Neidio i'r prif gynnwy

Meddygfa Cross Hands a'r Tymbl i ddychwelyd cytundeb Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol

4 Hydref 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn gweithio gyda Meddygfa Cross Hands a’r Tymbl yn Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod gwasanaethau meddygon teulu yn parhau i gael eu darparu yn yr ardal yn dilyn ildio eu cytundeb Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS).

Gwnaethpwyd y penderfyniad i ildio o’u cytundeb gyda’r bwrdd iechyd ddiwedd mis Mawrth 2024 gan y partneriaid yn dilyn ymdrechion aflwyddiannus i recriwtio Meddyg Teulu neu Uwch Ymarferydd ychwanegol i ymuno â’r practis prysur.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffai’r bwrdd iechyd roi sicrwydd i gleifion Meddygfa Cross Hands a’r Tymbl y bydd darpariaeth y gwasanaethau pwysig hyn yn parhau i gleifion.

“Rydym yn deall y gallai cleifion fod yn bryderus ar hyn o bryd, ond byddwn nawr yn gweithio gyda thîm y practis, clwstwr Aman a Gwendraeth a rhanddeiliaid lleol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer darparu gwasanaethau yn yr ardal yn y dyfodol.

“Mae’r bwrdd iechyd yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth barhaus a roddir gan y gymuned i’r tîm ym Meddygfa Cross Hands a’r Tymbl drwy gydol y cyfnod heriol hwn.”

Ar gyfer cleifion cofrestredig mae hyn yn golygu y bydd gofal yn parhau i gael ei ddarparu fel arfer gan yr un tîm yn y practis tan ddiwedd mis Mawrth 2024. Dylai cleifion barhau i fod wedi'u cofrestru gyda'r feddygfa tra bod cynlluniau tymor hwy yn cael eu datblygu.

Bydd y bwrdd iechyd yn ysgrifennu at yr holl gleifion sydd wedi'u cofrestru ym Meddygfa Cross Hands a'r Tymbl i roi gwybod iddynt am y sefyllfa. Gwahoddir cleifion a rhanddeiliaid i rannu eu barn ar sut y gellir parhau i ddarparu'r gwasanaethau hyn.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0300 303 8322 (opsiwn 5) neu e-bostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk