Neidio i'r prif gynnwy

Meddygfa Solfach yn rhoi'r contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn ol

Bocs glas gyda geiriau datganiad i

15 Rhagfyr 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wrthi’n gweithio gyda Meddygfa Solfach yng ngogledd Sir Benfro i sicrhau bod gwasanaethau meddyg teulu’n parhau i gael eu darparu yn yr ardal wedi i’r feddygfa roi’r contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn ôl.

Cafodd y penderfyniad i roi’r contract â’r Bwrdd Iechyd yn ôl ei wneud gan unig bartner y feddygfa, sy’n ymddeol yn y gwanwyn.

Meddai Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffai’r Bwrdd Iechyd sicrhau cleifion Meddygfa Solfach y bydd y gwasanaethau pwysig hyn yn parhau i gael eu darparu ar gyfer cleifion.

“Byddwn yn cydweithio â Meddygfa Solfach a phractisiau cyfagos i ddod o hyd i’r ffordd orau o sicrhau gwasanaethau ar gyfer eu cleifion. Byddwn yn awr yn gweithio gyda’r tîm presennol a rhanddeiliaid i ddatblygu cynlluniau ar gyfer darparu gwasanaethau yn yr ardal yn y dyfodol.”

I gleifion sydd wedi cofrestru, mae hynny’n golygu y bydd gofal yn parhau i gael ei ddarparu’n ôl yr arfer gan yr un tîm yn y practis tan ddiwedd mis Mawrth 2023. Dylai cleifion sydd wedi cofrestru gyda’r practis aros yno tra bydd cynlluniau tymor hwy’n cael eu datblygu.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn ysgrifennu at bob claf sydd wedi cofrestru gyda Meddygfa Solfach i roi gwybod iddynt am y sefyllfa. Bydd cleifion yn cael eu gwahodd i rannu eu barn am sut y gellir parhau i ddarparu’r gwasanaethau hyn.

Bydd barn y gymuned leol a chleifion yn cael ei chasglu cyn bod unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud am sut y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn y tymor hir. Bydd y Bwrdd Iechyd yn cydweithio’n agos â’r Cyngor Iechyd Cymuned i sicrhau bod y gofal o safon uchel a ddarperir ar hyn o bryd yn parhau ar gyfer cleifion y feddygfa hon.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth barhaus y mae’r gymuned yn ei rhoi i’r tîm ym Meddygfa Solfach yn ystod y cyfnod anodd hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0300 303 8322 (opsiwn 5) neu anfonwch ebost i ask.hdd@wales.nhs.uk