth ar gyfer gofalwyr y mae eu hanwyliaid ar hyn o bryd yn glaf mewnol yn Ward Sunderland neu Ward Dinbych-y-pysgod, Park House Court, ac sy’n profi anghenion cymorth cymhleth mewn perthynas â dementia. Gellir gofyn am atgyfeiriadau trwy siarad â staff y ward.