Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrdodau'r Cadeirydd a chanolbwyntio ar adferiad

Ar ddechrau 2022 hoffwn ddiolch o galon i bob un ohonoch sydd wedi gwneud cynifer o aberthau personol i gadw eich hun, eich anwyliaid a’ch cymdogion yn ddiogel.

Ac i bob un sy’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, beth bynnag fo’ch rôl, ac i’n holl wirfoddolwyr a’n partneriaid, am eich gwasanaeth rhyfeddol yn gofalu am gleifion a’n cymunedau yn wyneb y pandemig hwn – diolch o galon i chi i gyd.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rwyf wedi gweld a chlywed am y gweithredoedd mwyaf ysbrydoledig o wasanaeth personol ac aberth, sy'n gwneud i rywun feddwl o ddifrif am yr hyn sydd wir yn cyfrif.

Yn gynharach yn y gaeaf, suddodd ein calonnau pan nodwyd amrywiolyn COVID-19 newydd arall, sef Omicron, a bu'n rhaid i bob un ohonom dyrchu'n ddwfn ynom ein hunain eto er mwyn ymateb i her arall. Mae'n rhyfeddol sut y mae staff y GIG, a oedd eisoes wedi blino'n lân, wedi llwyddo i wneud hyn unwaith eto.

Yn gynharach y mis hwn, bu’n rhaid i ni gymryd camau i ddiogelu'r ddarpariaeth iechyd a gofal ar gyfer y rhai mwyaf difrifol wael, gan gynnwys blaenoriaethu apwyntiadau a chlinigau cleifion allanol a therapi ar gyfer y cleifion mwyaf brys a symud llawdriniaethau canser brys i Ysbyty’r Tywysog Philip dros dro. Mae absenoldebau staff sy’n gysylltiedig â COVID, cyfraddau heintio uchel, a’r mesurau y bu’n rhaid i ni eu cymryd yn parhau i gael effaith ar y gwasanaethau y gallwn eu darparu. Ar ran y Bwrdd Iechyd, mae’n ddrwg iawn gennyf os ydych wedi profi oedi wrth gael mynediad at ofal a thriniaeth.

Mae ein staff yn gweithio’n ddiflino i ddarparu gofal brys ac mewn argyfwng ar draws lleoliadau gofal sylfaenol, cymunedol a’n hysbytai, a hynny ym maes iechyd corfforol a meddyliol – gan wneud eu gorau glas bob dydd yn wyneb pwysau a heriau heb eu tebyg. Er ein bod yn credu efallai ein bod yn dechrau gweld yr egin glas cyntaf o adferiad wrth i gyfraddau'r achosion o'r coronafeirws ddechrau gostwng, mae ein hysbytai a'n gwasanaethau gofal sylfaenol a gofal cymunedol yn debygol o aros mewn sefyllfa anodd am beth amser wrth i ni addasu i natur newidiol y pandemig ac wrth i'n gweithlu’n dychwelyd i'w allu arferol.

Er mwyn helpu mae'n rhaid i ni i gyd barhau i fod yn wyliadwrus a dilyn y mesurau synnwyr cyffredin syml – er enghraifft gwisgo mwgwd a chadw pellter cymdeithasol – sydd wedi bod mor effeithiol ac yr ydym yn gwybod sy'n gweithio. Hefyd, mae gwneud prawf llif unffordd cyn treulio amser mewn mannau llawn pobl neu fannau caeedig, ymweld â phobl sydd mewn perygl uwch o salwch difrifol yn sgil COVID-19, neu deithio i ardaloedd eraill o Gymru neu’r DU, yn ein helpu i olrhain a chymryd camau ataliol i reoli’r feirws. Parhewch i roi gwybod am ganlyniadau eich prawf llif unffordd, hyd yn oed os yw'n negatif. Bydd cofnodi eich canlyniadau yn ein helpu i ymateb yn y ffordd orau i ofalu am ein cymuned a'i hamddiffyn.

