Neidio i'r prif gynnwy

Nid yw COVID-19 wedi diflannu

Diweddariad COVID Hywel Dda

22 Mawrth 2022

Nid yw COVID-19 wedi diflannu ac rydym ar hyn o bryd yn gweld niferoedd cynyddol yng nghymuned Hywel Dda ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae hyn yn arwain at fwy o gleifion COVID-19 yn ein hysbytai, mwy o alw ar dimau sylfaenol a chymunedol, a heriau o ran staffio.

Mae'r bwrdd iechyd yn aildrefnu ychydig o ofal wedi'i gynllunio, i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu cynnal, a chysylltir yn uniongyrchol â chleifion yr effeithir arnynt.

Mae gwasanaethau brys yn parhau i redeg, ynghyd ag apwyntiadau eraill sydd wedi'u trefnu, ond efallai y bydd angen i bobl aros yn hirach nag arfer a byddant yn cael eu blaenoriaethu'n glinigol.

Mae yna ffyrdd y gall y cyhoedd fod o gymorth.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau Andrew Carruthers: “Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau ein bod yn cefnogi timau ar lawr gwlad i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol mewn amgylchiadau heriol. Mae hyn yn golygu ein bod yn aildrefnu nifer fach iawn o lawdriniaethau. Rydym hefyd yn gwneud rhai addasiadau i staffio lle mae heriau mewn timau penodol, fel y gallwn ddarparu cymaint o gymorth â phosibl lle mae ei angen fwyaf.

“Gall y cyhoedd helpu’r GIG mewn sawl ffordd. Yn y bôn mae popeth a wnewch i leihau lledaeniad y trosglwyddiad a defnyddio gwasanaethau’r GIG yn gyfrifol yn ein helpu ni i’ch helpu chi.”

  • Os ydych yn teimlo’n sâl ac nad yw’n argyfwng meddygol, gallech gael eich gweld a’ch trin yn gynt yn eich fferyllfa leol neu wasanaeth mân anafiadau/galw i mewn. Gall gwefan y bwrdd iechyd eich arwain i ddewis y gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer le rydych chi’n byw https://hduhb.nhs.wales/healthcare/urgent-and-out-of-hours/
  • Os nad ydych yn siŵr pa gymorth y gallai fod ei angen arnoch, defnyddiwch y gwiriwr symptomau 111 yn y lle cyntaf - https://111.wales.nhs.uk/selfassessments/ - neu ffoniwch 111
  • Mewn argyfwng meddygol, pan fydd rhywun yn ddifrifol wael neu wedi'i anafu'n ddifrifol a bod ei fywyd mewn perygl (fel anymwybyddiaeth, anhawster anadlu, amheuaeth o drawiad ar y galon neu strôc, poen yn y frest, colled gwaed trwm, anaf difrifol neu losgiadau difrifol), dylech ffonio 999
  • Os oes gennych symptomau COVID-19 arhoswch gartref a chymerwch brawf ac os yn bositif, hunanynysu am o leiaf bum niwrnod (gallwch gymryd prawf LFD ar ddiwrnodau 5 a 6 ac os yw'r ddau yn negyddol gallwch adael ynysu, neu daw ynysu i ben ar ôl 10 diwrnod) Gellir archebu profion LFD yma: https://www.gov.uk/order-coronavirus-rapid-lateral-flow-tests
  • Ar hyn o bryd rydym yn gofyn i gleifion (hyd yn oed os nad oes ganddynt symptomau) i gymryd prawf LFD cyn teithio i unrhyw un o’n cyfleusterau (bydd gennych gyfarwyddiadau uniongyrchol os oes angen prawf PCR arnoch)
  • Mae ymweliadau ysbyty yn gyfyngedig gyda chytundeb ymlaen llaw, ffoniwch y ward yn gyntaf i gytuno
  • Yn yr ysbyty, cadwch bellter cymdeithasol, gwisgwch orchudd wyneb a golchwch eich dwylo'n aml

Diolch am helpu i gadw Hywel Dda yn ddiogel.