Rhaid i unrhyw un sy'n ymweld â'n hysbytai am apwyntiad wneud prawf llif unffordd gartref a chael canlyniad negatif i'r prawf hwnnw cyn teithio i'r ysbyty. Mae hyn yn helpu i amddiffyn cleifion a staff eraill. Os ydych yn bwriadu ymweld â rhywun yn yr ysbyty, gofalwch eich bod yn trefnu ymlaen llaw gyda phrif nyrs y ward.

Er gwaethaf ein sefyllfa bresennol, a chwrs ansicr y pandemig, yn ddiamau, mae yna achos i fod yn optimistaidd. Yr adeg hon y llynedd nid oeddem wedi cael y brechlynnau am amser hir, a dim ond 36,611 o frechlynnau oedd wedi’u rhoi i bobl yng Ngorllewin Cymru. Ddechrau’r wythnos hon, mae dros 830,000 o frechlynnau wedi’u rhoi i bobl yn rhanbarth Hywel Dda.

Nid ar chwarae bach y cyflawnwyd hynny. Camodd pawb i'r adwy dros gyfnod y Nadolig i sicrhau bod ein Canolfannau Brechu Torfol yn aros yn agored fel y gallem roi cynifer o bigiadau atgyfnerthu a brechlynnau â phosibl. Diolch i’n prentisiaid newydd, nyrsys a staff, y fyddin a’n gwirfoddolwyr a ganslodd eu gwyliau Nadolig i wneud hynny, ac i’n holl feddygfeydd teulu a fferyllwyr cymunedol a ddarparodd frechlynnau trwy ein gwasanaethau gofal sylfaenol. Ni fyddwn yn gadael unrhyw un ar ôl.

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, rydym yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau ein bod yno i chi pan fydd arnoch angen ein gofal a’n gwasanaethau.

Mae arnom angen eich cymorth o hyd wrth i ni lywio ein ffordd trwy'r pandemig. Helpwch ni i'ch helpu chi i gael mynediad at help priodol pan fydd arnoch ei angen, er enghraifft trwy wirio'r gwiriwr symptomau ar-lein yma, neu drwy ffonio 111 os nad yw'n argyfwng.

Gall fferyllfeydd hefyd ddarparu rhywfaint o ofal galw i mewn, a thriniaethau ar gyfer anhwylderau cyffredin. Mae gennym hefyd unedau mân anafiadau yn ein rhanbarth sy’n gallu trin ystod eang o anafiadau – gellir dod o hyd i restr o le y maent ar gael yma. Ar gyfer unrhyw beth sy'n cael ei ystyried yn fater brys, ond nid yn argyfwng, gofynnwch am ofal trwy eich meddyg teulu.

Ond mae'n bwysig cofio y dylai unrhyw un sy'n wynebu argyfwng difrifol sy’n bygwth bywyd barhau i ffonio 999.

Un o'n heriau mwyaf yw rhyddhau cleifion iach o'r ysbyty. Mae yna sawl rheswm dros hyn; nid yw rhai cartrefi gofal yn gallu derbyn cleifion oherwydd achosion o COVID, ac mewn rhai ardaloedd mae prinder staff gofal cymdeithasol ac absenoldebau staff yn golygu nad oes modd helpu i ofalu am bobl yn eu cartrefi. Mae hyn yn ei gwneud yn anos derbyn cleifion newydd, tynnu pobl allan o ambiwlansys, a sicrhau bod ambiwlansys ar gael i ymateb i alwadau yn ein cymunedau. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i gynyddu gofal cymdeithasol, ac rydym yn gofyn i'r holl deuluoedd ac anwyliaid helpu os yn bosibl, trwy ddarparu gofal byrdymor yn y cartref neu ystyried lleoliadau dros dro mewn cartrefi gofal.

Fel yr ydym wedi’i wneud ers bron dwy flynedd, rydym yn parhau i weithio gyda’n gilydd i gadw Gorllewin Cymru mor ddiogel â phosibl rhag y feirws hwn trwy gynllunio ar gyfer y gwaethaf a gobeithio am y gorau. Diolch eto am ein cefnogi trwy wneud popeth y gallwch i ofalu am ein gilydd a’n cadw ni i gyd yn ddiogel.